CEFNOGAETH COVID-19 - Cronfa Cymru Actif
Mae pandemig COVID-19 wedi cael effaith sylweddol ar gymunedau ledled Cymru ac mae chwaraeon yn y gymuned wedi dioddef o ganlyniad.
Nod Cronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru yw DIOGELU a DATBLYGU clybiau chwaraeon cymunedol a sefydliadau dielw yn ystod y pandemig.
Erbyn hyn mae 2 fath o grantiau ar gael -
Diogelu –
Bydd y grant hwn yn helpu i ddiogelu clybiau a sefydliadau cymunedol sydd mewn perygl ariannol uniongyrchol ac nad ydynt yn gallu cyflawni eu rhwymedigaethau ariannol oherwydd COVID-19.
Mae grant rhwng £300 a £5000 ar gael, ac mae rhai o'r enghreifftiau o gyllid yn cynnwys: rhent, costau cyfleustodau, yswiriant a llogi cyfleusterau neu offer (lle mae hyn yn gost sefydlog)
Cynnydd –
Bydd y grant hwn yn helpu chwaraeon a gweithgareddau i ddatblygu eu cynlluniau ar gyfer y dyfodol.
Mae grantiau o £300 i £50,00* ar gael a'r nod yw helpu clybiau a sefydliadau cymunedol i wneud y canlynol:
Mynd i'r afael ag anghydraddoldeb
Creu atebion hirdymor i fod yn fwy cynaliadwy
Mabwysiadu dulliau arloesol
* Bydd angen i chi wneud cyfraniad o 10% ar gyfer grantiau dros £10k neu 20% dros £25k.
Os yw'ch clwb yn ystyried gwneud cais, cysylltwch â ni i sicrhau eich bod yn cwrdd â'r meini prawf a osodwyd gan Sport Wales, neu ag unrhyw un o'ch anghenion Datblygu Clwb eraill. Rydyn ni yma i helpu.