Gŵyl chwaraeon pump diwrnod - Llwyddiant mawr yn Sir Gaerfyrddin!

14/05/2023

Gŵyl chwaraeon pump diwrnod - Pen-bre a Doc Y Gogledd

Cefnogodd Actif ŵyl chwaraeon pump diwrnod yn cynnwys triathlon a duathlon wythnos ddiwethaf – Mai 10fed i 14eg. Roedd amrywiaeth o ddigwyddiadau yn rhychwantu gwahanol gategorïau oedran, pellteroedd a disgyblaethau.

Cynhaliodd Colegau Cymru eu Duathlon Aml-chwaraeon GO TRI FE (Addysg Bellach) ddydd Mercher, Mai 10. Daeth 400 o fyfyrwyr coleg a staff AB o bob rhan o’r wlad i Barc Gwledig Pen-bre i gymryd rhan mewn deuathlon Rhedeg-Beicio-Rhedeg - gydag Actif yn rhoi benthyg beiciau.

Llai na 24 awr yn ddiweddarach yn y Gylchdaith Feicio Gaeedig Genedlaethol, gwahoddwyd 11 o ysgolion cynradd o bob rhan o Sir Gaerfyrddin i gymryd rhan yn ail ddigwyddiad deuathlon ysgolion Actif ym Mharc Gwledig Pen-bre ar ddydd Iau, Mai 11.

Mewn partneriaeth â Triathlon Cymru a Cholegau Cymru, fe wnaeth tîm Cymunedau Actif rhoi cyfle i tua 300 o ddisgyblion o flynyddoedd 5 a 6 i gymryd rhan yn y digwyddiad Rhedeg-Beicio-Rhedeg hwn ar y Cae Saethyddiaeth a’r gylched feicio.

 

 

Saith milltir i ffwrdd yn Llanelli, daeth cannoedd o gystadleuwyr a chefnogwyr allan ar gyfer penwythnos gŵyl Aml-chwaraeon Llanelli 2023 ar Fai 12 i 14 mewn amodau perffaith.

Cynhaliodd Doc y Gogledd, Llwybr Arfordirol y Mileniwm a’r cyffiniau pump digwyddiad triathlon a duathlon dros dri diwrnod ar gyfer pob oed a gallu.

Fe'i trefnwyd gan Weithgareddau Bywyd Iach ac fe'i cefnogwyd gan nifer o bartneriaid a sefydliadau, ynghyd â chlybiau lleol a gwirfoddolwyr.

Fe wnaeth y cyffro dechrau ar Nos Wener, Mai 12 wrth i 200 o gyfranogwyr gymryd rhan yn y 4ydd rhifyn o Nofio Elusennol Sospan Chwaraeon a Hamdden Actif. Roedd pedwar pellter ar gael, yn amrywio o 750m, 1500m, 2250m a 3000m. Cododd £4,000 tuag at ddwy elusen leol, Sefydliad Jac Lewis a Hosbis Tŷ Bryngwyn.

 

 

Roedd cyfle i dros 50 o blant 8 i 14 oed gymryd rhan yn Duathlon Iau Swim Sharks Llanelli yn gynnar fore Sadwrn, Mai 13.

Y sylw am y chwe awr nesaf oedd ar Driathlon Sbrint Sospan Actif (Cyfres Prydain) a ddenodd y triathletwyr ieuenctid, iau ac hŷn gorau o bob rhan o’r Deyrnas Unedig i gystadlu yn y sir.

Daeth yr ail ddiwrnod i ben gyda Paratriathlon Llanelli a welodd ei faes mwyaf hyd yma.

Am 7yb Dydd Sul, Mai 14, roedd dros 350 o athletwyr ar linell gychwyn Triathlon Sbrint Llanelli AGILIS, a oedd yn cynnwys nofio 750m, beicio 30km a rhedeg 5km. Yn cynnwys athletwyr clwb ac elitaidd, roedd y digwyddiad yn pencampwriaeth sbrint Cymru a ras gyntaf Cyfres Triathlon Cymru 2023 y tymor hwn.

 

 

Dywedodd Noelwyn Daniel, trefnydd y digwyddiad yn Gweithgareddau Bywyd Iach: “Roedd y penwythnos yn llwyddiant ysgubol gyda dros 1000 o athletwyr o bob rhan o’r Deyrnas Unedig yn rasio yn Llanelli.

“Roedd yn benwythnos gwirioneddol gynhwysol na fyddai wedi gallu digwydd heb gefnogaeth hael mudiadau a gwirfoddolwyr.”

Gwnaeth fan Actif ei ffordd i Ddoc y Gogledd, gyda cyflwyniadau yn cael ei wneud i’r enillwyr o'r llwyfan.

Roedd ein staff cyfleusterau o Ganolfan Hamdden Llanelli yn bresennol, yn cynnal her ffitrwydd ar ein beic ymosod a rhwyfwr, gyda chyfle i ennill aelodaeth cartref 1-mis am ddim.

Bydd uchafbwyntiau'r ŵyl aml-chwaraeon yn cael eu darlledu ar S4C am 8yh ar nos Wener 30ain Mehefin.

Angen help gyda'ch hyfforddiant?

Mae gennym ni raglenni a sesiynau a allai eich helpu, gan gynnwys;

FAST 1: Sesiynau nofio wedi'u hyfforddi gan arbenigwyr sy'n cael eu darparu ar gyfer triathletwyr ar bob lefel

Sesiynau nofio: Os oes gennych un o’n haelodaeth debyd uniongyrchol craidd, bydd gennych fynediad i 5 pwll nofio (gan gynnwys Castell Newydd Emlyn) lle gallwch gael mynediad i nofio lonydd, nofio cyhoeddus, a sesiynau nofio i’r teulu.

Stiwdios troelli dan do: Darganfyddwch sut y gallech chi ymgorffori ein cylchoedd dan do 'Life Fitness IC6/IC7' yn eich rhaglen ffitrwydd. Gallwn hefyd logi ein stiwdios troelli gyda hyfforddwr – perffaith os yw eich clwb triathlon neu glwb beicio angen lleoliad hyfforddi dan do.

Campfeydd: Mae gan ein campfeydd yr offer cardio ffitrwydd Life diweddaraf, ymwrthedd a phwysau rhydd. Gall ein staff hefyd greu rhaglenni ffitrwydd wedi’u teilwra (am gost) i helpu gydag unrhyw agwedd ar eich hyfforddiant.

Nofio Elusennol Sospan Actif