Rydym wedi cyrraedd rownd derfynol Gwobrau 'UK Active' 2023!

27/10/2023

Ail yng Nghwobrau 'UK Active' 2023 yn Leeds

Ar Nos Iau 26ain Hydref 2023, mynychodd Chwaraeon a Hamdden Actif y 'UK Active Awards 2023' ar ôl cyrraedd y rhestr fer ar gyfer y rownd derfynol mewn tri chategori!

Ar noson wych o ddathlu, roeddem ochr yn ochr gyda rhai o sefydliadau mwyaf y sector chwaraeon ar draws y Deyrnas Unedig!

Wedi cymryd lle yn y New Dock Royal Armories yn Leeds, fe wnaeth Jozan Morgan (Cydlynydd Actif Unrhyw Le), Matthew Ladd (Rheolwr Cynorthwyol - Canolfan Hamdden Llanymddyfri), Nicky Crocker (Cydlynydd Busnes - Canolfan Hamdden Llanymddyfri) a Cathryn Williams (Hyfforddwr Ffitrwydd - Canolfan Hamdden Llanymddyfri) teithio ar ran Chwaraeon a Hamdden Actif.

Yn 2023, cyrhaeddodd Actif rownd derfynol y categorïau canlynol:

- Ail: Clwb / Canolfan y Flwyddyn Rhanbarthol a Chenedlaethol - Canolfan Hamdden Llanymddyfri

- Ail: Gwobr Arloesedd

- Ail: Gwobr Trawsnewid Digidol

Dilynwyd hyn gan enwebiad ar gyfer Sefydliad y Flwyddyn.

Roeddem yn falch o rannu’r llwyfan gyda sefydliadau gorau’r Deyrnas Unedig. Da iawn i'n staff a gyfrannodd at y cyflawniad hwn.

Dywedodd prif bartner Gwobrau 2023, Prif Swyddog Gweithredol STA Dave Candler:

"Mae'r rhai sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni i gyd wedi dangos gwir arloesedd a chreadigedd mewn cyfnod sydd wedi bod yn gyfnod anodd i'r diwydiant. Mae eu cyflawniadau a'r hyn y maent wedi'i wneud i helpu i hyrwyddo a datblygu'r agenda gweithgarwch corfforol yn anhygoel, ac edrychwn ymlaen at longyfarch pob un ohonynt yn y seremoni wobrwyo eleni."

Staff Actif yng Nghwobrau UK Active