CRONFA CYMRU ACTIF: CLWB CRICED LLANELLI

06/11/2020

Mae Clwb Criced Llanelli, fel clybiau eraill, wedi teimlo effaith Coronafeirws ar ei glwb. Cyflwynodd y clwb gais i Gronfa Cymru Actif i ddiogelu'r clwb a sicrhau bod y clwb ar agor i ganiatáu i griced gael ei chwarae ac i eraill wylio'r gemau.

Clwb sy'n canolbwyntio ar y teulu yw Clwb Criced Llanelli ac mae eu rhan iau yn bwysig iddynt. 

Ar ôl cais llwyddiannus a derbyn £2,525, gall Clwb Criced Llanelli bellach dalu'r costau parhaus o ran costau tir ac offer yn ogystal â biliau cyfleustodau hanfodol ac yswiriant.

Mae hyn yn hanfodol i sicrhau bod diddordeb criced yn parhau yn y gymuned. Mae'n siŵr y bydd y cyllid hwn yn gymorth enfawr i'r clwb.

Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.