Stori Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2023

22/02/2024

Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2023

Dathlwyd chwaraewyr talentog Sir Gaerfyrddin yng Ngwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin 2023 nos Iau, 22 Chwefror.

Cafodd y gwobrau blynyddol eu cynnal am y 24ain tro yn Theatr y Ffwrnes yn Llanelli a’u trefnu gan dîm Cymunedau Actif Cyngor Sir Gaerfyrddin. Y seremoni yw un o'r nosweithiau mwyaf mawreddog yng nghalendr chwaraeon Sir Gaerfyrddin.

Nigel Owens MBE, cyn-ddyfarnwr rhyngwladol rygbi a chyflwynydd, oedd yn cyflwyno'r noson am yr trydydd flwyddyn yn olynol.

 

 

Roedd Gwobrau Chwaraeon Actif Sir Gaerfyrddin yn cydnabod cyflawniadau a llwyddiannau athletwyr unigol a chlybiau chwaraeon, yn ogystal â chydnabod cyfraniad hyfforddwyr ymroddedig a gwirfoddolwyr gweithgar sy'n gwneud gwahaniaeth drwy chwaraeon a'u cymunedau (cyfnod o 12 mis rhwng Medi 2022 ac Awst 2023).

Daeth y rhai oedd wedi cyrraedd y rhestr fer, teuluoedd, cefnogwyr, noddwyr, staff y cyngor sir a gwesteion arbennig ynghyd yn y lleoliad yng nghanol canol tref Llanelli a chroesawyd y prif noddwyr, sef Gavin Griffiths Group.

Dywedodd Gavin Griffiths, Gavin Griffiths Group, Rheolwr Cyfarwyddwr:

“Fel Grŵp, gyda safle yn Sir Gaerfyrddin, roeddem yn falch iawn o fod yn brif noddwr gwobrau chwaraeon 2023. Wedi bod ar y panel beirniadu, roedd yn amlwg i weld y lefel uchel o dalent ar draws y Sir.

“Roedd yn glir i weld faint o oriau gwirfoddol y mae pobl yn eu rhoi ar draws Sir Gaerfyrddin i ddarparu cyfleoedd chwaraeon rhagorol.

“Rydym yn llongyfarch pawb a enwebwyd ar noson wych yn dathlu chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin.”

Ein noddwyr categori eraill oedd Coal Bunker Glamping Pods, Coleg Sir Gar, Cymunedau Am Waith+, Alliance Leisure, Adeiladwyr TAD, Enzo’s Homes Ltd, Chwaraeon Cymru, L&B Hospitality and Castell Howell. Rydym yn diolch iddynt am eu cefnogaeth hael a pharhaus.

Roedd mwy nag ugain o unigolion, chwe thîm a tri chlwb wedi cael eu henwebu ar gyfer cyfanswm o 12 gwobr

Roedd y gwobrau eleni yn cynnwys amrywiaeth o chwaraeon a chefndiroedd eto, gan gynnwys Athletau, Bocce, Bocsio, Bowlio, Canŵio, Criced, Seiclo, Pêl-droed, Gymnasteg, Jiwdo, Cic Focsio, Gemau Marchogol, Pêl-rwyd, Rhwyfo, Rygbi, Nofio, Tenis a Triathlon.

Yn ogystal â Gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn, roedd y categorïau'n cynnwys Mabolgampwr a Mabolgampwraig Ifanc, Chwaraewr Anabl, Gwirfoddolwr Chwaraeon, Person Ifanc Ysbrydoledig, Hyfforddwr Chwaraeon Cymunedol a Hyfforddwr Chwaraeon o Safon Uchel, Tîm Chwaraeon, Tîm Ifanc, Clwb Cymunedol y Flwyddyn a’r categori Gwobr Goffa Ryan Jones am Gwasanaeth Eithriadol i Chwaraeon.

Elusennau’r noson oedd St Paul’s Family Centre, Llanelli First Responders a Hosbis Ty Bryngwyn. Rhoddodd gwesteion cyfanswm o £819 tuag at waith yr achosion teilwng hyn. Roedd y gwobrau raffl yn cynnwys aelodaeth Actif am 1 mis, Taleb i Theatrau Sir Gâr a thocyn tymor ar gyfer Parc Gwledig Pen-bre.

Daeth y seremoni i ben gydag araith gan y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Caerfyrddin dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth.

Ychwanegodd Carl Daniels, Uwch-reolwr Chwaraeon a Hamdden Actif:

"Bob blwyddyn, rydym yn bwriadu gwneud y digwyddiad hwn yn fwy ac yn well, ac mae hynny'n dibynnu'n fawr ar nifer ac ansawdd yr enwebiadau. Rwy’n falch o ddweud bod ymhell dros 100 o enwebiadau wedi’u derbyn gydag ansawdd uchel dros ben.

"Mae'r sir yn hynod falch o'r hyn mae athletwyr, clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn ei wneud o fewn a thu allan i Sir Gaerfyrddin, boed yn arwyr di-glod sy'n gwneud i chwaraeon ddigwydd neu'n ein cynrychioli ar lwyfan y byd.

"Rydym yn ddiolchgar bod ystod o gwmnïau a sefydliadau wedi camu ymlaen i helpu i wneud y gwobrau hyn yn hyfyw yn ariannol, yn enwedig ein prif noddwr Grŵp Gavin Griffiths."

Diolch i bawb a enwebodd unigolyn, tîm neu glwb ar gyfer y gwobrau eleni ac am ymuno â ni yn Theatr y Ffwrnes nos Iau.

Diolch yn fawr iawn hefyd i bawb a weithiodd yn ddiflino y tu ôl i'r llen i drefnu a chyflwyno digwyddiad gwobrau chwaraeon llwyddiannus arall.

Pob lwc i bawb dros y 12 mis nesaf wrth i ni edrych ymlaen at flwyddyn fawr arall o chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, Cymru ac ymhellach i ffwrdd.

Mae Tîm Cymunedau Actif yn edrych ymlaen at agor a gwahodd enwebiadau ar gyfer gwobrau 2024 yn ddiweddarach eleni!

