CARL HOLDING YN SGORIO’N UCHEL DROS YSBRYD CYMUNEDOL

14/12/2020

Yr wythnos yma, mae ymgyrch Ymrwymiad I.... y Loteri Genedlaethol yn dathlu ein harwyr chwaraeon ar lawr gwlad am eu hysbryd cymunedol yn ystod y misoedd diwethaf anodd yma.

Efallai bod Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ond mae un peth yn aros yr un fath: clybiau criced yw calon ein cymunedau ni. Nid yw clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr wedi profi eu hymrwymiad diddiwedd i'n pentrefi, ein trefi a'n cenedl ni ar y fath raddfa erioed o'r blaen. Da iawn!

A phan ddaw'n fater o ysbryd cymunedol, caredigrwydd ac arloesi yn wyneb y pandemig, mae un dyn yn hawlio’r sylw. Carl Holding o glwb sydd wedi cael cefnogaeth gan y Loteri Genedlaethol, Wanderers Caerfyrddin. Ac oni bai eich bod  chi wedi bod yn ynysu ers mis Mawrth heb unrhyw fynediad at gyfryngau cymdeithasol, fe fyddwch chi’n gwybod pam.

Carl oedd y dyn y tu ôl i gystadleuaeth taflu darn arian Twitter, cystadleuaeth sy’n enwog erbyn hyn. Ychydig o hwyl oedd y cyfan ar y dechrau, ond yn y diwedd gwelwyd clybiau ledled Cymru’n cymryd rhan yn y twrnamaint ar gyfryngau cymdeithasol.

Gyda chymaint o dimau eisiau cymryd rhan, trefnodd Carl ddau dwrnamaint; y cyntaf yn cynnwys 64 o glybiau a'r ail yn cynnwys 128 o glybiau.

Gyda chymorth arbenigwr ar dechnoleg a chyd-aelod o'r clwb, Josh Thomas, cafodd Carl ei ffilmio’n taflu’r darn arian a chafodd y fideo ei uwchlwytho i gyfryngau cymdeithasol. Llwyddodd i gael enwogion fel enillydd Cwpan y Byd Heather Knight, chwaraewr gyda’r Sgarlets Dan Jones a llu o gricedwyr Morgannwg a Hampshire i gymryd rhan yn yr her taflu darn arian hefyd.

Roedd Carl yn aml yn derbyn hyd at 100 o negeseuon bob dydd gan glybiau criced ac roedd yn ymateb iddynt i gyd rhwng ei shifftiau fel gweithiwr allweddol. Mae ei ymdrechion i sicrhau nad oedd yr ysbryd cymunedol sydd i’w weld yn y byd criced yng Nghymru yn pylu yn ystod cyfyngiadau Covid-19 wedi cael eu cydnabod gan The Cricketer, a wnaeth ei anrhydeddu yn ddiweddar gyda Gwobr Cyfryngau Cymdeithasol y prosiect Arwyr y Cyfnod Clo.

Meddai Carl: "Mae gen i ddau o blant gartref felly roedd pethau braidd yn anhrefnus. Fe ddaeth allan o unman mewn gwirionedd, ond cydio yn syth. Mae'n eithaf braf cael fy nghydnabod oherwydd rydw i wedi ymwneud â chriced ers amser maith."

Derbyniodd Wanderers Caerfyrddin £450 o arian y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Roedd hwn yn help enfawr tuag at ddiheintyddion dwylo, arwyddion Covid-19 yn ogystal â chynnal a chadw’r tiroedd.

Mae Nigel Roberts, Cadeirydd y Clwb, yn hynod ddiolchgar:

"Diolch i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae'r arian yma wedi ein helpu ni i redeg y clwb yn ddiogel. Ac yn ogystal â'r grant yma, rydyn ni hefyd wedi derbyn 16 o ddyfarniadau gan y Gist Gymunedol dros y blynyddoedd, sydd wedi bod o help mawr bob amser i ddarparu cyfleoedd chwaraeon yn yr ardal.”

Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.