Wythnos Maeth a Hydradiad

12/03/2024

Y bwydydd gorau i berfedd iach

Yn syml, mae perfedd iach yn un sy'n gallu treulio bwyd, amsugno maetholion a chael gwared ar wastraff yn effeithiol. Mae llawer o bethau y gallwn eu gwneud i helpu i gadw ein perfedd yn iach ac yn gweithio yn y modd gorau posibl. Mae bwyta bwydydd sy'n gyfeillgar i'r perfedd yn rhan bwysig o leihau problemau treulio a diffyg o ran maetholion.

Dyma rai o'r bwydydd gorau ar gyfer perfedd iach: 

Ffrwythau a llysiau: Mae'r rhain yn darparu ffeibr, fitaminau a mwynau, gan helpu i hybu'r corff i dreulio'n rheolaidd ac yn iach ac atal rhwymedd. 

Brasterau iach: Mae bwydydd sy'n cynnwys llawer o Omega-3 fel cnau, hadau a physgod olewog yn dda i'r perfedd gan fod y brasterau iach hyn yn gallu lleihau llid a gwella imiwnedd.

Grawn cyflawn: Mae llawer o ffeibr mewn pasta, grawnfwydydd a bara grawn cyflawn sy'n hanfodol er mwyn cael gwared ar wastraff yn effeithiol. 

Protein: Mae ffynonellau protein main fel cyw iâr, pysgod neu brotein sy'n seiliedig ar blanhigion yn bwysig ar gyfer cael amrywiaeth microbaidd yn y perfedd. 

Perlysiau a sbeisys: Mae garlleg, sinsir a thyrmerig nid yn unig yn dda am ychwanegu blas at fwyd. Maent yn cynnwys ffytocemegolion sy'n helpu i hybu treuliad iach ac yn lleihau llid.

Ffa a chodlysiau: Mae'r llawer o ffeibr a phrotein yn y rhain sy'n hanfodol ar gyfer treulio ac ysgarthu – mae ffa a chodlysiau hefyd yn darparu amrywiaeth o fitaminau a mwynau pwysig sy'n gwella imiwnedd. 

Mae bwydydd eplesedig: Iogwrt, bresych picl, kimchi a kefir yn cynnwys bacteria byw a all helpu i gynyddu lefelau microbau iach yn y perfedd. 

Dŵr: Mae dŵr yn hanfodol ar gyfer atal rhwymedd. Wyth gwydr (8) y dydd yw'r canllaw yn gyffredinol i oedolion iach.