Ni Wedi Ail-agor

Rydym ni wedi eich colli ac mae'n wych gallu eich croesawu yn ôl. Yn dilyn cyhoeddiad y Llywodraeth ar 31 Gorffennaf, rydym bellach ar agor (ar ddydd Llun 10 Awst).

Bellach gallwn rannu gyda chi'r holl fesurau rydym ni wedi bod yn brysur yn eu rhoi ar waith i sicrhau bod gan ein holl gwsmeriaid a staff amgylchedd diogel a hylan i ddychwelyd iddo.

Y canolfannau sydd wedi ailagor ar 10fed Awst yw:

  • Dyffryn Aman - y gampfa, podiau ymarfer corff, pwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd
  • Canolfan Hamdden Llanelli - y gampfa, podiau ymarfer corff, pwll nofio a dosbarthiadau ffitrwydd
  • Castell Newydd Emlyn - y gampfa a phodiau ymarfer corff
  • Sanclêr - y gampfa, podiau ymarfer corff a nifer cyfyngedig mewn dosbarthiadau dan do
  • Pwll Nofio Llanymddyfri - Pwll Nofio

Ni fydd pob un o'n canolfannau yn ailagor ar hyn o bryd gan fod dwy ohonynt yn dal i gael eu defnyddio fel ysbytai maes y GIG.

  • Canolfan Hamdden Caerfyrddin - Ar Gau
  • Canolfan Chwaraeon Coedcae - Ar Gau

 

Isod gwelir trosolwg o rai o'r newidiadau fydd gennym ar waith.

Os ydych yn teimlo'n anhwylus

  • ARHOSWCH YN DDIOGEL. Os ydych chi'n teimlo'n ANHWYLUS neu'n arddangos unrhyw symptomau COVID-19, peidiwch â mynd i mewn i'r ganolfan, arhoswch gartref a dilynwch ganllawiau'r GIG.

Glanweithdra a Hylendid

  • DIHEINTIWCH/GOLCHWCH EICH DWYLO'N AML. Pan fyddwch yn cyrraedd, diheintiwch eich dwylo. Rydym hefyd yn eich annog i ddiheintio/golchi eich dwylo yn aml yn ystod eich ymweliad.  Mae ystod o fannau diheintio dwylo ar gael ledled y ganolfan.
  • TREFN LANHAU FWY MANWL. Bydd trefn lanhau fwy manwl ar waith ledled y ganolfan. Bydd glanhau dwys hefyd yn digwydd bob nos er mwyn sicrhau bod y ganolfan yn lân ar gyfer y diwrnod nesaf.
  • GORSAFOEDD HUNAN-LANHAU. Byddwn hefyd yn gofyn ichi wneud eich rhan. Yn y gampfa bydd gennym nifer o orsafoedd hunan-lanhau ac rydym yn gofyn yn garedig i chi sychu'r peiriannau/offer cyn ac ar ôl eu defnyddio er mwyn sicrhau tawelwch meddwl pellach.

Cadw Pellter Cymdeithasol

  • CADW PELLTER CYMDEITHASOL. Rydym wedi gosod sawl arwydd diogelwch o amgylch y ganolfan sy'n ei gwneud hi'n haws i chi gadw pellter cymdeithasol rhyngoch chi, staff ac eraill o'ch cwmpas.
  • LLEIHAU NIFER Y BOBL. Rydym wedi lleihau nifer y bobl sy'n gallu ymweld â'r ganolfan a phob gweithgaredd ar unrhyw adeg benodol.  Gwnaed hyn er mwyn sicrhau eich bod chi a'n staff yn gallu cadw pellter cymdeithasol yn y ganolfan.

Mynediad i'ch gweithgaredd dewisol

  • ARCHEBU GWEITHGAREDD. Ni fyddwn yn gadael i unrhyw un sydd heb archebu ymlaen llaw gymryd rhan yn y gweithgaredd, gwnewch yn siŵr eich bod yn archebu ar-lein cyn mynychu unrhyw weithgaredd (campfa, nofio, podiau ymarfer corff a dosbarthiadau yn yr awyr agored). Mae modd ichi archebu'r gweithgareddau hyn trwy fynd ar-lein / lawrlwytho ein ap (bydd angen eich rhif PIN a'ch Prawf Adnabod aelodaeth arnoch chi, ond peidiwch â phoeni gan y byddwn ni'n anfon e-byst atgoffa).  Rydym hefyd wedi lleihau'r cyfnod archebu ymlaen llaw o 14 diwrnod i 5 diwrnod, er mwyn ei gwneud hi'n deg i bawb.

