Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach

21/03/2024

Actif mewn partneriaeth â Gweithgareddau Bywyd Iach

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn falch o fod yn cefnogi digwyddiadau treiathlon Gweithgareddau Bywyd Iach eleni.

Mae Gweithgareddau Bywyd Iach yn cynnig yr amrywiaeth fwyaf o ddigwyddiadau cyfranogiad chwaraeon torfol yn Sir Gaerfyrddin. Mae eu digwyddiadau yn darparu ar gyfer unigolion o bob gallu, oedran ac yn galluogi athletwyr i osod eu heriau eu hunain.

Mae Noelwyn Daniel a Sharon Daniel wedi trefnu dros 150 o ddigwyddiadau ers dros 20 mlynedd, gyda chefnogaeth swyddogion o Driathlon Cymru a Triathlon Prydain, gwirfoddolwyr ymroddedig, clybiau lleol a sefydliadau eraill.

Yn ogystal â digwyddiadau ar gyfer pobl ifanc hŷn ac oedolion, mae Gweithgareddau Bywyd Iach hefyd yn cynnig cyfleoedd i blant ac yn credu mewn buddsoddi amser ac ymdrech i sicrhau bod cymaint o blant yn cymryd rhan mewn digwyddiadau.

Mae'r tymor yn dechrau ym mis Ebrill gyda Triathlon Actif Dyffryn Aman yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman Dydd Sul 7fed Ebrill.

Bydd yn dechrau gyda nofio 400m yn y pwll yn y Ganolfan Hamdden cyn mynd ar y cwrs beicio 16km. Ar ôl dychwelyd i drawsnewid am y tro olaf, bydd cystadleuwyr yn rhedeg 5km ar hyd llwybr beicio Dyffryn Aman cyn gorffen yn ôl ar dir y ganolfan hamdden.

Ar Ddydd Llun Gŵyl y Banc, Mai 6ed, bydd Rasys Y Maer Caerfyrddin gael eu cynnal am y 41fed tro o amgylch strydoedd canol y dref. Bydd y ras 3-lap 5K yn dechrau’r diwrnod am 10yb cyn cyfres o rasys plant, yn amrywio o’r rhai yn y meithrin i’r ysgol gynradd a blwyddyn 7/8.

Ar Dydd Gwener 10fed Mai, Dydd Sadwrn 11eg Mai a Dydd Sul 12fed Mai bydd Gŵyl Aml-Chwaraeon Llanelli yn dychwelyd i Noc y Gogledd. Bydd Nofio Elusennol Sospan Actif, Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks, Treiathlon Sbrint y Gyfres Brydeinig, ParaTriathlon Llanelli a Treiathlon Sbrint Llanelli AGILIS i gyd yn digwydd yn ystod digwyddiad tridiau prysur.

Pencampwriaethau sbrint Cymru yw'r olaf a ras gyntaf Cyfres 'Super Series' Cymru 2024 y tymor hwn. Bydd y ras fore Sul yn cael ei ffilmio ar gyfer rhaglen uchafbwyntiau Cymraeg y gyfres, a fydd yn cael ei darlledu ar S4C.

Os byddwch yn mynychu’r digwyddiadau fel cystadleuydd, gwirfoddolwr neu cefnogwr, peidiwch ag anghofio dod draw i ddweud helo wrth ein tîm!

Mae digwyddiadau yn Sir Gaerfyrddin a gadarnhawyd hyd yma yn 2024 yn cynnwys:

7 Ebrill 2024: Triathlon Sbrint Dyffryn Aman

6 Mai 2024: Ras Hwyl 5k a Rasys Iau Maer Caerfyrddin

10 Mai 2024: Nofio Elusennol Sospan Actif

11 Mai 2024: Duathlon Iau Llanelli Swim Sharks

11 Mai 2024: Treiathlon Sbrint 'Super Series' Cyfres Prydain

11 Mai 2024: ParaTreiathlon Llanelli

12 Mai 2024: Treiathlon Sbrint Llanelli AGILIS

 

I gael rhagor o fanylion am ddigwyddiadau treiathlon yn Sir Gaerfyrddin, ewch i www.healthylifeactivities.co.uk

HLA
Caerfyrddin
Nofio Llanelli sospan