Darganfyddwch fwy am y rhestr fer a fideos wrth ei gwaith trwy glicio ar gategorïau’r gwobrau isod.

(mae'r fideos hefyd ar gael ar sianel YouTube Actif)

(Albwm Lluniau o wobrau 2023 - Rhan 1 o'r cyntedd)

(Albwm Lluniau o wobrau 2023 - Rhan 2 o'r llwyfan)

 

Mwy am Rhestr Fer Gwobrau 2023 a Fideos yn ôl categori

Personoliaeth Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Gavin Griffiths Group

 

*ENILLYDD*

Emma Finucane (Seiclo)

Mae llwyddiant Emma yn ystod y flwyddyn ddiwethaf wedi’i gyflawni ar y lefel uchaf un. Ym mis Awst 2023, enillodd Emma Bencampwriaethau Elît Merched y Byd i ddod yn Bencampwr Sbrint UCI y Byd, gan dorri record y byd ar lefel y môr yn y broses!

Yn ddim ond 20 oed, mae Emma wedi cynrychioli Prydain Fawr mewn digwyddiadau amrywiol ledled y byd gyda llwyddiant aruthrol, gan ychwanegu medal arian Tîm Elît Sbrint y Byd i’w medal aur unigol ac ennill pob un o’r pedair disgyblaeth sbrintio ym Mhencampwriaethau Sbrint Cenedlaethol Casnewydd. 

 

*AIL*

Jamie Stiles (Bowlio Mat Byr)

Ym mis Mawrth 2023, dewiswyd Jamie i gynrychioli Cymru ym Mhencampwriaeth Bowlio Mat Byr y Byd yn Aberdeen, yr Alban.

Gan gymryd rhan yng nghystadleuaeth y ‘Triawdau’, er gwaethaf cystadleuaeth frwd, Jamie a’i bartneriaid ddaeth i’r brig i ennill y teitl, gan ddod yn Bencampwyr Bowlio Mat Byr y Byd – dim ond y pumed ‘Triawd’ Cymreig i ennill y teitl ers ei ddigwyddiad agoriadol yn 1989. 

 

*AIL*

Amy Cole (Seiclo)

Mae Amy wedi bod yn beicio’n gystadleuol ers dros 10 mlynedd ac wedi symud ymlaen drwy lwybrau perfformio cenedlaethol i’r llwyfan rhyngwladol, i ddechrau fel perfformiwr unigol a nawr hefyd fel peilot tandem ar gyfer beiciwr â nam ar ei olwg.

Yn dilyn salwch difrifol, bu ansicrwydd ynghylch a fyddai Amy’n gallu dychwelyd i’r gamp, ond trwy frwdfrydedd llwyr a phenderfyniad llwyddodd i ddod yn ôl ym Mhencampwriaethau Beicio Para-Trac UCI y Byd yn Glasgow yn 2023, gan ennill aur yn y Sbrint Tandem Tîm Cymysg a medal efydd yn nigwyddiad Tandem Prawf Amser 1km. 

Mabolgampwr Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Coal Bunker Glamping Pods

 

*ENILLYDD*

Rory Gravelle (Seiclo)

Mae Rory, 16 oed o Gaerfyrddin, yn cystadlu mewn beicio ffordd a chynrychiolodd Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Ieuenctid Ewrop yn Slofenia ym mis Gorffennaf 2023 lle gorffennodd yn 11eg yn y digwyddiad Prawf Amser.

Cafodd Rory lwyddiant ysgubol ar y cae trwy gydol tymor 2023, gan hyd yn oed lapio’r cae cyfan yn rownd Loughborough o’r Gyfres Genedlaethol – sy’n syfrdanol ar gyfer digwyddiad cenedlaethol.

Yng Nghyfres Cylchedau Ieuenctid Cenedlaethol Cymru enillodd Rory dri allan o bedwar cymal yn ei flwyddyn gyntaf fel beiciwr dan 16 oed gan gipio teitl cyffredinol Ieuenctid A y dosbarth Cenedlaethol Dan 16 oed.

Mae Rory yn y seithfed safle ym Mhrydain Fawr ac oherwydd ei waith caled a’i ymroddiad mae wedi arwyddo i dîm datblygu AG2R Citroën Dan 18 oed yn Ffrainc ar gyfer tymor 2024, gan gamu i un o’r timau lefel uchaf yn y byd. 

 

*AIL*

Finley Bruce (Athletau)

Mae Finley yn rhan o Raglen Academi Triathlon Cymru ac roedd yn un o bedwar unigolyn a ddewiswyd ar gyfer rowndiau terfynol gemau ysgolion y DU yn 2022 ym Mhrifysgol Loughborough.

Yn 2023 cafodd Uwch Gyfres Brydeinig lwyddiannus iawn gan orffen yn 20fed yn gyffredinol yn nosbarth Ieuenctid A yr Uwch Gyfres. Hefyd, wrth orffen yn bedwerydd yn y Barri a phumed yn Llandudno, dyma ei osod yn gyntaf yn y categori ieuenctid agored yn Uwch Gyfres Cymru 2023. 
 
Yn ogystal â thriathlon, mae Finley hefyd yn cystadlu mewn athletau ac ef yw Pencampwr Rhedeg Mynydd Cymru. Yn 2023 gorffennodd Finley yn bumed ym Mhencampwriaeth Mynyddoedd Prydain ac Iwerddon yn yr Alban, yn ogystal â gorffen yn 25ain yn ras fynydd y pencampwriaethau rhyngwladol dan 18 oed yn Annecy yn Ffrainc.

Mae ei lwyddiannau eraill yn cynnwys dod yn seithfed yn nigwyddiad trac 3,000m Bwrdd Athletau Rhyngwladol Ysgolion (SIAB) yn Belfast a phedwerydd ym Mhencampwriaeth Athletau Lloegr yn y ras ffos a pherth. 

 

*AIL*

Gwion Williams (Canw Slalom)

Mae Gwion Williams, disgybl yn Ysgol Bro Myrddin yng Nghaerfyrddin yn cystadlu yn y ras canŵ slalom.