ARCHEBWCH EICH GWEITHGAREDD (Nofio, Campfa, Podiau ymarfer corff) AR Y WEFAN YMA NEU'R AP CHWARAEON A HAMDDEN ACTIF.

  • AMSERAU PENODOL. I sicrhau bod pawb yn cael cyfle i gymryd rhan yn eu gweithgaredd dewisol, rydym wedi cyfyngu pob sesiwn (campfa, podiau ymarfer corff, dosbarthiadau nofio ac awyr agored) i 1 awr yr un ac ni chaniateir i chi symud o un gweithgaredd i weithgaredd arall.
  • Y GAMPFA. Rydym wedi sicrhau bod bylchau rhwng yr offer ac rydym wedi rhoi systemau un ffordd ar waith i wneud yn siŵr eich bod chi'n ymarfer yn ddiogel. Rydym hefyd wedi lleihau'r niferoedd sy'n gallu mynd i'r gampfa ar unrhyw adeg benodol er mwyn ei gwneud hi'n ddiogel i bawb. Wrth archebu'r gampfa yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, byddwch yn sylwi ar y parthau offer lliw (coch, glas, gwyrdd) sydd wedi'u cynnwys fel rhan o'r sesiynau. Beth mae hynny'n ei olygu? Mae gan y parthau Coch a Glas gymysgedd o beiriannau gwrthiant a pheiriannau cardio tra bod y parth gwyrdd yn fwy o bwysau rhydd gydag 1 felin draed a rhwyfwr.
  • PODIAU YMARFER CORFF. Dyma weithgareddau NEWYDD y gallwch eu harchebu. Gan ddefnyddio gofod y stiwdios dawns, rydym wedi marcio ardaloedd 3mx3m sydd ag un darn o offer cardiofasgwlar (Beic/Peiriant Rhwyfo) ynghyd â mainc a detholiad o bwysau ('kettle bell', barbwysau neu ddymbelau).
  • PYLLAU NOFIO. Dim ond mewn lonydd y bydd hawl gan bobl i nofio a bydd y lonydd bellach ‘dwbl’ y lled, er mwyn sicrhau bod pawb yn cadw pellter cymdeithasol yn y dŵr. Rydym hefyd wedi lleihau'r niferoedd sy'n gallu mynd i'r pwll nofio ar unrhyw adeg benodol er mwyn ei gwneud hi'n ddiogel i bawb.
  • YSTAFELLOEDD NEWID. Rydym yn gofyn ichi ddod yn eich gwisg yn barod ar gyfer eich gweithgaredd a archebwyd ymlaen llaw. Yn achos y rheiny sy'n mynd i nofio, rydym yn gofyn ichi wisgo'ch gwisg nofio o dan eich dillad lle bo hynny'n bosibl.  Bydd hyn yn helpu i leihau'r amser a dreulir yn ardal yr ystafell newid.
  • FFYNHONNAU DŴR. Dewch â photeli dŵr wedi'u llenwi ymlaen llaw gyda chi gan na fydd y ffynhonnau dŵr ar gael ac ni fydd modd eu llenwi yn y caffi/peiriannau gwerthu ychwaith.

Croeso nôl i Chwaraeon a Hamdden Actif!

PRISIAU AELODAETH

I'r rhai ohonoch sy'n dymuno ailgychwyn eich aelodaeth, byddwch yn falch o wybod ein bod wedi gostwng ein prisiau aelodaeth debyd uniongyrchol dros dro i adlewyrchu'r gwasanaethau y gallwn eu cynnig ichi pan fyddwn yn ailagor, a ddylai sicrhau mwy fyth o werth i'ch Aelodaeth Actif. Bydd y prisiau is yn aros yn eu lle tan ddiwedd mis Medi. Bydd y prisiau hyn yn cael eu hadolygu bob mis gan ystyried y cyfleusterau a'r gwasanaethau y gallwn eu darparu i chi.

Aelwyd (2 Oedolyn a hyd at 4 o blant 17 oed ac iau) - £30 y mis
Platinwm / Aelodaeth corfforaethol / Myfyriwr / Dros 60 oed / Efydd / Efydd Corfforaethol- - £20 y mis

AILDDECHRAU EICH AELODAETH

Os ydych chi am ailgychwyn eich aelodaeth, y newyddion gwych yw y gallwch chi wneud hyn eich hun nawr.

