Gweithio i Ni

Gweithio i Chwaraeon a Hamdden Actif

Ydych chi'n barod i helpu pobl o bob oed i fyw bywyd iachach ac egnïol?

Ein prif fwriad yw helpu pobl i wella eu bywydau trwy weithgaredd corfforol a hamdden iach.

Rydym yr un mor angerddol am ein pobl ag yr ydym am annog pawb i fod yn gorfforol egnïol a mwynhau'r manteision iechyd sy'n deillio o fabwysiadu'r ffordd hon o fyw. Rydym yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y gall cael y person iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn ei chael ar eraill o ran cynrychioli brand Actif a chefnogi ein huchelgeisiau busnes i wasanaethu ein cymunedau.

Actif yw adran Chwaraeon a Hamdden Cyngor Sir Caerfyrddin. Mae'r gwasanaeth yn cynnwys;

  • 6 chanolfan hamdden; (3 phrif ganolfan gyda chymysgedd cyfleusterau ochr gwlyb a sych, a 3 safle llai gyda chyfleusterau gwlyb neu sych)
  • Cyfleusterau mewn 2 safle ysgol yn gweithredu gyda'r nos ac ar benwythnosau
  • Tîm cymunedau sy'n gweithio gydag ystod o bartneriaid i wella cyfleoedd i fod yn fwy egnïol trwy weithgaredd corfforol, chwaraeon cymunedol ac ymyriadau iechyd a llesiant.
  • Tîm iechyd sy'n rheoli ac yn darparu ymyriadau iechyd fel Cynllun Cenedlaethol i Atgyfeirio Cleifion i Wneud Ymarfer Corff, Atal Cwympiadau, ac ati.

Mae'r uchod i gyd yn gwasanaethu poblogaeth o 185k, gan hwyluso cyfres amrywiol, gynhwysol, effeithiol o gyfleoedd gweithgarwch sy'n arwain at oddeutu 1.6m o bobl yn cymryd rhan bob blwyddyn.

Ein Cenhadaeth

Gwella llesiant drwy ysbrydoli ein poblogaeth i fod yn egnïol am oes.

Ein cenhadaeth yw sicrhau bod pawb sy'n byw yn Sir Gaerfyrddin yn cael y cyfle i Ddechrau'n Dda, Byw'n Dda a Heneiddio'n Dda trwy gyfleusterau a gwasanaethau ‘a reolir yn dda’ ac sydd â ‘chysylltiadau da’  i sicrhau bod cynifer o bobl â phosibl yn cymryd rhan a'n bod yn ymgysylltu'n eang ledled y sir.

Ein Gweledigaeth

Byddwn yn creu Sir Gaerfyrddin egnïol ac yn sefydlu ein hunain fel y gwasanaeth mwyaf llwyddiannus a dibynadwy yn y DU.

Ein Gwerthoedd

Mae ein gweithredoedd yn seiliedig ar sylfaen o werthoedd craidd sy'n ein rhoi ar flaen ffordd, sef;

  • Rhoi'r Flaenoriaeth i Gwsmeriaid - rydym yn sicrhau bod anghenion ein cwsmeriaid yn ganolog i bopeth a wnawn
  • Gwrando – rydym yn gwrando er mwyn dysgu, deall a gwella nawr ac yn y dyfodol
  • Rhagoriaeth – rhagoriaeth yw ein nod parhaus, gan sicrhau'r safon uchaf posibl bob amser trwy fod yn greadigol, mabwysiadu ffyrdd arloesol o weithio, a chymryd risgiau ar ôl eu pwyso a'u mesur
  • Uniondeb – rydym yn gweithredu ag uniondeb ac yn gwneud y pethau iawn bob amser
  • Cymryd Cyfrifoldeb – rydym i gyd yn cymryd perchenogaeth ac atebolrwydd personol dros yr hyn a wnawn

Dewch draw i weld drosoch eich hunan...

Yma yn Actif, rydym yn ymdrechu i ragori ac ennill enw fel arweinydd sector ar bob agwedd o'r gwaith. Mae ein brwdfrydedd ym mhopeth a wnawn wedi arwain at ennill rhai o'r gwobrau mwyaf uchel eu parch a mawreddog yn y diwydiant….

  • Ennill Gwobr Diogelwch Hamdden Aur RoSPA ar y cynnig cyntaf (Cymdeithas Frenhinol er Atal Damweiniau), un o'r cynlluniau mwyaf mawreddog a chydnabyddedig yn y byd.
  • Gwobrau Actif Cenedlaethol y DU; Canolfan Hamdden Caerfyrddin, llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yng nghategori Clwb y Flwyddyn 2019; Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, llwyddo i gyrraedd y rownd derfynol yn y categori  Clwb/Canolfan y Flwyddyn Ranbarthol a Chenedlaethol 2020.
  • Mae lefelau gwasanaeth cwsmeriaid yn ein canolfannau hamdden ymhlith y gorau yn y DU a thu hwnt, gyda Sgoriau Net Promoter (NPS) wedi'u meincnodi gan gwsmeriaid yn cyrraedd yr uchaf ers i ni gyflwyno'r system 5 mlynedd yn ôl.
  • Mae ymweliadau sy'n digwydd ar hap yn ein graddio yn ‘Ardderchog’ gyda sgôr o 75.5% ledled y sir, ac mae Canolfan Hamdden Dyffryn Aman ymhlith yr ychydig o gyfleusterau yn y wlad i sgorio 100%.
  • Buddsoddwyr mewn pobl achrededig platinwm (Cyngor Sir Caerfyrddin)
  • Gwobr Achrededig InSport (Efydd)

Y Swyddi Gwag Diweddaraf yn Chwaraeon a Hamdden Actif

Mae modd gweld ein swyddi gwag diweddaraf, proffiliau swyddi, dyddiadau cau a'r ffurflen gais ar-lein isod. Mae'r adran hon yn cael ei diweddaru'n rheolaidd ac mae modd cael gwybodaeth am swyddi gwag newydd ar draws ein holl gyfleusterau, cymunedau ac ysgolion.

