FFOCWS AR GLWB GYMNASTEG LLANELLI

14/12/2020

Clybiau gymnasteg ar hyd a lled Cymru yw calon ac enaid y gamp ac mae hyn wedi bod yn arbennig o wir yn ystod pandemig Covid-19.

Yn codi morâl ac yn ein cadw ni'n actif, mae clybiau'n darparu gwasanaeth enfawr i gymunedau, yn fwy nag erioed.

Yr wythnos yma, mae ein ffocws ni ar Glwb Gymnasteg Llanelli fel rhan o ymgyrch Ymrwymiad i... y Loteri Genedlaethol, sy’n dathlu ein harwyr chwaraeon ar lawr gwlad.  

Efallai bod drysau'r clwb wedi bod ar gau am 142 diwrnod yn ystod y pandemig, ond dydi hynny ddim wedi atal y gymuned glos yma yn Llanelli rhag hyfforddi a chael hwyl. Fe lwyddwyd i gadw’r gymnastwyr yn actif ac yn llawn cymhelliant gyda sesiynau hyfforddi ar-lein a chodwyd ysbryd pawb gyda chystadlaethau pobi rhithwir a thripiau rhithwir i'r Oscars. Gwisgodd y gymnastwyr – a'r hyfforddwyr – bob wythnos i fwynhau amser gyda'i gilydd ar-lein fel clwb.

Ar ôl i'r cyfyngiadau gael eu codi, trefnodd yr hyfforddwyr sesiynau ar y traeth yn fuan iawn, a chludo offer ysgafn i'r parc lleol fel bod y gymnastwyr yn gallu hyfforddi yn yr awyr agored.

Ers hynny, mae Clwb Gymnasteg Llanelli wedi gallu ailagor, diolch i grant gan y Loteri Genedlaethol o Gronfa Cymru Actif Chwaraeon Cymru. Hyfforddwr y clwb, Debra Cavill, sy’n esbonio:

“O waelod fy nghalon, rydw i eisiau dweud diolch yn fawr wrth bob un o chwaraewyr y Loteri Genedlaethol. Mae'r cyllid wedi bod yn fendith mawr ac wedi galluogi i'n gymnastwyr ni ddod yn ôl i'r gampfa a hyfforddi'n ddiogel. Rydyn ni’n dod o dref fechan yng Nghymru ond rydyn ni’n un teulu mawr. Rydyn ni mor ddiolchgar ein bod ni wedi gallu dod drwy'r cyfnod yma a chroesawu ein gymnastwyr yn ôl.

“Roedd y gampfa ar gau am 142 diwrnod gennym ni ond roedd y clwb yn dal i weithredu. ’Wnaethon ni ddim colli cysylltiad ag unrhyw gymnast yn ystod y cyfnod hwnnw.”

Mae’r clwb wedi derbyn bron i £2500 o arian y Loteri Genedlaethol sydd wedi'i wario ar ddiheintydd dwylo, arwyddion Covid a glanhawyr wedi’u hyfforddi i ddiogelu rhag Covid sy'n glanhau'r gampfa'n drylwyr iawn. Hefyd mae Clwb Gymnasteg Llanelli wedi derbyn 14 o grantiau eraill gan y Loteri Genedlaethol i'w helpu i gadw’r plant lleol yn actif ac i wireddu eu breuddwydion.

Gyda help arian y Loteri Genedlaethol, mae miloedd o weithwyr chwaraeon ar lawr gwlad a gwirfoddolwyr mewn clybiau a sefydliadau lleol ledled y DU wedi gallu dal ati i helpu'r genedl i gadw’n actif, yn hapus ac yn llawn cymhelliant yn ystod pandemig Covid-19.

Diolch i chwaraewyr y Loteri Genedlaethol, mae £30 miliwn yn cael ei godi bob wythnos ar gyfer achosion da. Mae llawer o’r arian yma’n cefnogi'r bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymunedau ni ledled y DU yn ystod argyfwng y Coronafeirws.