Dilynwch y camau isod i ailymuno â ni;

  • Cliciwch YMUNO
  • Dewiswch Safle o'r gwymplen (dewiswch y ganolfan sydd orau gennych, hyd yn oed os ydych chi'n defnyddio un arall o'n canolfannau am y tro)
  • Dewiswch Cofrestru ar gyfer aelodaeth
  • Dewiswch Debyd Uniongyrchol Ar-lein
  • Dewiswch yr aelodaeth o'ch dewis o'r rhestr
  • Gan eich bod eisoes yn aelod ni fydd angen i chi ychwanegu eich manylion, ticiwch Oes, mae gen i ID a PIN Aelod a nodwch eich manylion
  • Parhewch i ychwanegu eich manylion a chadarnhau manylion talu
  • Ar ôl i chi gwblhau'r camau hyn, bydd gennych fynediad i'r platfform Actif Unrhyw le nawr

...NEU ANGEN CYMORTH PELLACH I AILGYCHWYN EICH AELODAETH?

Os oes gennych unrhyw un o'r aelodaeth ganlynol bydd angen i chi gysylltu â'n tîm aelodaeth yn uniongyrchol a fydd yn helpu i ailgychwyn eich aelodaeth. Sicrhewch y bydd y 4 mis ac ychydig rydych chi wedi'u colli ers i ni fod dan glo yn cael eu hychwanegu at eich aelodaeth

Os oes gennych;

  • Aelodaeth 365
  • Cerdyn safonol neu Super Saver
  • Aelodaeth nofio flynyddol

Llenwch eich manylion isod a bydd aelod o'r tîm yn eich galw yn ôl erbyn diwedd y diwrnod gwaith nesaf. Byddwch yn ymwybodol mai oriau agor ein swyddfa aelodaeth yw 8yb - 6yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.

Cwestiynau Cyffredin

Rydym yn edrych ymlaen at groesawu aelodau ac ymwelwyr yn ôl i'n Canolfannau Hamdden yn fuan iawn. Iechyd a lles ein cwsmeriaid a'n staff yw ein prif flaenoriaeth. Diolch i chi am eich cydweithrediad yn ystod yr amser anodd a digynsail hwn.

Er mwyn eich helpu i baratoi i ddychwelyd i'ch canolfan leol i fwynhau'ch hoff ddosbarthiadau neu i ddefnyddio ein cyfleusterau mewn ffordd ddiogel, rydym wedi llunio'r adran Cwestiynau Cyffredin isod a ddylai ateb llawer o'ch cwestiynau. Os na, gallwch gysylltu â ni, cliciwch ar y botwm isod

(Ehangwch y teitlau canlynol i ddarganfod mwy)

Canolfannau Hamdden

Pryd fydd Canolfannau Chwaraeon a Hamdden Actif yn ailagor a fydd pob canolfan yn ailagor yr un amser?

Rydym wed ailagor Dyffryn Aman, Castell Newydd Emlyn, Sanclêr a Llanymddyfri o Awst 10fed, 2020. Ar hyn o bryd mae canolfannau hamdden Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu defnyddio fel ysbytai maes ac felly bydd eu hamserlen ailagor yn amrywio.

A allaf gael mynediad i Ganolfan Chwaraeon a Hamdden Actif arall?

Mae ein haelodaeth Debyd Uniongyrchol yn rhoi mynediad i chi i BOB canolfan Hamdden Actif. Mae hynny'n golygu, hyd yn oed os ydych chi'n aelod sy'n defnyddio Caerfyrddin a Llanelli yn rheolaidd, gallwch gyrchu pwll Dyffryn Aman, Castell Newydd Emlyn, San Cler a Llanymddyfri wrth i ni aros am y wybodaeth ddiweddaraf ynghylch pryd y bydd Caerfyrddin a Llanelli yn barod i ailagor.

Beth ydy'r oriau agor yng Nghanolfannau Hamdden Actif o 10fed Awst?

Bydd canolfannau ar agor ar yr un adegau lle bynnag y bo modd. Nid yw'r amseroedd agor hyn yn adlewyrchu'r sesiynau sydd ar gael.

Mae mynediad trwy sesiynau a archebwyd ymlaen llaw gyda niferoedd cyfyngedig.

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Dydd Llun - Dydd Gwener 06:30 - 21:30

Dydd Sadwrn - Dydd Sul 08:00 - 16:00

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Dydd Llun - Dydd Gwener 08:00 - 21:00

Dydd Sadwrn - Dydd Sul 08:00 - 16:30

Canolfan Hamdden Sanclêr

Dydd Llun - Dydd Gwener 08:00 - 21:00

Dydd Sadwrn - Dydd Sul 08:00 - 16:30

Pwll Nofio Llanymddyfri

Dydd Llun - Dydd Mawrth - Dydd Iau 12:00 - 18:30

Dydd Mercher a Dydd Gwener 07:30 - 18:30

Dydd Sadwrn AR GAU

Dydd Sul 09:30 - 14:00

Beth ddylwn i ei wneud pan gyrhaeddaf yn y ganolfan?

