Cynllun Atgyfeirio
Ymarfer Corff (NERS)
Mae'r cynllun yn gweithio mewn partneriaeth â gweithwyr iechyd proffesiynol yn Sir Gaerfyrddin. Mae'n rhoi cyfle i weithwyr iechyd proffesiynol megis meddygon teulu, ffisiotherapyddion, dietegwyr, therapyddion galwedigaethol ac eraill gyfeirio cleifion anweithgar sydd mewn perygl o iechyd gwael neu fod ganddynt gyflwr meddygol sydd eisoes yn bodoli i raglen 16 wythnos strwythuredig cost isel.
Cyflwynir y rhaglen NERS yn ein cyfleusterau yn ogystal ag allan mewn lleoliadau cymunedol.