DATBLYGIADAU FFITRWYDD A GWELLIANT DIGIDOL I'N CYFLEUSTERAU

10/02/2021

Prosiectau datblygu ffitrwydd

  1. Pwll Nofio Llanymddyfri yn dod yn ganolfan hamdden – newyddion cyffrous

Mae ad-drefnu ysgolion yn Llanymddyfri wedi arwain at le a grant o £350k ar gyfer trawsnewid rhan o hen safle 'Ysgol Pantycelyn' yn gampfa a stiwdio Actif newydd, yn ogystal â defnydd o'r ystafell gymunedol, y neuadd, a nosweithiau a phenwythnosau ar y Maes Chwarae Amlddefnydd, gan ein galluogi i ddarparu cynnig Canolfan Hamdden lawn i'r gymuned.

Bydd enw'r ganolfan hefyd yn newid i Ganolfan Hamdden Llanymddyfri ac rydym wedi prynu offer Life Fitness newydd o'r radd flaenaf a beiciau sbin ICG, sy'n golygu bod bron i hanner miliwn o bunnoedd wedi cael ei fuddsoddi. Mae'r gwaith bron â gorffen yn y ganolfan a'r disgwyl yw y bydd y cyfleuster yn agor  ym mis Ebrill. Byddwn yn gosod system MyRide ICG Connect i gyd-fynd â'r beiciau sbin newydd i wella rhagor ar y profiad ymarfer corff i'n cwsmeriaid.

llc
  1. Ailwampio Ffitrwydd yng Nghanolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn

Datblygiad cadarnhaol arall yw bod Actif wedi prynu offer Life Fitness o'r radd flaenaf a beiciau sbin ICG, i ailwampio cyfleusterau ffitrwydd Canolfan Hamdden Castellnewydd Emlyn yn llwyr – buddsoddiad hir-ddisgwyliedig. Bydd y buddsoddiad yn rhoi ystod ehangach o offer i'n cwsmeriaid ar draws pob agwedd allweddol; cardiofasgwlaidd, ymarfer cryfder ac ymarfer swyddogaethol. Byddwn yn gosod system MyRide ICG Connect i gyd-fynd â'r beiciau sbin newydd i wella rhagor ar y profiad ymarfer corff i'n cwsmeriaid.

Mae trafodaethau cadarnhaol ar y gweill hefyd i wella'r hyn sy'n cael ei gynnig yn yr aelodaeth – gwyliwch y gofod hwn!

nce
  1. Gwelliant sylweddol i gyfleusterau sbin Canolfan Hamdden Sanclêr

Bydd gwelliant sylweddol i sesiynau beiciau sbin Canolfan Hamdden Sanclêr gan y bydd cyfres o feiciau IC6 blaengar yn cyrraedd yno cyn hir, ynghyd â system MyRide ICG Connect er mwyn gwella rhagor ar y profiad ymarfer corff i'n cwsmeriaid.

Bydd hyn yn golygu y gellir cynnal y sesiynau rhithwir y mae rhai o'n safleoedd eraill wedi bod yn elwa arnynt, gan gynnwys 'coach-by-colour' i weddnewid y ffordd rydym yn sbinio, a chynyddu nifer y dosbarthiadau sydd ar gael.

sclc

Gwelliant digidol pellach i'n cyfleusterau Actif

Un o'r pethau cadarnhaol ddeilliodd o 2020 heriol oedd y gwelliannau mewn technoleg ddigidol.

Yn haf 2020 fe wnaethom lansio ein platfform digidol Ffrydio Byw newydd o'r enw Actif Unrhyw Le, sy'n ceisio ymestyn cyrhaeddiad Actif er mwyn darparu cyfleoedd i fod yn egnïol i unigolion gydol eu hoes – gartref, yn y gwaith, y tu allan... bob man! Ar hyn o bryd rydym yn darparu tua 30 sesiwn bob wythnos rhwng ffitrwydd, iechyd a Chymunedau Actif. Gall cwsmeriaid gyrchu'r gwasanaeth drwy unrhyw deledu/ffôn clyfar, gliniadur ac ati. Mae'r sesiynau i gyd yn ddwyieithog ac mae rhai'n Gymraeg, felly mae hwn yn llwyfan gwirioneddol leol ac iddo gyrhaeddiad byd-eang.

Ymysg y gwelliannau digidol pellach rydym yn awyddus i'w gweithredu yn ystod y misoedd nesaf y mae systemau sain newydd/gwelliannau iddynt, goleuadau a sgriniau teledu ym mhob cyfleuster i sicrhau ein bod yn cynnig profiad o safon i'n cwsmeriaid ac yn gallu hyrwyddo ein gwasanaethau i ddarpar gwsmeriaid.