Rydym wedi gwneud gwelliannau i'n proses gwirio i mewn i'w gwneud mor gyflym a hawdd i chi. Byddwn yn rhoi botwm RFID newydd i gwsmeriaid os oes angen un. Mae'r botwm hwn yn gysylltiedig â'ch aelodaeth, a bydd yn caniatáu ichi wirio mewn eiliadau - peidiwch â phoeni os nad oes gennych un, byddwn yn eich datrys ar eich ymweliad cyntaf. Ar ôl gwirio i mewn, dilynwch y cyfarwyddiadau a roddir gan ein staff a fydd yn eich cyfeirio at eich gweithgaredd.

A fydd yr holl wasanaethau o fewn y ganolfan hamdden ar agor e.e. caffi, canolfan chwarae…?

Ni fydd rhai gwasanaethau ar agor, i ddechrau, byddwn yn cynnig nofio, campfa a grŵp yn unig. Yn nes ymlaen, byddwn yn agor gweithgareddau eraill fel y mae cyngor y llywodraeth yn caniatáu ac yn destun asesiad risg. Gweler y wefan am fanylion.

A fydd amser penodol y gall aelodau / ymwelwyr ei wario yn y ganolfan?

Cyfyngir sesiynau gweithgaredd i un awr ar sail ymlaen llaw. Mae hyn yn cynnwys newid amseroedd lle bo hynny'n berthnasol.

Pa newidiadau sydd wedi'u gwneud i sicrhau bod yr holl aelodau, ymwelwyr a staff yn ddiogel? (pellteroedd cymdeithasol / cyfundrefnau glanhau / asesiadau risg a gynhelir ac ati)

Bydd cwsmeriaid yn gweld systemau un ffordd, arwyddion, glanhau, gorsafoedd glanweithdra a mynediad cyfyngedig wrth ymweld. Efallai y gofynnir i chi sychu offer ar ôl ei ddefnyddio hefyd. Mae asesiad risg cynhwysfawr a systemau glanhau newydd wedi'u cyflwyno. Bydd y safleoedd i gyd yn gweithredu ar sail arian parod gyda niferoedd cyfyngedig yn y ganolfan ar unrhyw adeg. Bydd yn rhaid i gwsmeriaid gytuno â'n codau ymddygiad wrth archebu.

Gyda Chanolfannau Hamdden Caerfyrddin a Llanelli yn cael eu defnyddio ar hyn o bryd fel ysbytai maes dros dro, a yw hyn yn debygol o darfu ar aelodau a chwsmeriaid yn y canolfannau hyn dros yr wythnosau nesaf?

Bydd y safleoedd hyn ddim yn agor yng ngham cyntaf ailagor, rydym yn siarad â chydweithwyr yn y GIG i archwilio opsiynau yn y dyfodol a chytuno ar anghenion y dyfodol o ran gwasanaeth iechyd. Byddwn yn rhoi cyhoeddusrwydd i unrhyw newidiadau maes o law.

A yw'r canolfannau hamdden wedi'u glanhau'n ddwfn cyn ailagor?

Ydyn, a bydd rhaglenni glanhau arferol ar waith gan gynnwys glanhau dwfn ar ôl i ni ailagor.

A fydd toiledau ar gael?

Bydd toiledau ar gael ymhob canolfan.

A fydd uchafswm o gwsmeriaid a fydd yn cael bod y tu mewn i'r adeilad ar unrhyw un adeg pan fyddwch chi'n ailagor?

Bydd gan bob safle'r niferoedd uchaf fesul sesiwn.

A fydd system giwio / un ffordd i mewn ac allan yn cael ei chyflwyno i osgoi tagfeydd?

Bydd - dilynwch y cyfarwyddiadau wrth ymweld.

Beth sydd angen i mi ddod â / beth na chaniateir yn y ganolfan?

Bydd angen i chi ddod â'ch poteli dŵr eich hun. Os ydych chi'n nofio yna efallai y byddwch chi'n dod ag un yr un o het nofio, arnofio, tynnu bwi, clip trwyn, Goggles a Bandiau Braich / Cymorth Nofio. Ar gyfer ymarfer corff gallwch ddod â'ch mat ioga eich hun.

A fydd ffynhonnau dŵr yn cael eu defnyddio?

Na.

A fyddaf yn dal i allu prynu dŵr a diodydd egni eraill o'r peiriannau?

Na.