 

Am holl swyddi a gyrfaoedd eraill yng Nghyngor Sir Gaerfyrddin, cliciwch yma

Y manteision o weithio i ni

Rydych yn ymuno â Chyngor rhagweithiol sy'n perfformio'n dda ac sy'n ceisio darparu gwasanaethau o ansawdd da a gwneud Sir Gaerfyrddin yn lle gwell i fyw, i weithio ac i fwynhau. Sir Gaerfyrddin yw un o'r awdurdodau unedol mwyaf yng Nghymru, a'r Cyngor Sir yw'r cyflogwr mwyaf yn lleol gan ei fod yn cyflogi tua 8,300 o staff.

Mae yna wahanol fuddiannau a threfniadau gweithio i gynorthwyo gweithwyr yn eu bywyd gwaith a’u bywyd personol, sy'n cynnwys:

  • Rhaglen sefydlu gynhwysfawr
  • Cyfleoedd Datblygu
  • Cynllun buddion  ar gael i'r holl weithwyr sy'n cynnig nifer o ostyngiadau a hyrwyddiadau gan ystod o fanwerthwyr a darparwyr gwasanaethau lleol
  • Cynllun beicio i'r gwaith (beiciau di-dreth ar gyfer teithio i'r gwaith)
  • 26 diwrnod gwyliau â thâl y flwyddyn (ynghyd ag 8 diwrnod statudol) yn codi i 31 diwrnod (ynghyd ag 8 diwrnod statudol) ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth parhaus a hyd at 34 diwrnod (ynghyd ag 8 diwrnod statudol) ar ôl 10 mlynedd o wasanaeth parhaus’.
  • Amrywiaeth o drefniadau gweithio hyblyg gan gynnwys cynllun amser hyblyg, trefniadau absenoldeb arbennig, rhannu swydd, gweithio gartref (cynllun peilot ar hyn o bryd)
  • Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol - mae'r cynllun hwn yn cynnig ystod o fuddion gan gynnwys pensiwn diogel, hyblygrwydd i dalu mwy neu lai mewn cyfraniadau, yn effeithlon o ran treth  heddiw ac yn y dyfodol, tawelwch meddwl ychwanegol i chi a'ch teulu.
  • Cynllun Ymddeoliad Hyblyg
  • Gwasanaeth Iechyd Galwedigaethol sy'n cynnig sgrinio iechyd a ffordd o fyw, cwnsela a chymorth arall.
  • Cynllun Tâl Salwch

Hyfforddiant a Datblygu

Er y byddwn efallai yn gofyn am gymwysterau a phrofiad penodol ar gyfer rhai o'n swyddi, rydym wedi ymrwymo i gefnogi gweithwyr i feithrin eu sgiliau. Dyma rai o'r ffyrdd rydym yn gwneud hyn:

  • Arfarniadau rheolaidd a chynlluniau datblygu personol
  • Cyrsiau hyfforddiant
  • E-ddysgu
  • Secondiadau
  • Prentisiaethau

Rydym yn rhoi ein pobl yn gyntaf ym mhopeth a wnawn, gan ein bod yn gwybod mai ein pobl sy'n gwneud gwahaniaeth ac sy'n gwneud i bethau ddigwydd. Rydym yn gyflogwr gofalgar ac wedi ennill safon Buddsoddwr mewn Pobl.  Rydym wedi ymrwymo i ddysgu a datblygu er mwyn cefnogi ein gweithwyr i feithrin eu sgiliau, ac rydym yn cynnig amrywiaeth o drefniadau gweithio a buddiannau er mwyn helpu pobl i gydbwyso bywyd a gwaith.

Rydym yn cydnabod ac yn cymell blaengarwch, gwaith rhagorol a safonau o'r radd flaenaf, ac rydym wedi ymrwymo i gyfathrebu â'n staff ac i wrando arnynt ynghyd â hybu cydraddoldeb a gwerthfawrogi amrywiaeth.

Beth rydym yn chwilio amdano

Rydym yr un mor angerddol am ein pobl ag yr ydym am annog pawb i fod yn gorfforol egnïol a mwynhau'r manteision iechyd sy'n deillio o fabwysiadu'r ffordd hon o fyw. Rydym yn cydnabod yr effaith gadarnhaol y gall cael y person iawn yn y lle iawn ar yr adeg iawn ei chael ar eraill o ran cynrychioli brand Actif a chefnogi ein huchelgeisiau busnes i wasanaethu ein cymunedau.

Rydym yn cyflogi pobl sy'n rhannu yr un angerdd am ein cenhadaeth, ein gweledigaeth a'n gwerthoedd. Ein nod yw arwain y sector a chyflogi staff sydd â'r un egni ac arbenigedd i lwyddo yn eu rôl.