CRONFA CYMRU ACTIF: CLWB GYMNASTEG DIMAX LIMITED

06/11/2020

Yn ystod y pandemig mae Dimax Gymnastics wedi colli ei brif leoliad hyfforddi oherwydd y rheoliadau.

Mae hyn wedi arwain at golled incwm sydd yn ei dro wedi effeithio ar arbedion y sefydliad, yn ogystal â cholli 50% o'i gymnastwyr sgwad.   

Cyflwynodd y clwb gais i Gronfa Cymru Actif i ddiogelu'r sefydliad. Derbyniodd y sefydliad £4,350 sydd wedi'i helpu i fodloni rhwymedigaethau ariannol megis costau llogi offer, rhent adeiladau yn ystod y cyfyngiadau symud, a thalu biliau cyfleustodau pan nad oedd cynhyrchu incwm yn bosibl.

Mae'r gronfa wedi helpu i leihau pryderon y trafferthion ariannol y mae'r clwb yn eu hwynebu o ystyried yr anawsterau o ran dychwelyd i chwarae.

Os hoffai eich clwb wneud cais am gyllid a bod angen cymorth arno, mae croeso i chi gysylltu â Thîm Cymunedau Actif neu darllen mwy ar dudalen Cefnogaeth COVID-19 - Cronfa Cymru Actif.