Ar gyfer cwsmeriaid sy'n talu am weithgareddau ar ymweliad unwaith, a fydd talu gyda cherdyn digyswllt yn cael ei annog yn hytrach na thrafod arian parod wrth ddesg y dderbynfa?

Gofynnwn fod yn rhaid talu wrth archebu ar-lein.

Fel aelod, cwsmer neu ymwelydd, beth allaf ei wneud pan fydd canolfannau hamdden yn ailagor i helpu i leihau haint pan fyddaf yn ymweld?

Golchwch eich dwylo, defnyddiwch ein gorsafoedd glanweithdra a lle bo hynny'n berthnasol, sychwch eich cit ar ôl ei ddefnyddio gyda'r glanweithyddion a ddarperir. Sicrhewch eich bod yn dilyn yr arwyddion / cyngor ac yn cynnal pellter cymdeithasol. Os ydych chi'n sâl, peidiwch ag ymweld â ni ac aros nes eich bod wedi gwella'n llwyr.

A oes angen i mi wisgo mwgwd neu PPE arall y tu mewn i'r ganolfan?

Na, os dewiswch wisgo mwgwd wyneb gallwch wneud hynny.

A fydd staff y ganolfan yn derbyn hyfforddiant ychwanegol cyn ailagor?

Mae ein holl staff yn cael eu hailhyfforddi cyn agor i sicrhau eu bod yn barod i groesawu a gofalu am gwsmeriaid.

Ydw i'n gallu defnyddio'r ardaloedd chwaraeon awyr agored yng nghanolfannau Hamdden Actif? Sut mae archebu?

Gellir archebu'r cyfleusterau sydd ar gael trwy'r wefan / ap. Ar gyfer ymholiadau archebu rheolaidd, cysylltwch â'r ganolfan yn uniongyrchol dros y ffôn / e-bost.

Archebu ymlaen llaw ar gyfer gweithgareddau

A fydd angen i mi archebu slot ar-lein i ddefnyddio'ch cyfleusterau cyn ymweld?

Bydd - trwy'r wefan neu'r Ap (bydd angen eich PIN A ID aelodaeth i gofrestru) https://carmarthenshire.leisurecloud.net/Connect/MRMLogin.aspx

Oes angen i mi archebu ar-lein cyn defnyddio'r pwll nofio? Sut mae archebu?

Oes; bydd angen i chi archebu'ch sesiwn a thalu amdani ar-lein trwy'r wefan neu'r ap (bydd angen eich PIN A ID aelodaeth i gofrestru) https://carmarthenshire.leisurecloud.net/Connect/MRMLogin.aspx

Oes angen i mi archebu ar-lein cyn defnyddio'r gampfa? Sut mae archebu?

Oes, bydd angen i chi archebu a thalu ar-lein cyn mynychu'r sesiwn campfa. Mae'r niferoedd wedi'u cyfyngu i sail y cyntaf i'r felin. (bydd angen eich PIN A ID aelodaeth i gofrestru) https://carmarthenshire.leisurecloud.net/Connect/MRMLogin.aspx

Eich Aelodaeth

Beth ddigwyddodd i'm haelodaeth yn ystod y cyfnod cloi rhwng mis Mawrth a nawr?

Cafodd eich aelodaeth ei rewi yn ystod y cyfnod yma, bydd yn parhau i fod wedi rhewi oni bai eich bod yn dewis optio i mewn i un o'n hopsiynau aelodaeth a chynhyrchion newydd sydd ar gael. Ni chasglwyd unrhyw daliadau nes bod eich aelodaeth yn cael ei hail-ysgogi.

A oes unrhyw newidiadau i brisiau aelodaeth pan fyddwch yn ailagor?

Byddwn yn cynnig pecyn aelodaeth gan DD ar gyfer y rhai sy'n dymuno derbyn; Sengl £20 yp, Aelwyd £30 yp, Actif Unrhyw le (llif byw / ar alw) £10 yp neu follt o £7.50 ar gyfer aelodau presennol.

Os byddaf yn penderfynu peidio â mynychu'r canolfannau pan fyddant yn ailagor, a fydd opsiwn i rewi fy nghyfrif am gyfnod estynedig.?

Bydd eich cyfrif yn parhau i fod wedi'i rewi yn y tymor byr, gall hyn newid wrth i amser fynd yn ei flaen ac wrth i reolau cloi newid. Byddwch yn clywed gennym wrth i amser fynd heibio i'ch diweddaru ar newidiadau.

Beth fydd yn digwydd i'm taliad debyd uniongyrchol pan ddychwelaf i'r canolfannau, a ddylwn wneud unrhyw beth?

