Wythnos Bwyta'n Iach - Mehefin 2024

09/06/2024

10 awgrym i fwyta mwy o ffrwythau a llysiau

Rydym yn ymwybodol iawn o'r manteision sy'n gysylltiedig â bwyta mwy o ffrwythau a llysiau. Maen nhw'n cynnwys maetholion hanfodol sydd eu hangen ar ein cyrff i gadw'n iach. Gwelwyd bod bwyta mwy o ffrwythau a llysiau yn lleihau ein risg o ddioddef o glefyd cronig.

Fodd bynnag, ar brydiau gall ymddangos yn anodd bwyta'r nifer dyddiol a argymhellir. Dengys astudiaethau mai 1 o bob 10 oedolyn yn unig sy’n llwyddo i fwyta’r nifer a awgrymir gan lywodraethau – sy’n amrywio o wlad i wlad.

Dyma rai awgrymiadau ymarferol a allai sicrhau eich bod yn agos ati o ran bwyta’r nifer a argymhellir o ffrwythau a llysiau.

1. Ceisiwch gynnwys o leiaf un ffrwyth neu lysieuyn gyda phob pryd a byrbryd.

2. Beth am ddechrau gyda brecwast? Ychwanegwch ffrwythau wedi'u torri at rawnfwydydd, blawd ceirch neu fuesli neu gallech gynnwys madarch, sbigoglys, puprynnau a winwnsyn mewn omled.

3. Mae crudites llysiau gyda dipiau fel hwmws neu guacamole yn gwneud byrbrydau cytbwys gwych.

4. Anelwch at fwyta amrywiaeth ar gyfer cinio a swper trwy gynnwys gwahanol lysiau a ffrwythau yn y prydau hyn. Mae saladau a bwyd wedi’i dro-ffrio yn ogystal â chawl yn opsiynau iach.

5. Mae smwddis yn ffordd wych o fwyta mwy o ffrwythau a llysiau gan y gellir eu mwynhau ar unrhyw adeg o’r dydd ac maen nhw'n ffordd wych o ddefnyddio cynnyrch nad yw mor ffres ag y dymunwch.

6. Mae llysiau a ffrwythau wedi’u rhewi neu mewn tun yr un mor dda â rhai ffres – defnyddiwch yr opsiynau hyn pryd bynnag y bo modd gan eu bod yn aml yn rhatach ac ni fydd angen i chi boeni am eu defnyddio’n gyflym.

7. Ceisiwch fwyta'n dymhorol - bydd digonedd o ffrwythau a llysiau yn eu tymor. Maen nhw hefyd yn debygol o fod yn fwy fforddiadwy a mwy blasus.

8. Gallwch wneud eich sawsiau pasta eich huna'u rhewi a gellir ychwanegu llysiau fel madarch, moron, brocoli, sbigoglys a llawer o rai eraill at y rhain cyn eu blendio. Mae hyn yn ddefnyddiol iawn os ydych yn paratoi pryd ar gyfer plant neu unrhyw un a allai ei chael yn anodd mwynhau'r llysiau hyn yn eu ffurf wreiddiol.

9. Torrwch neu sleisiwch salad a llysiau ymlaen llaw a'u cadw mewn cynhwysydd yn yr oergell fel ei bod hi'n gyflym ac yn hawdd bachu rhai ar gyfer byrbryd neu i'w hychwanegu at bryd o fwyd.

10. Mae coginio llawer o brydau ar yr un pryd a’u rhewi yn ddefnyddiol iawn - mae'n golygu eich bod chi'n gallu coginio pan nad oes gennych amser i wneud hynny a byddwch hefyd yn gallu defnyddio llysiau'n haws tra byddan nhw’n dal yn ffres. Mae cawl, stiwiau, caserolau a pheis i gyd yn rhewi’n dda ac mae llawer o ryseitiau blasus mewn llyfrau ac ar-lein a fydd yn cynnwys digonedd o lysiau.