CRONFA CYMRU ACTIF: CLWB RESLO LLANELLI

06/11/2020

Mae Clwb Reslo Llanelli, fel llawer o glybiau chwaraeon eraill, wedi gweld effeithiau Covid-19 ar fyd reslo, ac o ganlyniad cyflwynodd y clwb gais i Gronfa Cymru Actif.

Ym mis Gorffennaf 2020, gwnaeth y clwb gais am gyllid i ddiogelu'r clwb. Byddai cais llwyddiannus yn eu helpu o ran unrhyw gostau megis biliau cyfleustodau ac aelodau. 

Mae'r clwb bellach wedi derbyn £3,250 a fydd yn helpu'r clwb drwy'r cyfnod anodd hwn.

Bydd y grant bellach yn cael ei ddefnyddio i dalu am logi lleoliad am 3 mis, yn ogystal â thalu biliau cyfleustodau ac yswiriant, a fydd yn lleihau eu pryderon yn sylweddol.

Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.