Os dewiswch opsiwn aelodaeth bydd eich debyd uniongyrchol yn ailgychwyn. Os ydych chi'n parhau i fod wedi rhewi gallwch barhau i dalu a chwarae am ein prisiau safonol ar gyfer y sesiynau sydd ar gael.

Fe wnes i ganslo fy debyd uniongyrchol, ond nawr eisiau dychwelyd i'r ganolfan, beth ddylwn i ei wneud?

Rydym yn hapus iawn pe byddech chi'n dewis ail-ymuno â ni, mae eich opsiynau ar gael i'w dewis a'u talu ar-lein. https://www.actif.cymru/aelodaeth/

Os nad fy nghanolfan fydd y cyntaf i agor ac nad yw'n bosibl imi fynd i ganolfan arall, beth fydd yn digwydd i'm taliad debyd uniongyrchol misol?

Bydd yn parhau i fod wedi'i rewi ar hyn o bryd, os bydd hynny'n newid byddwn yn cysylltu â chi.

A allaf Rewi neu Ganslo fy aelodaeth ar ôl ailagor os bydd angen?

Mae gennych yr opsiwn bob amser i rewi neu ganslo'ch aelodaeth.

Hoffwn ymuno ag Actif fel aelod, a allaf wneud hyn ar unwaith?

Gallwch YMUNO â Actif mewn ychydig o gamau syml. Y cyfan sy'n rhaid i chi ei wneud yw clicio YMUNO a dilyn y camau ar y sgrin. Gallwch chi benderfynu pa opsiwn aelodaeth yr hoffech chi ei gymryd p'un a yw hynny'n aelodaeth debyd uniongyrchol neu'n aelodaeth Talu wrth Fynd - eich dewis chi yw'r dewis.

Gobeithio y gwnewch chi fwynhau defnyddio ein cyfleusterau.

Y Gampfa a Dosbarthiadau Fitrwydd

Beth yw amseroedd agor y gampfa?

Edrychwch ar y system cofrestru'r wefan a'r ap am amseroedd agor ac amseroedd sesiynau eich canolfan leol.

A fydd Actif yn cynnal sesiynau arbennig yr awr ar gyfer rhai grwpiau oedran (60+, teuluoedd, cyflyrau iechyd)?

Bydd hyn yn datblygu dros amser, Ewch i'n gwefan a'n cylchlythyrau i gael y wybodaeth ddiweddaraf.

A fydd trefniadau newydd ar waith ar gyfer argaeledd campfa?

Bydd angen i chi archebu a thalu am eich sesiwn ar-lein trwy'r wefan neu'r ap.

A fydd y gampfa ar gael i aelodau yn unig neu a all cwsmeriaid talu wrth fynd gael mynediad i'r gampfa hefyd?

Mae mynediad talu wrth fynd ac aelodau ar gael. Rhaid i bob cwsmer fod wedi'i gofrestru i gael mynediad i'r safle.

Faint o bobl fydd yn gallu ymweld â'r gampfa ar unrhyw un adeg?

Mae hyn yn dibynnu ar y safle gan fod gan bob lleoliad alluoedd gwahanol. Fodd bynnag, mae'r niferoedd yn gyfyngedig i sicrhau bod pellter cymdeithasol a dyraniad gofod yn cael ei gynnal.

A fydd yr holl offer ar gael i'w ddefnyddio?

Byddwn yn sicrhau bod cymaint o offer ar gael ichi ag y gallwn. Bydd yn llai fodd bynnag nag yn yr amseroedd arferol.

Yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman, beth yw'r gwahaniaeth rhwng y parthau offer lliw?

Mae gan y parthau Coch a Glas gymysgedd o beiriannau gwrthiant a pheiriannau cardio ac mae'r parth gwyrdd yn fwy o bwysau rhydd gydag 1 felin draed a rhwyfwr. Gallwch ddarganfod pa liwiau sydd wedi'u cynnwys ym mha sesiynau ym mhob slot archebu.

A yw'n ofynnol i aelodau sychu offer cyn ac ar ôl eu defnyddio?

Gofynnwn i gwsmeriaid wneud hyn wrth ddefnyddio'r gampfa i amddiffyn eu hunain ac eraill, darperir offer (chwistrell a rôl las).

A yw plant (11 oed +) yn cael mynd gyda mi i'r gampfa i ymarfer?

Mae sesiynau ar gael ar sail person sengl.

A fydd dosbarthiadau ffitrwydd yn dychwelyd wrth i ganolfannau ailagor?

Byddwn yn cynnig rhaglen gyfyngedig o ddosbarthiadau, bydd y rhain y tu fewn a'r tu allan.

Faint fydd yn gallu mynychu dosbarth ffitrwydd ar unrhyw un adeg?

