Uchafbwynt Aelod: James

03/03/2024

Uchafbwynt Aelod: James

Mae James yn un o’n cwsmeriaid rheolaidd yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman sy’n ymweld i nofio ddwywaith yr wythnos gyda’i ofalwr Derek.

Gyda'i gilydd maen nhw'n dipyn o bwerdy codi arian! Mae James mewn cadair olwyn ac yn ddall, defnydd cyfyngedig sydd ganddo o'i fraich dde.

Y llynedd, dros gyfnod o rai misoedd, gwnaeth James a Derek bellter Triathlon IronMan. Roedd hyn yn cynnwys nofio 2.4 milltir yn y pwll, cyn beicio'r 112 milltir ac yn olaf rhediad 26.2 milltir ar feic llaw. Cododd yr her hon arian i brynu beic llaw â chymorth pŵer ar gyfer Bikeability Cymru fel bod beicio llaw yn fwy hygyrch i'r gymuned ehangach.

Eleni mae James wedi gosod her arall trwy nofio pellter y Sianel mewn blociau o 22 - 28 hyd - her codi arian ochr yn ochr o Lundain i Baris 23 -24.

Yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman dros y misoedd diwethaf, nofiodd 22 milltir ar draws 66 o sesiynau - anhygoel!

Maent yn gwneud hyn i gyd i godi arian ar gyfer Maggies Cancer Support a Bikeability Cymru.

Dywedodd Derek wrthym: "Treuliodd James chwe mis cyntaf ei fywyd yn yr uned gofal arbennig babanod yn ysbyty Singleton, nid oedd yn ddall o'i enedigaeth ond collodd ei olwg wrth gael llawdriniaeth am siynt. Mae James wedi byw ei fywyd yn bennaf yn cadair olwyn ac mae'n rhaid iddo gael y cyfleusterau cywir fel y gall gael mynediad i'r gymuned a byw bywyd cynhwysol fel aelod gweithgar o'i gymuned.

"Ers COVID, nid yw James wedi cael gwasanaeth yn Coleshill yn Llanelli lle cafodd gefnogaeth i basio ei dystysgrif hylendid bwyd a gwirfoddoli yn y brif gegin am hanner diwrnod bob wythnos. Roedd wedi bwriadu gwneud tystysgrif paratoi bwyd sylfaenol ond mae hyn nawr ar stop wrth i ni weithio tuag at fynd i gegin bwrpasol lle gall barhau â’i ddysgu gydol oes. Ers cael gwybod nad oedd Coleshill ar gael iddo bellach rydym wedi bod yn archwilio ac yn dod o hyd i opsiynau eraill, rydym yn ddiolchgar i dair eglwys yn lleol sydd wedi croesawu James. Rydym hefyd yn ddiolchgar i holl staff Coleshill lle mae'n cael defnyddio'r cyfleusterau arbenigol i ddefnyddio'r ystafell ymolchi, mae'r holl staff yno yn anhygoel.

“Rydym hefyd yn ddiolchgar i staff y pwll nofio yn Llanelli, ond yn enwedig i bawb ym mhwll Rhydaman lle mae’r ardal newid anabledd wedi gwella a’r staff mor gefnogol i James wrth iddo geisio cefnogi eraill drwy godi arian.

"Mae James bellach yn defnyddio ei fraich dde yn ddyddiol ac mae'r nofio a'r seiclo â llaw yn hynod fuddiol."

Da iawn James a Derek, gan bawb yn Actif!

James gyda aelodau staff
James a Derek