Wythnos arbennig yn Eisteddfod Yr Urdd yn Llanymddyfri!

04/06/2023

Actif yn Eisteddfod Yr Urdd 2023

Cynhaliwyd Eisteddfod yr Urdd 2023, gŵyl genedlaethol flynyddol i bobl ifanc 25 oed ac iau, yn Sir Gaerfyrddin rhwng dydd Llun 29ain Mai a dydd Sadwrn 3ydd Mehefin.

Cafodd Chwaraeon a Hamdden Actif - adran chwaraeon a hamdden y cyngor sir lleol - amser gwych yn yr heulwen yn gweithio mewn partneriaeth â Chwaraeon yr Urdd a sefydliadau chwaraeon Cymreig eraill yn y maes chwaraeon.

Yn ystod yr wythnos, croesawyd cannoedd o blant, pobl ifanc a’u teuluoedd o bob cwr o Gymru i gymryd rhan mewn sesiynau chwaraeon hwyliog, sesiynau ffitrwydd byw a’r trac pwmpio a fu’n boblogaidd. Roedd hefyd yn gyfle gwych i hyrwyddo’r hyn sydd gennym i’w gynnig ar draws y sir.

Bu ugain o staff Actif - o gymunedau, cyfleusterau a marchnata - yn gweithio yn yr Eisteddfod yr wythnos hon. Dyma beth gafodd ei gynnig i’r cyhoedd ar y maes:

Trac Pwmp - Trac Pwmp Actif yw’r maes chwarae eithaf ar gyfer chwaraeon olwynion, a’r awch diweddaraf i ysgubo’r byd hamdden awyr agored; mae'n hwyl i reidio ac yn datblygu ffitrwydd, sgiliau a chydsymud.

Yn Llanymddyfri, gwelodd y trac pwmp plant o bob oed yn rhoi cynnig dros gyfanswm o 48 awr (dydd Llun-Sadwrn) gan ddefnyddio beiciau, sgwteri a beiciau cydbwysedd.

Actif Unrhyw Le i Ysgolion - Nod Actif Unrhyw Le ar gyfer Ysgolion yw cael plant i fod yn egnïol bob dydd trwy sesiynau gweithgarwch corfforol sy'n cael eu ffrydio'n fyw yn syth i’r ystafell ddosbarth ac ystod o adnoddau ‘ar alw’!

Cynhaliwyd tiwtorialau byw ac arddangosiad o’r platfform am 9yb-10yb ar fore dydd Llun i ddydd Iau ym mhabell Cyngor Sir Gaerfyrddin. Roedd cyfle hefyd i edrych y tu ôl i'r llenni ar yr adnoddau sydd ar gael i athrawon a disgyblion ysgol.

Sesiynau Chwaraeon - 8 awr a 8 chwaraeon gwahanol pob dydd... Ochr yn ochr â’r Urdd yn y maes chwaraeon, roedd ein swyddogion cymunedol a’n hyfforddwyr gweithgareddau wedi cyflwyno sesiynau pêl-rwyd a hoci 1 awr bob dydd y tu mewn i’r perimedr pwmpiadwy, lle bu plant o bob oed yn cymryd rhan.

Diolch i bawb ddaeth draw i'n gweld ar y maes dros y chwe diwrnod diwethaf.

Dewch o hyd i fwy o luniau a fideos o wythnos yr Eisteddfod ar ein sianeli cyfryngau cymdeithasol Facebook, Twitter ac Instagram.