Mae gan bob dosbarth wahanol feintiau yn dibynnu ar y gweithgaredd.

A ydych chi'n mynd i fod yn cynnal dosbarthiadau ffitrwydd awyr agored yn Actif?

Ydyn.

Ni allaf gael lle mewn dosbarth. A fydd gennych restr aros rhag ofn y bydd lleoedd sbâr ar gael?

Nid oes unrhyw restrau aros. Byddwn yn gorfodi rheol ar gyfer pobl nad ydyn nhw'n cyrraedd dro ar ôl tro ar gyfer eu gweithgaredd.

I'r rhai na allant ddychwelyd i'r gampfa ar hyn o bryd, a fydd unrhyw le y gallaf gael cyngor i helpu i gadw'n heini gartref?

Mae gennym wasanaethau ar alw ac mae ein cynnyrch Actif Unrhywle yn darparu ar gyfer dosbarthiadau / ffitrwydd llif byw ac ar alw.

Sut allaf gadw mewn cysylltiad â'ch hyfforddwyr ffitrwydd?

Gallwch gadw mewn cysylltiad â ni pan ymwelwch neu trwy'r wefan, e-bost, cyfryngau cymdeithasol a ffôn.

A fydd ystafelloedd newid ar gael i ddefnyddwyr y gampfa?

Ni fydd yr ystafelloedd newid ar gael.

A oes gennych derfyn amser y gallaf ei dreulio yn y gampfa?

Mae'r sesiynau'n 1 awr gan gynnwys cyrraedd, ymarfer a gadael o fewn y slot 1 awr.

Beth sydd angen i mi ddod â / beth na chaniateir yn y ganolfan?

Gallwch ddod â photel ddŵr ac os oes angen eich mat ioga eich hun.

Pa ddyletswyddau glanhau fydd yn cael eu cyflawni yn y campfeydd?

Bydd y lle yn cael ei lanhau ar ôl pob sesiwn yn ogystal â glanhau arferol trwy'r dydd.

A fydd staff y ganolfan ar gael yn y gampfa?

Bydd - trwy gydol yr amseroedd agor.

Pyllau Nofio

Beth yw amseroedd agor y pwll nofio?

Edrychwch ar system cofrestru'r wefan a'r ap am sesiynau sydd ar gael yn eich pwll. Dim ond trwy sesiynau wedi'u harchebu y gellir cael mynediad. Mae'r pyllau ar agor 7 diwrnod yr wythnos.

A fydd Actif yn cynnal sesiynau arbennig yr awr ar gyfer rhai grwpiau oedran (60+, teuluoedd, cyflyrau iechyd)?

Bydd y rhain yn datblygu dros amser ac ar gael ar-lein i'w prynu / archebu. Mae sesiynnau i deuluoedd wedi cael ei gynnwys yn Nyffryn Aman yn unig.

A fydd cyfyngiad ar faint o bobl a ganiateir yn y pwll ar un adeg yn ystod sesiynau nofio?

Bydd gennym niferoedd cyfyngedig a bydd nofio mewn lonydd.

Beth sydd angen i mi ddod â / beth na chaniateir yn y ganolfan?

Gallwch ddod â'ch tywel, un yr un o'r canlynol; potel ddŵr, bwrdd cicio, bwi tynnu, goggles, clip trwyn, bandiau braich a het nofio.

A fydd sesiynau nofio i'r teulu?

Mae sesiynau nofio teulu cyfyngedig bellach wedi'u cynnwys yng Nghanolfan Hamdden Dyffryn Aman yn unig.

Sut mae ei sefydlu

Mae'r pwll wedi'i rannu yn unol â'r sesiynau nofio lôn cyfredol gyda'r ddwy lôn allanol yn cael eu dyrannu i'r sesiwn nofio i'r teulu er mwyn sicrhau bod dwy aelwyd yn pellhau'n gymdeithasol. Mae pob rhan yn rhedeg o ben bas i ben dwfn gyda'r lôn sengl ganolog wedi'i rhwystro i weithredu fel byffer rhwng y ddau grŵp teulu.

Pa ddyddiau / amseroedd maen nhw'n rhedeg

Sesiynau 1 awr ydyn nhw;

Dydd Llun, Mercher a Gwener 11.15yb a 3.45yh

Dydd Mawrth a Dydd Iau 4yp yn unig

Archebu i mewn i'r sesiwn

Gofynnwn mai dim ond un o'r deiliaid cyfrifon aelodaeth sy'n archebu'r sesiwn (yn wahanol i nofio mewn lôn lle gofynnwn i bob unigolyn archebu fesul slot amser) Uchafswm o 6 fesul archeb a RHAID iddo fod o'r un cartref. O'r 6 hynny o archebion, dim ond 3 oedolyn y gallwn eu caniatáu.

