22/04/2022

Mae ein haelodaeth Actif Unrhyw Le bellach AM DDIM i bawb sy'n aelodau ffitrwydd.

Roedd aelodaeth Actif Unrhyw Le arfer costio £7.50 y mis yn ychwanegol.

Bellach byddwch yn gallu cael mynediad i amserlen o ddosbarthiadau byw, ynghyd â fideos Ar Alw yn eich amser eich hun.

Beth yw Actif Unrhyw Le?

Gwasanaeth ffrydio byw newydd sbon yw Actif Unrhyw Le, sy'n cynnig dosbarthiadau ffitrwydd amser real i chi y gallwch eu gwneud yn unrhyw le, trwy ddefnyddio'ch ffôn, llechen, neu liniadur. Mae gennym hefyd amrywiaeth o sesiynau ymarfer corff ar alw sydd ar gael unrhyw le.

Beth sy’n rhan o'r cynnig?

Mae gennym lu o ddosbarthiadau ffitrwydd y gallwch chi gymryd rhan ynddynt. Yn eu plith y mae Cryfder a Chyflyru, Cardio a Dygnwch, dosbarthiadau Dawns, HIIT, Ioga ac Ymlacio a Beicio a mwy! Mae rhywbeth at ddant pawb.

Bydd yr ddosbarthiadau byw dan law ein hyfforddwyr Actif cyfeillgar. 

Manteision Actif Unrhyw Le

  • Dim angen teithio
  • Yn fyw ac yn rhyngweithiol
  • Ffitio o amgylch eich trefn ddyddiol
  • Rhwydd i'w gyrchu ac yn gyfleus
  • Gallwch ei wneud yn unrhyw le, ac mae modd cyrchu'r platfform ar eich ffôn, eich gliniadur ac ar eich llechen
  • Hyfforddi â'ch hoff hyfforddwyr Actif
  • Cyfarwyddiadau ysgogol o ansawdd uchel gan ein hyfforddwyr