CRONFA CYMRU ACTIF: CLWB HOCI CAERFYRDDIN

06/11/2020

Mae clwb Hoci Caerfyrddin yn glwb cymunedol ffyniannus sy'n ymfalchïo mewn datblygu unigolion a rhoi cyfleoedd i'r gymuned.

Oherwydd COVID-19 mae clwb Hoci Caerfyrddin wedi ei chael hi'n anodd iawn cynnal yr aelodaeth bresennol a chodi arian fel y byddent fel arfer. 

Drwy gais llwyddiannus Hoci Caerfyrddin i Gronfa Cymru Actif, cawsant £1,304. Gallant bellach gyfrannu at wariant ychwanegol a fydd yn cefnogi'r clwb drwy'r tymor nesaf. 

Mae clwb cymunedol Hoci Caerfyrddin yn rhan hanfodol o'r gymuned, sy'n darparu sesiynau hwyliog a chynhwysol i bob oedran.

Drwy Gronfa Cymru Actif gall y clwb llwyddiannus hwn barhau i ddod â chyfleoedd i'w cymuned.

Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.