06/04/2023

Gwobr Aur RoSPA

Rydym wrth ein bodd yn rhannu gyda chi fod Chwaraeon a Hamdden Actif wedi ennill Gwobr Aur fawreddog RoSPA am y bedwaredd flwyddyn yn olynol!

Mae'r wobr hon yn adlewyrchu ymrwymiad parhaus ein tîm i gynnal y safonau iechyd a diogelwch uchaf yn y gweithle.

Gyda bron i 2,000 o geisiadau o bron i 50 o wledydd ledled y byd, rhaglen Gwobrau Iechyd a Diogelwch RoSPA yw’r fwyaf yn y DU, ac rydym yn falch o gael ein cydnabod am ein hymroddiad i ddiogelwch a lles.

Diolch i bawb yn nhîm Chwaraeon a Hamdden Actif am eu gwaith caled a’u hymroddiad i ennill y wobr hon.