Ym mis Mehefin 2023, bu Gwion yn cystadlu yng nghwpan slalom Iau Cymdeithas Canŵio Ewrop yn Slofacia lle brwydrodd yn erbyn 60 o gystadleuwyr i orffen yn ail yn gyffredinol – camp wych i’r bachgen 16 oed o Gaerfyrddin.

Mae Gwion yn rheoli ei amser yn dda i ateb ei astudiaethau ysgol o amgylch ei hyfforddiant a chystadlu ac mae ganddo ddyfodol disglair yn cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr yn Canŵ Slalom.  

Mabolgampwraig Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Coleg Sir Gar

 

*ENILLYDD*

Sophie Locking (Gemau Marchogol)

Cafodd Sophie, 15 oed ac aelod o Glwb Merlod Dyffryn Aman, lwyddiant rhyfeddol yn 2023. Llwyddodd nid yn unig i sicrhau buddugoliaethau ym Mhencampwriaethau Prydain ac Ewrop ond daeth yn bencampwr y Byd yn Ffrainc ym mis Awst 2023, gan farchogaeth merlen y bu iddi hyfforddi o’r cychwyn cyntaf.

Roedd buddugoliaeth ddigynsail Sophie mewn teitl triphlyg yn yr un flwyddyn wedi syfrdanu’r gymuned gemau marchogol, gan mai hi yw’r marchog cyntaf i ddal y tri theitl ar yr un pryd.  
Mae ei pherfformiadau eithriadol, gan gynnwys cynrychioli Cymru ddwywaith yn sioe geffylau Royal Windsor, wedi denu sylw. Yn nodedig, mae Sophie wedi’i henwebu ar gyfer safle ar dîm Prydain Fawr 2024, a fydd yn arddangos ei thalent ragorol mewn chwaraeon marchogaeth.

 

*AIL*

Maddy Harper (Cic Focsio)

Yn ddim ond 14 oed, mae Maddy, myfyriwr yn Ysgol y Strade ac aelod o Glwb Cicfocsio’r Siarcod, wedi cael llwyddiant rhyfeddol eleni. Hi sy’n dal y teitlau fel Pencampwr Agored Cymru, Pencampwr Agored Prydain, a Phencampwr Agored Ewrop mewn cicfocsio parhaus, sy’n gamp drawiadol o ystyried mai dim ond ers 18 mis y mae hi wedi bod yn ymarfer y gamp.

Mae cicfocsio wedi chwarae rhan drawsnewidiol ym mywyd Maddy, gan achub ei bywyd yn llythrennol. Y tu hwnt i’w llwyddiannau personol a’i hymrwymiad i’w sesiynau hyfforddi ei hun, mae Maddy yn llwyddo i ddod o hyd i amser i hyfforddi plant iau na hi deirgwaith yr wythnos. 

 

*AIL*

Isabella Morgan (Tenis)

Mae Isabella, myfyriwr 12 oed yn Ysgol Coedcae ac aelod o Glwb Tenis a Sboncen Llanelli, wedi dilyn taith drawiadol ym myd tennis. Ers mis Medi y llynedd, mae hi wedi teithio i naw gwlad Ewropeaidd wahanol.

Er ei bod yn flwyddyn o flaen ei hamser, mae hi’n cystadlu yn y categori dan 14 oed a sicrhaodd ei theitl rhyngwladol cyntaf yng nghystadleuaeth Tenis Ewrop yng Ngwlad Belg ym mis Awst 2023. Gan ddechrau’r flwyddyn yn safle 1108 yn Ewrop, mae Isabella wedi cymryd camau breision, gan ddal safle 461 ar hyn o bryd ac yn parhau i gael llwyddiant.

Yn ogystal, arddangosodd Isabella ei thalent trwy gynrychioli De Cymru yn Rowndiau Terfynol Cenedlaethol Wimbledon a gynhaliwyd yn lleoliad eiconig Wimbledon ym mis Awst 2023. 

Chwaraewr Anabl Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Enzo's Homes Limited

 

*ENILLYDD*

Mia Lloyd (Athletau)

Mae Mia, sy’n 16 oed, wedi bod yn aelod o Harriers Caerfyrddin a’r Cylch ers nifer o flynyddoedd ac yn hyfforddi ar y trac yn rheolaidd.

Yn yr ysgol gynradd, cafodd Mia ddiagnosis o fath prin o ganser yr esgyrn a arweiniodd at dorri ei choes chwith i ffwrdd. Er gwaethaf y driniaeth hon a newidiodd ei bywyd, ni wnaeth hyn atal Mia rhag cymryd rhan mewn chwaraeon a arweiniodd at gymryd rhan mewn athletau cadair olwyn.

Eleni, gyda choes brosthetig newydd yn cystadlu yn y digwyddiadau disgen symudol, daeth Mia yn ail yn y gystadleuaeth ryngwladol i rai dan 20 oed yng Nghaerdydd, yn gyntaf ym Mhencampwriaethau Athletau Hŷn Cymru a theithiodd i Trinidad a Tobago ar gyfer Gemau Ieuenctid y Gymanwlad lle cafodd hi’r pedwerydd safle, yn colli allan ar le ar y podiwm drwy drwch blewyn. 

 

*AIL*

Llinos Gilmore Jones (Bocce)

Yn gyn-ddisgybl o Heol Goffa, mae Llinos wrth ei bodd gyda her a beth bynnag mae Llinos yn ei wneud mae ganddi wên ar ei hwyneb bob amser. Mae Llinos wedi bod yn gystadleuydd cyson yn Nhîm Gemau Olympaidd Arbennig Sir Gaerfyrddin am y 25 mlynedd diwethaf.

Ym mis Mehefin y llynedd cafodd ei dewis i gynrychioli Prydain Fawr yng Ngemau Olympaidd Arbennig y Byd yn Berlin yn yr haf lle enillodd ddwy fedal arian yn y cystadlaethau sengl a dwbl a hefyd cafodd yr anrhydedd i gynrychioli tîm Prydain Fawr yn y seremoni gloi, i gario Plac Prydain Fawr.

