ACTIF YN ENNILL GWOBR FYD-EANG AM BROFIAD AELODAU

19/02/2021

Ers 2015, mae Actif wedi bod yn gofyn i gwsmeriaid ei ganolfannau hamdden am sgôr (NPS) ac adborth ar eu profiad drwy feddalwedd TRP i'n helpu i wella, a hynny fel un o'r dulliau o gyflawni ein gweledigaeth o ddarparu gwasanaethau sy'n arwain y sector. Enillodd Canolfan Hamdden Caerfyrddin wobr arian gan TRP am safonau uchel ychydig flynyddoedd yn ôl, ac erbyn hyn mae Llanelli wedi ennill yr un wobr.

Ond ar gyfer 2020, mae Actif hefyd wedi ennill gwobr gyffredinol TRP am y profiad aelodau sydd wedi gwella fwyaf – yn gyntaf o blith yr awdurdodau lleol sy'n defnyddio TRP ac yna ar draws pob sector! Mae hyn wedi golygu curo cystadleuaeth gan y sector preifat, ymddiriedolaethau, cyfleusterau addysg a chlybiau golff o bob rhan o'r DU, America ac Awstralia.

Hoffem ddiolch yn fawr iawn i'n holl staff sy'n ymroddedig i ddarparu'r profiadau gwych hyn, a hefyd i'n cwsmeriaid ffyddlon am roi'r sgorau a'r adborth sydd wedi ein galluogi i wybod ble i wella a monitro ein perfformiad.

Dim ond 2 wobr gyffredinol sydd, a'r llall yw 'Gorau' – dyna fyddwn yn anelu ati nesaf!

aelod