Ystafelloedd Newid Canolfan Hamdden Llanymddyfri

29/05/2023

Newyddion cyffrous a gwybodaeth bwysig i gwsmeriaid Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Bydd Canolfan Hamdden Llanymddyfri yn gweld gwaith uwchraddio cyffrous gwerth £40,000 i lawr ystafell newid y pwll nofio.

Bydd y prosiect hwn yn dechrau ddydd Llun 5ed Mehefin a bydd yn cymryd tua 4 wythnos i'w gwblhau.

Beth mae hyn yn ei olygu i gwsmeriaid?

Bydd y pyllau nofio yn parhau ar agor tra bydd y gwaith yn cael ei wneud. Fodd bynnag, ni fydd y cawodydd a'r ystafelloedd newid yn gweithredu o 5ed Mehefin. O ganlyniad, gofynnwn i chi gyrraedd ar gyfer eich sesiwn ‘swim ready’ (dillad nofio dan ddillad). Ar ôl eich nofio bydd gennym godennau newid pebyll cludadwy ar ochr y pwll a fydd yn rhoi'r preifatrwydd i chi sychu a newid ar ôl eich nofio (gweler y llun).

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra y bydd hyn yn ei achosi dros y 4 wythnos nesaf. Fodd bynnag, rydym yn gyffrous iawn bod y gwaith hwn yn cael ei wneud o'r diwedd, a gobeithiwn y bydd yn creu profiad gwell i holl ddefnyddwyr y pwll nofio.

Sut mae hyn yn effeithio ar wersi nofio?

Bydd gwersi nofio hefyd yn parhau fel arfer, ond eto, gydag ystafelloedd newid allan o drefn, dim ond y codennau newid cludadwy y gallwch eu defnyddio i newid. Gofynnwn i chi ddod â’ch plentyn ‘yn barod i nofio’ ar gyfer ei wers.

Parcio ceir

Bydd y contractwr yn cymryd rhai o'r lleoedd parcio tra bydd y gwaith yn cael ei wneud, ond byddwn yn ceisio cyfyngu hyn i nifer fach fel bod digon o leoedd parcio o hyd i aelodau'r ganolfan hamdden.

Ymddiheurwn eto am yr anghyfleustra a achoswyd.