Mae Llinos hefyd wedi’i phenodi’n Llysgennad Cymunedol Actif ar gyfer y grŵp Cerdded, Siarad a Rhedeg sy’n cyfarfod ddwywaith yr wythnos o Ganolfan Hamdden Llanelli. 

 

*AIL*

Jimmy Staveley (Jiwdo)

Mae Jimmy Stavely, bachgen 16 oed o Drefach, er gwaethaf ei anabledd yn hyfforddi gyda’r chwaraewyr prif ffrwd Jwdo yng Nghlwb Jwdo Sanshirokwai deirgwaith yr wythnos.

Ym mis Awst 2023, cynrychiolodd Jimmy dîm Prydain Fawr ym Mhencampwriaethau Addasol Agored a Jwdo IV Prydain lle enillodd fedal arian yn y Categori 66Kg yn Lefel 1.

Mae Jimmy wedi’i ddewis i fod yn aelod o Dîm Addasol Jwdo Prydain a bydd mewn gwersyll hyfforddi gyda Thîm Addasol Jwdo Prydain yn Japan ym mis Ebrill a Mai 2024.

Person Ifanc Ysbrydoledig Y Flwyddyn

*ENILLYDD*

Teyan Burt (Nofio)

Mae Teyan yn 16 oed ac yn mynychu Ysgol Gyfun y Strade. Mae’n nofiwr brwd ac yn aelod o Glwb Nofio Llanelli lle mae ganddo lawer o rolau gwahanol, megis capten, gwirfoddolwr, nofiwr, hyfforddwr, a cheidwad amser.

Am unigolyn mor ifanc, mae Teyan yn gwirfoddoli 20 awr yr wythnos yn ei glwb nofio yn ogystal â chanolbwyntio ar ei nofio ei hun sy’n dangos pa mor ysbrydoledig ydyw.

Mae Teyan yn athro nofio lefel 2 cymwysedig ac fel ceidwad amser hyfforddedig mae’n gwirfoddoli mewn digwyddiadau lleol ac mewn digwyddiadau Nofio Cymru.

Mae’n aelod uchel ei barch o’r clwb, ac mae ei egni a’i benderfyniad yn amlwg yn rhywbeth sydd wedi ysbrydoli llawer ac a fydd yn parhau i ysbrydoli llawer mwy yn y blynyddoedd i ddod. 

 

*AIL*

Sion Davies (Pel-droed ac athletau ysgol)

Yn ddisgybl yn Ysgol Dyffryn Aman, mae Sion yn uchel ei barch ac wastad wedi bod yn awyddus i helpu ers cyrraedd yr ysgol yn 2017. Yn ogystal â bod yn Llysgennad Chwaraeon Ifanc Aur, mae Sion yn gwirfoddoli ar gyfartaledd dair awr yr wythnos mewn amrywiaeth o chwaraeon gwahanol o fewn ei ysgol.

Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Sion wedi helpu mewn amrywiaeth o ddigwyddiadau gwahanol megis yr Eisteddfod Genedlaethol, dyddiau pontio a mabolgampau ysgol i enwi dim ond rhai.

Gellir dibynnu bob amser ar Sion i gefnogi a helpu mewn unrhyw glwb neu ddigwyddiad chwaraeon ac mae’n glod i’r ysgol. 

 

*AIL*

Keira Davies (Pel-rwyd)

Mae Keira, sy’n ddisgybl yn Ysgol Gyfun Pontarddulais, yn aelod uchel ei pharch o Glwb Pêl-rwyd Dulais. O fewn ei chlwb a’i hysgol bydd Keira yn gwirfoddoli hyd at bump awr yr wythnos i helpu dyfarnu a hyfforddi.

O fewn y flwyddyn ddiwethaf, mae hi wedi ennill ei chymhwyster C am ddyfarnu ac wedi ei henwebu i helpu dyfarnu yng nghystadlaethau’r Urdd.

Mae Keira yn ysbrydoli athletwyr ifanc o’r un anian o bob oed a gallu, a gyda’i gwybodaeth a’i dealltwriaeth o’r gamp mae’n helpu chwaraewyr i dyfu a magu hyder ar y cwrt a chwarae pêl-rwyd, sy’n hynod ysbrydoledig. 

Gwirfoddolwr/wraig Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Cymunedau am Waith+

 

*ENILLYDD*

Laura O'Shea (Rygbi)

Mae Laura yn cael ei disgrifio fel aelod gwerthfawr o bwyllgor Clwb Rygbi Iau Trimsaran ac yn gwneud popeth yn gyffredinol! Os oes angen gwneud rhywbeth, bydd Laura yn ei wneud.

Mae Laura yn gwirfoddoli tua 15 awr yr wythnos i sicrhau bod modd hyfforddi a chynnal gemau a bod digon o gyfleoedd i holl blant y gymuned.

I Laura nid chwarae rygbi yn unig yw hyn; mae’n ymwneud â sicrhau bod y plant yn cael profiadau ychwanegol drwy fynd ar deithiau, mynychu digwyddiadau, gwneud ffrindiau a llawer mwy. Mae llawer iawn o waith Laura yn mynd heb i neb sylwi, ond heb ei hymdrechion ni fyddai’r adran Iau ynghyd â buddion sylweddol i’r plant a’r gymuned ehangach yn bodoli.

 

*AIL* 

Rick Wilson (Pel-droed)

Mae Rick yn chwaraewr ac yn aelod o bwyllgor clwb pêl-droed cymdeithasol ‘hŷn’ sy’n chwarae ar nos Wener yn Llandeilo. Trwy ei wybodaeth a’i ymrwymiad, mae wedi llwyddo i sicrhau sawl grant i wella cyfleusterau Chwaraeon Tregib dan arweiniad gwirfoddolwyr, sydd o fudd i’r gymuned, trwy gynnal amrywiaeth o sesiynau Clwb Chwaraeon.

Oni bai am waith caled Rick ar ran y clybiau chwaraeon sy’n defnyddio’r cyfleusterau i sicrhau ei hyfywedd, byddai dyfodol yr ased gwych hwn wedi bod yn y fantol.

Mae Rick yn ddyn diymhongar a heb ei egni, ei frwdfrydedd a’i allu ni fyddai’r prosiect byth wedi dechrau, heb sôn am fod yn llwyddiannus. 

 

*AIL*

Charlene Jenkins (Rygbi)

Hwb yw Merched Mynydd Mawr sy’n darparu cyfleoedd rygbi i ferched dan saith oed i dan 18 oed o Glybiau Rygbi’r Tymbl a Phenygroes. Ym mis Mai 2023 penodwyd Charlene Jenkins yn arweinydd yr hwb i oruchwylio’r holl weithgareddau oddi ar y cae.

Yn ystod y cyfnod hwn mae wedi datblygu perthynas gadarnhaol gydag arweinwyr hwb eraill, busnesau lleol ac yn bwysicaf oll y chwaraewyr, rhieni, darpar chwaraewyr, ac ysgolion. Mae rôl Charlene yn cynnwys unrhyw beth o sicrhau bod y polisïau a’r gweithdrefnau’n gyfredol, trefnu gemau hyd at wneud cŵn poeth!

Trwy waith caled Charlene mae poblogrwydd yr hwb wedi cynyddu yn y cymunedau, gyda chwaraewyr newydd bob wythnos eisiau rhoi cynnig ar rygbi.

Hyfforddwr/wraig Chwaraeon Cymunedol Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: L&B Hospitality

 

*ENILLYDD*

Gavin O'Shea (Rygbi)

Mae Gavin, sy’n gwasanaethu fel Cadeirydd yr Adran Iau yng Nghlwb Rygbi Trimsaran, yn arwain menter rygbi gynhwysol ochr yn ochr â’i wraig Laura. Gan arwain fel hyfforddwr chwaraewyr dan 12 oed, darparu cymorth cyntaf, codwr arian, ac ysgrifennydd gemau, mae Gavin yn llunio ethos nid-er-elw y clwb, gan gynnig rygbi am ddim i chwaraewyr yn amrywio o dan 5 oed i rai dan 11 oed a datblygu cysylltiadau cryf ag ysgolion lleol.

Er mai hi yw’r 10fed ardal fwyaf difreintiedig yn Sir Gaerfyrddin, mae Gavin yn sicrhau bod rygbi’n hygyrch i bawb, gan ddarparu nid yn unig hyfforddiant am ddim ond hefyd hanfodion fel esgidiau a phrydau bwyd. Mae ymroddiad Gavin yn mynd y tu hwnt i rygbi, gan effeithio’n fawr ar lesiant a datblygiad plant mewn ardal ddifreintiedig, gan ysgogi newid cadarnhaol, a chreu trigolion sy’n canolbwyntio ar y gymuned.

Mae tystebau rhieni yn tystio i’r effeithiau sy’n newid bywyd plant fel goresgyn gorbryder, siapio llesiant plant yn gadarnhaol, a datblygiad mewn lleoliad difreintiedig. 

 

*AIL*

Ben Holding (Criced)

Mae Ben, sy’n un o hoelion wyth Clwb Criced Llangennech, yn dod â mwy na hyfforddi – mae’n meithrin etheg waith gadarn, disgyblaeth, a chwarae teg gyda ffocws ar hwyl a chynwysoldeb.

Yn fodel rôl ar y cae ac oddi arno, mae’n hyrwyddo parch a gwaith tîm, gan ddatblygu tîm merched yn unig cyntaf y clwb. Mae ei ymrwymiad yn ymestyn i hyfforddiant gaeaf, cynghreiriau dan do, a hyfforddi rygbi. O dan ei ddylanwad, mae’r clwb wedi gweld cynnydd mewn cyfranogiad a brwdfrydedd, ynghyd â gwell presenoldeb o du’r cyfryngau cymdeithasol.

O Ddiwrnod Hwyl 10-awr i dasgau gweinyddol manwl, mae ymroddiad Ben yn sicrhau llwyddiant chwaraewyr a chydlyniad cymunedol, gan gynnwys codi arian ar gyfer uned awtistig leol.

 

*AIL*

Lisa Dwerryhouse (Criced)

Mae Lisa, Capten tîm criced Pêl-feddal Merched ac Is-Gadeirydd Clwb Criced Llandeilo, yn rym deinamig ym myd criced Cymru. Mewn dim ond dwy flynedd, trawsnewidiodd dîm y merched yn gystadleuwyr aruthrol, gan sicrhau ail a thrydydd safle yng nghynghreiriau’r gaeaf a’r haf.

Mae ymroddiad Lisa yn ymestyn i hyfforddi’r tîm dan 13 oed a chynorthwyo’r tîm dan 11 oed, gan feithrin adran iau ffyniannus. Fel yr Is-gadeirydd benywaidd cyntaf yn hanes y clwb, mae hi’n arwain y cyfryngau cymdeithasol, ac wedi cynyddu eu cyrhaeddiad bedair gwaith.

Mae taith griced Lisa, o fod yn newydd-ddyfodiad i enillydd Gwobr Ysbrydoli i Chwarae Criced Cymru, yn adlewyrchu ei hangerdd a’i hymrwymiad diwyro. 

Hyfforddwr/wraig Perfformiad Lefel Uchel Y Flwyddyn

*ENILLYDD*

Shelley Pace (Gymnasteg)

Mae Shelley, prif hyfforddwr Ysgol Gymnasteg Sir Gaerfyrddin yn gyfrifol am y ddisgyblaeth twmblo, ac yn goruchwylio’r Garfan Ddatblygu, gan nodi talent naturiol o bob oed.

Mae’r gymnastwyr dan arweiniad Shelley yn gyson yn cyflawni safonau uchel mewn digwyddiadau cenedlaethol a rhyngwladol gydag 20 yng Ngharfan Ddatblygu Twmblo Ardal De Cymru, 10 yng Ngharfan Ddatblygu Twmblo Cenedlaethol Cymru a chwech yng Ngharfan Twmblo Gwledydd Cartref Cymru.

Yn ogystal â hyn mae Shelley hefyd yn fentor i lawer o glybiau yn Ne Cymru ac yn datblygu eu sgiliau hyfforddi a’u harwain trwy eu dyfarniadau hyfforddi lefel 1 a dyfarniadau eraill, ochr yn ochr â gweithio tuag at ei lefel 5 mewn hyfforddi ac ailddilysu ei chymwysterau beirniadu.

 

*AIL*

Matt Blue (Triathlon)

Mae Matt Blue, Diffoddwr Tân o Gaerfyrddin, yn Hyfforddwr Triathlon yng nghlwb Triathlon Caerfyrddin.

Gyda chefndir chwaraeon elitaidd ei hun, mae’n deall beth y mae ei angen i gyflawni’r llwyddiant gorau posibl, a thrwy ei gynllunio a’i ddull hyfforddi cefnogol, mae’n annog athletwyr i wthio eu ffiniau i gyflawni eu heriau personol yn ystod hyfforddiant a digwyddiadau.

Mae Matt wedi llwyddo i gynyddu cyfranogiad y clybiau mewn rasys a digwyddiadau ledled Cymru, gyda thros 10 o athletwyr yn cyrraedd y podiwm yn ystod y tymor, sydd wedi helpu i godi proffil y clwb yn ogystal â champ Triathlon.  

 

*AIL*

Euros Evans (Rygbi)

Mae Euros yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o hyfforddwyr, chwaraewyr, a chyfoedion gyda sylw trylwyr i fanylion, profiad, a gwir feistrolaeth. Nid oes ganddo ego ond mae ganddo lawer o arbenigedd.

Mae wedi symud o fod yn chwaraewr proffesiynol i fod yn hyfforddwr arbenigol dros y blynyddoedd sy’n ei alluogi i ennill llawer o wybodaeth i wella ei sgiliau hyfforddi.

Yn ystod y pum mlynedd diwethaf, mae Euros wedi helpu Clwb Rygbi Llanymddyfri i ddringo i’r trydydd safle uchaf o fewn Uwch Gynghrair Cymru ond eleni aeth y tîm ymlaen a chipio teitl Uwch Gynghrair Indigo Cymru ar gyfer tymor 2022-2023, sydd yn gamp anhygoel.

Tîm Ifanc Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Adeiladwyr TAD

 

*ENILLYDD*

Clwb Maerlod Dyffryn Aman

Mae Tîm dan 15 oed Clwb Merlod Dyffryn Aman yn cystadlu mewn gemau marchogol. Roedd y tîm yn llwyddiannus yn gyntaf yng nghystadleuaeth Ranbarthol De Cymru, gan ddod yn Bencampwyr Ardal trwy guro’r wyth tîm arall. Roedd ennill eu Pencampwriaethau Rhanbarthol yn eu galluogi i gymhwyso ar gyfer Rownd De Prydain yng Ngwlad yr Haf yn erbyn 14 tîm arall.

Unwaith eto, dangosodd y tîm gryfder mawr ac ar ôl cyfres hir o rowndiau rhagbrofol a rowndiau terfynol aethant drwodd i rownd yr wyth olaf, ac oherwydd y pwyntiau roeddent wedi’u cyflawni cawsant eu datgan yn enillwyr hyd yn oed cyn rhedeg y ras olaf. Roedd y gamp hon yn golygu bod y tîm wedi cymhwyso ar gyfer rowndiau terfynol Prydain, lle mai dim ond y chwe thîm gorau yn y DU a all gystadlu, a llwyddodd Dyffryn Aman i sicrhau eu lle yn erbyn 330 o glybiau merlod eraill o bob rhan o’r wlad.

Coronwyd y tîm hefyd yn Bencampwyr Cymru drwy ennill pencampwriaethau clybiau merlod Gemau Marchogol Brenhinol Cymru yn Llanelwedd ym mis Gorffennaf 2023. 

 

*AIL*

Tim Pel Rwyd o dan 16 Ysgol Y Strade

Mae tîm pêl-rwyd dan 16 oed Ysgol y Strade wedi gweithio’n galed i lwyddo mewn sawl cystadleuaeth. Yn ystod y ddwy flynedd diwethaf, nid yw’r merched wedi colli un gêm o bêl-rwyd.

Daeth y tîm yn bencampwyr cynghrair Llanelli cyn symud ymlaen i ennill cystadlaethau ar lefel Genedlaethol.  
Ar ôl ennill cystadleuaeth ranbarthol sirol Ann Smart, aeth y tîm ymlaen i ennill Twrnamaint Ann Smart Cymru yng Nglannau Dyfrdwy. Yn ogystal ag ennill, cafodd un o’r chwaraewyr, Ffion Tovey, ei henwi’n Chwaraewr y Twrnamaint.

Maent wedi dangos gwaith tîm rhagorol ac wedi cael eu gwobrwyo drwy ddod yn Bencampwyr Cymru. 

 

*AIL*

Tim Rygbi o dan 14 Ysgol Bro Dinefwr

Mae tîm rygbi merched dan 14 oed Ysgol Bro Dinefwr wedi cael blwyddyn lwyddiannus. Ar lefel ranbarthol daethant yn bencampwyr wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth saith-bob-ochr y Scarlets dan 14 oed.

Wrth gystadlu ym Mhencampwriaeth Rygbi Merched Ysgolion Cymru fe guron nhw bob un o’r 30 ysgol i gyrraedd y rownd derfynol yn Stadiwm Principality. Aeth y merched ymlaen i ennill y rownd derfynol a dod yn Bencampwyr Cenedlaethol. Mae hyn yn gyflawniad rhagorol gan mai dim ond ychydig o’r merched sy’n chwarae rygbi ar lefel clwb y tu allan i’r ysgol.

Ar ben hyn, mae dau o aelodau’r garfan wedi eu dewis i fod yn rhan o garfan Clybiau Bechgyn a Merched (BGC) Cymru am y tymor nesaf.

Tîm Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Alliance Leisure

 

*ENILLYDD*

Clwb Rygbi Llanymddyfri

Cafodd tîm cyntaf Clwb Rygbi Llanymddyfri dymor buddugoliaethus yn ystod 2022-2023 lle daethant yn Bencampwyr Uwch Gynghrair Indigo. Mae datblygiad parhaus, ymroddiad a gwaith caled y chwaraewyr a’r hyfforddwyr wedi chwarae rhan hanfodol yn eu llwyddiant dros y tymhorau diwethaf.

Mae Uwch Gynghrair Indigo yn gynghrair sy’n cynnwys 12 tîm sy’n ymestyn yn ddaearyddol ar draws Cymru gyfan. Dyma’r gynghrair uchaf y gall unrhyw dîm yng Nghymru fod yn rhan ohoni, heb gynnwys y pedwar rhanbarth proffesiynol.

Mae tua 300 o dimau rygbi yng Nghymru yn cystadlu mewn gwahanol gystadlaethau a chynghreiriau. Mae hyn wir yn rhoi mewn persbectif cymaint o gyflawniad mawr yw cael ei enwi yn dîm rygbi gorau Cymru. 

 

*AIL*

Menywod Clwb Rygbi Hendy-Gwyn ar Daf

Wedi’i sefydlu yn 2008, mae Merched Clwb Rygbi Hendy-gwyn ar Daf yn dîm sydd wedi mynd o nerth i nerth. Maent wedi cynyddu mewn niferoedd ac erbyn hyn mae ganddynt dîm merched dan 18 oed a than 15 oed yn ogystal â thîm hŷn.

Cafodd tîm hŷn y Merched dymor gwych yn ystod 2022-2023, gan ddod yn enillwyr y Bencampwriaeth ac ennill dyrchafiad i’r Uwch Gynghrair.

Uchafbwynt eu tymor oedd chwarae yn Stadiwm Principality, lle gwnaethant ennill y plât, diolch i sgôr buddugol yn eiliadau olaf y gêm a oedd yn hynod gyffrous yn erbyn Porth Tywyn.  

 

*AIL*

Clwb Rygbi Rhyfelwyr Llanelli

Bu Rhyfelwyr Llanelli yn arwain y ffordd fel tîm rygbi gallu cymysg, cynhwysol mwyaf blaenllaw tymor 2022-2023. Maen nhw wedi llwyddo unwaith eto i gronni’r mwyaf o bwyntiau am y nifer fwyaf o gemau a chwaraewyd, a’r rhan fwyaf o gemau wedi’u hennill ar lwyfan byd-eang.

Maent yn parhau i ysbrydoli timau gallu cymysg eraill ar draws y byd, mewn rygbi a chwaraeon eraill. Er eu bod yn enwog ar lefel ryngwladol, mae’r Rhyfelwyr wedi parhau i weithredu ar lefel leol a chenedlaethol a ddaeth â llwyddiant iddynt yn nes adref, gan ennill gêm arddangos gallu cymysg Undeb Rygbi Cymru a llestri arian ar ffurf Cwpan Lewi, y Cwpan Pen-blwydd a Chwpan Sefydliad DPL. 

Clwb Cymunedol Chwaraeon Y Flwyddyn

Categori wedi ei noddi gan: Chwaraeon Cymru

 

*ENILLYDD*

Clwb Pel-droed Rhydaman

Eleni unwaith eto, mae Clwb Pêl-droed Rhydaman wedi cynnal ei statws Achrediad Platinwm am y drydedd flwyddyn yn olynol am ei ymrwymiad i wella a datblygu’n barhaus.

Mae’r clwb yn darparu amgylchedd cynhwysol i chwaraewyr, hyfforddwyr, a gwirfoddolwyr ddysgu a symud ymlaen gyda chyfleoedd da ar gyfer datblygiad ar draws pob grŵp oedran ar gyfer dynion a merched.

Ym mis Hydref 2022, y clwb oedd y clwb cyntaf yn Sir Gaerfyrddin i ennill Gwobr Aur INSPORT Chwaraeon Anabledd Cymru. Rhoddwyd y wobr hon i gydnabod y cyfleoedd y mae’r clwb yn eu darparu i unigolion ag anabledd. Nhw yw’r ail glwb pêl-droed yn unig yng Nghymru i ennill yr achrediad hwn ac maent wedi gosod cynsail i eraill ei ddilyn.

 

*AIL*

Clwb Triathlon Caerfyrddin

Mae clwb Triathlon Caerfyrddin yn glwb cynhwysol, lle maent yn croesawu aelodau o bob oed a gallu.

Mae gan y clwb naws deuluol, lle mae pob aelod yn cael ei annog i gyflawni ei botensial, waeth beth fo’i allu a’i brofiad. Mae’r hyfforddwyr ymroddedig yn cefnogi amrywiaeth o athletwyr o’r rhai sy’n dechrau rhedeg 5k i’r rhai sy’n cwblhau cystadleuaeth Ironman.

Mae’r ymagwedd hon wedi arwain at gynnydd mewn aelodaeth a gefnogir gan graidd cynyddol a chryf o wirfoddolwyr a hyfforddwyr.

 

*AIL*

Clwb Rhwyfo Caerfyrddin

Mae’r clwb yn rhoi cyfle i bobl o bob oed gymryd rhan a rhwyfo mewn lleoliad hwyliog a phleserus.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae aelodaeth wedi cynyddu 25% trwy godi ymwybyddiaeth yn y gymuned leol a chynnig sesiynau ‘rhoi cynnig arni’ i’r rhai nad ydynt wedi rhoi cynnig ar rwyfo o’r blaen. Mae dau aelod iau yn rhan o’r pwyllgor, ac mae aelodau iau hefyd yn cymryd rhan mewn cyfleoedd codi arian.

Mae hyfforddwyr yn cael y cyfle i ddatblygu a symud ymlaen ac mae’r clwb yn cynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda’r holl wirfoddolwyr lle rhennir dysgu.

