PARHAU I GYSYLLTU Â'N CWSMERIAID NERS

10/02/2021

Mae ein tîm wedi bod yn gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad ac i helpu ein cwsmeriaid mwyaf bregus i fod mor egnïol â phosibl yn ystod y pandemig hwn.

Tîm NERS yn cefnogi atgyfeiriadau yn ystod y pandemig (ffeithlun atodedig)

O gofio'r risgiau cynyddol i'n cleientiaid yn sgil y pandemig a chael eu 'cyfyngu', mae ein tîm NERS wedi gweithio'n ddiflino i gadw mewn cysylltiad a helpu cleientiaid i fod mor egnïol â phosibl mewn ffordd ddiogel a phriodol. Hyd yma, mae'r tîm wedi gwneud 5221 o alwadau ffôn, wedi creu 683 o raglenni cartref, ac wedi recordio 5 sesiwn Ar Alw ymlaen llaw, y gall ein cleientiaid eu cyrchu drwy Wefan Actif (2,893 wedi edrych ar y cynnwys hwn ar hyn o bryd). Ym mis Tachwedd dechreuon ni ffrydio sesiynau llwybr ymadael NERS yn fyw drwy Actif Unrhyw Le, ac ers hynny rydym wedi cyflwyno 8 sesiwn NERS yr wythnos gyda mwy na 500 o bresenoldebau hyd yn hyn. Rydym yn bwriadu cynyddu nifer y sesiynau digidol ymhellach yn ystod yr wythnosau nesaf, gyda'r nod o gynnal a gwella iechyd da.

Sylwadau cwsmeriaid ar y sesiynau digidol:

“Rwy'n gwerthfawrogi'r dosbarthiadau ffrydio byw newydd yn fawr.  Fe wnes i eu mwynhau'n fawr ac roeddwn i'n hapus i ryngweithio â phobl eto.  Roedd yn rhaid i mi gael ychydig o help gyda'r ochr gyfrifiadurol, ond rwy'n hapus i gadw i fynd a dysgu sut i wneud pethau newydd.  Rwy' mor ddiolchgar am bopeth mae pob un ohonoch chi'n ei wneud i ofalu amdanon ni i gyd”.

“Ers gwneud yr ymarferion yn y dosbarth yn ogystal â’r rhaglen gartref, rwy' bellach yn gallu cerdded rhywfaint o gwmpas y tŷ heb fy maglau. Dywedwyd wrtha i na fyddai'n bosib i mi gerdded, felly mae hyn yn gyflawniad mawr i mi. Rwy' mor ddiolchgar i chi am eich cymorth a'ch cefnogaeth."

“Rwy' mor falch fy mod wedi ymuno â chynllun NERS, mae wedi bod o fudd mawr i mi.  Rwy'n cerdded y rhan fwyaf o ddyddiau ac rwy' hefyd wedi bod yn dilyn rhaglen ymarfer corff Otago.  Mae'ch galwadau wedi bod mor bwysig, ac rydw i a'm gŵr yn edrych ymlaen at yr alwad nesaf. Rwy' wedi bod yn dweud wrth fy ffrindiau am gynllun NERS ac yn dweud wrthyn nhw fod yn rhaid iddyn nhw gael eu hatgyfeirio”

Rhaglen Atal Codymau Ragweithiol

Ar hyn o bryd rydym yn gweithio i sicrhau cyllid i ddatblygu Rhaglen Adsefydlu Atal Codymau Ragweithiol 32 wythnos seiliedig ar dystiolaeth, a fydd yn pontio'r bwlch rhwng y gwasanaethau Iechyd a Hamdden. Bydd y rhaglen yn cynnig cyfle i unigolion sydd 'mewn perygl o gwympo, neu wedi cwympo' gael ymarferion seiliedig ar dystiolaeth i wella eu cryfder a'u cydbwysedd.

Byddwn yn gweithio gyda phartneriaid iechyd allweddol gan gynnwys Llesiant Delta (prosiect Connect), ffisiotherapi, dieteteg, fferylliaeth, podiatreg, gofal a thrwsio, gwasanaeth tân ac ati. Bydd y rhaglen yn cynnwys elfen addysg a fydd yn darparu cymorth, gwybodaeth ac arweiniad amhrisiadwy i rai o'r bobl mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Bydd yr elfen ymarfer corff ac addysg yn cael ei chyflwyno'n ddigidol gan ein galluogi i gyrraedd cartrefi pobl er mwyn lleihau unigrwydd ac arwahanrwydd cymdeithasol yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn.