Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru.
Daeth clybiau lleol, grwpiau a sefydliadau at ei gilydd ar ddechrau’r cyfnod clo cenedlaethol er mwyn gofalu dros bobl yn y gymuned. Fe wnaethoch godi arian dros elusennau, dosbarthu prydiau bwyd i weithwyr y GIG, rhannu offer chwaraeon gyda cartrefi lleol a trefnu cwisiau arlein i helpu trigolion i gadw mewn cysylltiad gyda’i gilydd.
Dyna pam, ar y 15fed o Rhagfyr byddwn yn cefnogi ymgyrch y Loteri Genedlaethol i rhannu eich straeon ysbrydoledig! Dwedwn diolch o galon am eich caredigrwydd a’ch ymrwymias i gadw’r genedl i fynd, yn feddylion ac yn gorfforol!
Cliciwch i ddarllen y clybiau lleol Sir Gaerfyrddin lle mae eu gwirfoddolwyr wedi mynd y tu hwnt i gefnogi eu cymuned trwy gydol y pandemig;
- Clwb Criced Wanderers Caerfyrddin
- Clwb Gymnasteg Llanelli
- Clwb Codi Pwysau Llanelli
Os rydych chi’n nabod rhywun yn eich clwb neu prosiect sydd yn haeddu cydnabyddiaeth ar 15 Rhagfyr – rhannwch y stori ar eich sianeli cymdeithasol, tagiwch ni yn y neges a defnyddiwch yr hashnodau #DiolchiChi a #LoteriGenedlaethol
Byddwn yn cadw llygaid barcud am eich stori a rhannu ar ein sianeli ni fel bod eraill yn cael eu ysbrydoli hefyd. Edrychwn ymlaen at weld sut wnaethoch chi chwarae eich rhan.
Mwy o flogiau

Newyddion
Wel, am flwyddyn! Rwy'n amau y byddai unrhyw un ohonom wedi rhagweld 2020 mor gythryblus. Yn Actif, rydym yn ymwybodol iawn o'r ffordd y mae'r pandemig wedi effeithio ar iechyd a llesiant cynifer o bobl. Gan fod sawl gwasanaeth wedi'u cau, rydym wedi cael ein cyfyngu o ran y ffordd y gallem eich helpu i gadw'n heini ac yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol, ond nid yw hynny erioed wedi ein hatal rhag meddwl amdanoch na gwneud yr hyn a allwn.

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog dros y penwythnos, mae Canolfannau Hamdden Actif bellach wedi cau tan 18 Ionawr 2021. Rydym wedi amlinellu popeth sydd angen i chi ei wybod am ein canolfannau a'ch aelodaeth a sut y gallwch barhau i fod yn egnïol dros yr ŵyl.

Newyddion
Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru.

Newyddion
Yr wythnos yma, mae ymgyrch Ymrwymiad I.... y Loteri Genedlaethol yn dathlu ein harwyr chwaraeon ar lawr gwlad am eu hysbryd cymunedol yn ystod y misoedd diwethaf anodd yma.
Efallai bod Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ond mae un peth yn aros yr un fath: clybiau criced yw calon ein cymunedau ni. Nid yw clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr wedi profi eu hymrwymiad diddiwedd i'n pentrefi, ein trefi a'n cenedl ni ar y fath raddfa erioed o'r blaen. Da iawn!