Gwobr Goffa Ryan Jones am Wasanaeth Eithriadol i Chwaraeon

Categori wedi ei noddi gan: Castell Howell

 

*CYDNABOD*

Roy Bergiers (Rygbi)

Mae ymwneud Roy â chwaraeon yn ymestyn dros nifer o ddegawdau, o’i ddyddiau chwarae rygbi gyda Chlwb Rygbi Llanelli, Cymru ac wrth gwrs y Llewod Prydeinig yn y 70au i’r dyddiau hyn, lle mae’n parhau i gymryd rhan weithredol mewn chwaraeon mewn amrywiol rolau o fewn gwahanol glybiau a sefydliadau lleol.

Ers ymddeol o chwarae, mae Roy wedi gwneud cyfraniad enfawr fel llywydd Bechgyn Ysgol Caerfyrddin a’r Cylch lle mae ei ymroddiad a’i ymrwymiad yn ei weld yn cefnogi chwaraewyr o salw tîm; megis trefnu sesiynau hyfforddi, gemau, caffael cit, a threfnu tripiau i Stadiwm Principality.

Prif nod Roy yw sicrhau bod y chwaraewyr yn mwynhau profiad rygbi gwych ac mae ei angerdd llethol am y gêm a lles y chwaraewyr yn rhyfeddol. Mae’n hael yn buddsoddi swm sylweddol o’i amser mewn camp a fu unwaith yn paratoi’r ffordd ar gyfer ei yrfa lwyddiannus, ac yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf fel model rôl o chwaraewr a hyfforddwr. 

 

*CYDNABOD*

Del Phillips (Bocsio)

Dechreuodd taith focsio Del yn blentyn pan gafodd fenig yn rhodd, a daniodd angerdd gydol oes. Ym 1964, ymunodd â Chlwb Bocsio Y Tymbl a chystadlu mewn saith gornest amatur, gan gyrraedd Pencampwriaethau Bocsio Amatur Cymru ym 1969. Ei ornest broffesiynol gyntaf oedd yn Coney Beach Porthcawl ar yr un rhaglen â Gornest Bwysau Plu Howard Winstone dan nawdd y Cyngor Bocsio Rhyngwladol ar 24 Gorffennaf 1968.

Yn ystod ei yrfa broffesiynol wynebodd Del 24 gornest, gan ennill cydnabyddiaeth iddo fel Bocsiwr Ifanc Gorau Cymru ym 1968-1969. Arweiniodd anafiadau at ymddeoliad, ond parhaodd ei etifeddiaeth trwy hyfforddi a gwneud gwaith gwirfoddol yng Nghlwb Bocsio Trostre.

Gan ddychwelyd i Glwb Bocsio Trostre ym 1993, cymerodd Del amryw o rolau, gan gynnwys bod yn Ysgrifennydd ac ymgymryd â chyfrifoldebau amlochrog fel Conglwr, Ysgrifennydd Cystadlaethau, Gohebydd, a goruchwylio Ceisiadau Grant gyda’i ymdrechion yn cyfrannu at adnewyddu’r gampfa yn gynhwysfawr. Wrth gael ei gydnabod am ei ymroddiad, derbyniodd Del Aelodaeth Oes o Gymdeithas Bocsio Amatur Cymru yn 2022. 

 

*CYDNABOD*

Bruce Morgan (Athletau)

Ymunodd Bruce â Chlwb Athletau Llanelli ym 1978, gan ddod yn aelod hanfodol o’r tîm Trac a Maes ym 1979. Rhwng 1987 a 1993, gwnaeth gyfraniad sylweddol ar ôl i’r Clwb ailymuno â Chynghrair Cymru. Gan bontio o fod yn gystadleuydd i fod yn Swyddog Maes, daeth Bruce yn ffigwr allweddol yn nhîm Swyddogion y Clwb, gan weinyddu ym Mhencampwriaethau Cymreig a Rhanbarthol. Cymhwysodd fel Hyfforddwr Clwb yn y 1990au, gan ganolbwyntio ar hyfforddi uwch-athletwyr dygnwch.

Cymerodd Bruce, un o hoelion wyth tîm Cynghrair Traws Gwlad Gwent, ran mewn 70 gêm rhwng 1979 a 2023. Yn aelod pwyllgor ymroddedig, gwasanaethodd fel Cadeirydd o 2002 i 2008 a derbyniodd Aelodaeth Oes yn 2015. Yn 2013, croesawodd Bruce Parkrun, gan gyd-sefydlu Parkrun Arfordir Llanelli yn 2016.

Ar hyn o bryd mae’n gyd-gyfarwyddwr rasys Parkrun Parc Dŵr y Sandy, ac mae wedi cwblhau 180 o rediadau parkrun ac wedi gwirfoddoli dros 300 o weithiau, gan gyfrannu at lesiant cannoedd o gyfranogwyr bob wythnos. Ym mis Tachwedd 2023, mae Bruce yn parhau i fod yn aelod uchel ei barch a gwerthfawr o dîm Parkrun.

 

*CYDNABOD*

Vaughan Thomas (Criced)

Ers mwy na 40 mlynedd, mae Vaughan wedi bod yn rhan annatod o’r clwb, gan chwarae rhan ganolog i ddechrau ym muddugoliaeth y tîm yng Nghynghrair De Cymru a dyrchafiad dilynol i’r Uwch Gynghrair.

Dros y 25 mlynedd diwethaf, mae wedi bod yn ymwneud yn frwd â meithrin talent ifanc ac wedi cael swyddi fel Ysgrifennydd Clwb, Cadeirydd Clwb, a Rheolwr Ofalwr am y degawd diwethaf. Mae ymroddiad Vaughan yn ymestyn i ddatblygu llwybr ‘Criced Merched’, yn ymestyn o lawr gwlad i lefel Elite, am dros bum mlynedd.

O ddyletswyddau rheoli’r bar i drefnu criced Dynamos ac All Stars ar draws grwpiau oedran a chydlynu gemau ar gyfer y tîm cyntaf a’r ail dîm, mae Vaughan yn parhau i fod â rhan flaenllaw.