Yr wythnos yma, mae ymgyrch Ymrwymiad I.... y Loteri Genedlaethol yn tynnu sylw at yr arwyr chwaraeon ar lawr gwlad sydd wedi ein cadw ni’n actif a’n cymell ni yn ystod y pandemig.
Fel rhan o'r ymgyrch yma, mae'n bleser gennym ni arddangos ymdrechion cyfnod clo clwb Codi Pwysau Llanelli, sydd wedi derbyn grant y Loteri Genedlaethol yn ddiweddar.
Cyn i'r cyfnod clo ddod i rym fis Mawrth diwethaf, rhannodd y clwb ei bwysau a'i eitemau llai o offer yn gyflym, fel bod yr aelodau’n gallu dal ati i hyfforddi mewn gerddi, ar batios ac mewn ystafelloedd gwely.
Cadeirydd y Clwb, Matthew De Filippo, sy’n esbonio:
"Pa bwysau bynnag oedd gennym ni ar gael, fe wnaethon ni eu rhannu. Fe benderfynwyd cael her clwb hefyd er mwyn cynnal cymhelliant pobl."
Ac felly dyfeisiwyd Kilos for Cash. Gan godi arian hanfodol tuag at offer ar gyfer campfa newydd sbon y clwb yng Ngholeg Sir Gâr yn Llanelli, gofynnodd yr aelodau i ffrindiau a theulu am roddion yn gyfnewid am godi pwysau.
Arweiniodd y hyfforddwyr sesiynau ar-lein hefyd:
"Roedd y sesiynau'n rhoi rhywfaint o strwythur i'r hyfforddiant i'r ieuenctid dan 18 oed ac roedd hefyd yn gyfle iddyn nhw ddod at ei gilydd fel clwb," meddai Matthew. "Dydyn nhw ddim yn mynd i'r un ysgolion nac yn dod o'r un ardal felly roedd pwyslais ar yr ochr gymdeithasol o berthyn i glwb gan ein bod ni'n gwybod eu bod nhw i gyd yn colli'r sesiynau."
Rhoddwyd rhaglenni hyfforddi unigol i athletwyr hŷn, wedi'u teilwra i'r offer oedd ganddynt gartref a'r eitemau roeddent wedi'u benthyca gan y clwb. Roedd yr hyfforddwyr wrth law hyd yn oed i gyflwyno sesiynau ar-lein un i un unwaith yr wythnos i gadw'r codwyr pwysau ar y trywydd iawn.
Ac i wneud yn siŵr bod yr oedolion yn cael cyfle i fod yn gymdeithasol, trefnwyd Codi a Sgwrsio ar Zoom. Roedd y codwyr pwysau'n bwrw ymlaen â'u sesiwn eu hunain ond byddent yn cymryd seibiant ac yn cael sgwrs gydag aelodau eraill y clwb.
Mae'r gampfa newydd yng Ngholeg Sir Gâr yn barod bellach ac agorodd am un neu ddau o sesiynau cyn y cyfnod atal byr ym mis Hydref.
Mae lefel yr ymrwymiad a'r caredigrwydd gan yr hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr yng nghlwb Codi Pwysau Llanelli yn nodweddiadol o wirfoddolwyr chwaraeon ledled Cymru sy'n gwneud y genedl yn falch.
Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.
Cafodd Codi Pwysau Llanelli bron i £1700 o arian y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Defnyddiodd y clwb yr arian i helpu i brynu offer campfa newydd, cyfarpar diogelu personol, diheintyddion ac arwyddion Covid. Mae'r offer a’r cyflenwadau newydd wedi bod yn hanfodol wrth ailddechrau’r clwb ac osgoi traws-heintio.
"Mae gennym ni ddyled fawr i holl chwaraewyr y Loteri Genedlaethol sydd wedi gwneud hyn yn bosib. Rydyn ni’n dod o ardal eithaf difreintiedig ac rydyn ni’n gwybod bod gallu dod yn ôl i'r gampfa wedi bod yn hwb i lawer. Rydyn ni’n gwybod ei fod yn fuddiol iawn i iechyd meddwl ein haelodau ni a’i fod yn seibiant i'w groesawu i’r nifer fawr o staff y GIG a staff addysgu sy’n dod yma.”
Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.
Mwy o flogiau

Newyddion
Wel, am flwyddyn! Rwy'n amau y byddai unrhyw un ohonom wedi rhagweld 2020 mor gythryblus. Yn Actif, rydym yn ymwybodol iawn o'r ffordd y mae'r pandemig wedi effeithio ar iechyd a llesiant cynifer o bobl. Gan fod sawl gwasanaeth wedi'u cau, rydym wedi cael ein cyfyngu o ran y ffordd y gallem eich helpu i gadw'n heini ac yn iach, yn gorfforol ac yn feddyliol, ond nid yw hynny erioed wedi ein hatal rhag meddwl amdanoch na gwneud yr hyn a allwn.

Newyddion
Yn dilyn y cyhoeddiad diweddar gan y Prif Weinidog dros y penwythnos, mae Canolfannau Hamdden Actif bellach wedi cau tan 18 Ionawr 2021. Rydym wedi amlinellu popeth sydd angen i chi ei wybod am ein canolfannau a'ch aelodaeth a sut y gallwch barhau i fod yn egnïol dros yr ŵyl.

Newyddion
Ym Mawrth 2020 daeth chwaraeon ar lawrgwlad i stop pan wnaeth y pandemig gyrraedd Cymru. Ond yn ystod y cyfnod ansicr yma, bu ein clybiau cymuned, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr yn arwyr a rhoi balchder i chwaraeon yng Nghymru.

Newyddion
Yr wythnos yma, mae ymgyrch Ymrwymiad I.... y Loteri Genedlaethol yn dathlu ein harwyr chwaraeon ar lawr gwlad am eu hysbryd cymunedol yn ystod y misoedd diwethaf anodd yma.
Efallai bod Covid-19 wedi newid y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau ond mae un peth yn aros yr un fath: clybiau criced yw calon ein cymunedau ni. Nid yw clybiau, hyfforddwyr a gwirfoddolwyr wedi profi eu hymrwymiad diddiwedd i'n pentrefi, ein trefi a'n cenedl ni ar y fath raddfa erioed o'r blaen. Da iawn!