19/09/2023

Staff canolfannau hamdden Dyffryn Aman a Llanelli yn codi arian at elusennau lleol

Mae aelodau staff Chwaraeon a Hamdden Actif o ddwy ganolfan hamdden y sir wedi cwblhau heriau yn ddiweddar i godi arian ar gyfer sawl elusen.

- Cwblhaodd 11 aelod o staff Canolfan Hamdden Dyffryn Aman ‘Her Tri Chopa Cymru’ ddydd Sadwrn (9fed Medi), gan ddechrau yn yr Wyddfa cyn symud ymlaen i Gadair Idris ac yn olaf ym Mhen y Fan.

Y pwrpas oedd codi arian ar gyfer tair elusen leol i Rydaman sy’n darparu cymorth anhygoel i blant ac oedolion:

Shadows Depression Support Group, Jac Lewis Foundation and Joseph's Smile

Cyfanswm o 12 awr o gerdded a dringo 7,600 troedfedd ar ôl dechrau'n gynnar ac mewn amodau cynnes!

- Dau ddiwrnod yn ddiweddarach, cymerodd wyth aelod o staff o Ganolfan Hamdden Llanelli her 'The Big Golf Race Prostate Cancer UK' ddydd Llun (11eg Medi) yng Nghlwb Golff Machynys.

Roedd y diwrnod yn cynnwys 2 rownd, 36 twll, 13 milltir = Hanner Marathon i gefnogi Prostate Cancer UK elusen sy'n agos at galonnau rhai o'n haelodau staff.

Da iawn a diolch i bawb a gyfrannodd!