Wythnos Maeth a Hydradiad (2)

14/03/2024

Sut i aros wedi'ch hydradu cyn, yn ystod ac ar ôl ymarfer corff

Mae sicrhau ein bod wedi ein hydradu'n ddigonol wrth ymarfer corff yn hanfodol - mae'n bwysig peidio â dibynnu ar syched yn unig i ddweud wrthym faint i'w yfed.

Mae yfed digon o hylif yn cadw ein cyhyrau'n gweithio'n dda, yn helpu i atal blinder, yn hyrwyddo adferiad, ac yn gofalu bod yr hylif a gollir drwy chwysu yn cael ei roi yn ôl.

Dyma rai canllawiau cyffredinol i'w dilyn:

  • Yfwch o leiaf 2 wydraid o ddŵr yn y 2 awr cyn eich bod yn ymarfer.
  • Gwnewch yn siŵr fod dŵr gyda chi bob amser wrth ymarfer corff – mae sipian yn rheolaidd yn well na llyncu'r cyfan i lawr ar unwaith.
  • Anelwch at yfed tua 1 gwydraid (tua 250ml) ar gyfer pob 30 munud o ymarfer corff.
  • Ceisiwch yfed gwydraid arall o ddŵr yn yr awr yn dilyn eich ymarfer.

Dŵr plaen sydd orau ar gyfer aros wedi'ch hydradu. Gall diodydd chwaraeon a sudd ffrwythau wedi'i wanhau fod o fudd wrth gymryd rhan mewn digwyddiadau dygnwch. Fel arfer byddant yn cynnwys rhywfaint o garbohydrad fel tanwydd yn ogystal ag electrolytau i helpu i gymryd lle'r rhai a gollwyd yn ystod cyfnodau mwy dwys o ymarfer corff.

Os yw blas yn ffactor pwysig o ran eich helpu i yfed digon, mae sudd ffrwythau wedi'i wanhau neu ddiodydd chwaraeon mewn dŵr yn iawn - yn enwedig os yw'n golygu y byddwch chi'n cadw'ch hun wedi'ch hydradu'n dda.

Er gall ffactorau eraill ddylanwadu ar hyn, mae cadw llygad ar liw eich wrin yn gallu rhoi syniad da i chi a ydych wedi'ch hydradu'n ddigonol. Yn ddelfrydol dylai eich wrin fod yn lliw melyn golau, nid yn glir.

Mae aros wedi'ch hydradu wrth ymarfer corff yn bwysig iawn - ond eto mae'n cael ei esgeuluso'n rhy aml - er ei fod yn rhan o sicrhau ein bod yn teimlo'n dda ac yn perfformio ar ein gorau yn ystod gweithgarwch corfforol.