CRONFA CYMRU ACTIF: CLWB PEL-DROED RHYDAMAN

06/11/2020

Cyflwynodd y clwb, sydd ag achrediad platinwm Cymdeithas Bêl-droed Cymru, gais i Gronfa Cymru Actif er mwyn paratoi i barhau i ddarparu cyfleoedd yn y gymuned a gwasanaethau'r clwb. 

Mae'r clwb yn cynnig darpariaeth pêl-droed i dros 350 o chwaraewyr ar draws 20 grŵp oedran, gan gynnwys pêl-droed mini i blant o dan 6, pêl-droed iau i'r rheiny o dan 16 yn ogystal â grwpiau oedran i ferched, grŵp anabl a grŵp hŷn. Mae rhwymedigaeth ar y clwb i ddychwelyd yn ddiogel, gan sicrhau bod llesiant ei aelodau wrth wraidd y gwaith paratoi. 

Defnyddiodd y clwb y £1,460 i roi hyfforddiant Ymwybyddiaeth o Covid i arweinwyr grwpiau oedran, drwy Gymdeithas Chwaraeon Cymru, prynu adnoddau gwerthfawr ar gyfer grwpiau oedran megis diheintyddion ac adnoddau cymorth cyntaf diogel rhag Covid, yn ogystal ag offer ychwanegol sydd ei angen i ddychwelyd yn ddiogel. 

Mae hyn wedi galluogi'r clwb i barhau i gynnig ei ddarpariaeth gynhwysol i'r gymuned mewn amgylchedd diogel rhag Covid, sydd wedi arwain at nifer sefydlog o aelodau.

Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.