Cost

Y gost yw £12.70 a chodir £12.70 ar bob math o aelodaeth ar wahân i Aelodaeth Aelwyd.

A fydd unrhyw newidiadau i'r amserlenni nofio tymor a gyhoeddir wrth symud ymlaen yng Nghaerfyrddin, Llanelli, Dyffryn Aman a Llanymddyfri?

Bydd amserlenni'n adlewyrchu'r sesiynau sydd ar gael yn unig ac felly byddant yn edrych yn wahanol iawn i'r hyn a oedd o'r blaen.

 

Rwy'n hyfforddwr / trefnydd clwb chwaraeon sy'n cyrchu un o'ch pyllau nofio, a fydd yn rhaid i mi ail-archebu diwrnodau ac amseroedd hyfforddi cyn dychwelyd?

Bydd angen archebu a thalu sesiynau ac amseroedd ymlaen llaw pan fydd cyfleusterau'n ailagor a bod slotiau clwb ar gael. Rhaid i bob clwb benodi swyddog cynorthwyol a dilyn eu canllaw corff llywodraethu priodol. Bydd nifer y cyfranogwyr yn gyfyngedig i gydymffurfio â gofynion pellter cymdeithasol.

A fydd cyfleusterau'r ystafell iechyd ar agor?

Ni fydd y cyfleusterau hyn ar agor yng nghamau cychwynnol ailagor.

Sut allai gadw mewn cysylltiad â'ch hyfforddwyr nofio?

Bydd cyswllt yn cael ei gynnal trwy reoli safle a'n cydgysylltwyr nofio yn unig. Gallwch ein cyrraedd trwy e-bost neu ffôn yn eich canolfan leol.

A fydd newidiadau i'r ffordd y bydd ystafelloedd newid yn cael eu dyrannu a'u defnyddio?

Bydd - dyrennir ciwbicl personol i chi ei ddefnyddio ar gyfer y sesiwn. Ni fydd cawodydd ar gael heblaw cawod cyn nofio, wrth ochr y pwll. Gofynnwn ichi gyrraedd nofio yn barod gyda'ch gwisg o dan eich dillad.

A oes gennych derfyn amser y gallaf ei dreulio yn y pwll?

Mae'r sesiynau'n 1 awr gan gynnwys cyrraedd, ymarfer a gadael o fewn y slot 1 awr.

Pa ddyletswyddau glanhau fydd yn cael eu cyflawni yn y pyllau?

Bydd y glanhau yn digwydd rhwng pob sesiwn ac ar ddiwedd y dydd.

A fydd staff ar ochr y pwll?

Bydd achubwyr bywyd ar ddyletswydd, mae'n bwysig eich bod yn dilyn unrhyw gyfarwyddyd a roddir.

Gwersi Nofio

A fydd trefniadau newydd ar waith ar gyfer gwersi nofio mewn ysgolion o fis Medi?

Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgychwyn gwersi nofio mewn ysgolion ym mis Medi. Bydd cynlluniau'n cael eu datblygu gyda phartneriaid Addysg i benderfynu pryd a sut y bydd nofio mewn ysgolion yn ailgychwyn.

Sut bydd gwersi nofio i blant ac oedolion yn gweithio?

Ni fydd rhaglen gwersi nofio yng ngham 1. Mae cynlluniau'n cael eu datblygu a fydd yn galluogi dechrau rhyw fath o ysgol nofio. Rhagwelir y bydd unrhyw raglen gychwynnol yn cychwyn yn ddiweddarach yn y flwyddyn ac yn destun rheolaethau llym. Mae'n annhebygol y bydd rhaglenni llawn yn ailgychwyn yn 2020.

Faint o blant fydd ym mhob gwers nofio a pha mor hir fydd y dosbarthiadau?

Bydd maint dosbarthiadau yn destun pellter cymdeithasol i athrawon a dysgwyr. Mae'n debygol y bydd gwersi yn wythnosau dwys yn hytrach nag yn dymhorol. Bydd nifer y dosbarthiadau yn cael ei leihau'n sylweddol.

A fydd fy mhlentyn / plant yn dal i fod wedi ymrestru yn eu dosbarthiadau nofio arferol ar yr un diwrnod ac amser pan fyddant yn ail-gychwyn?

Na, oherwydd ni fydd y rhaglen yn gallu gweithredu fel yr oedd cyn y cyfnod cloi.

Hoffai fy mhlentyn / plant ddechrau mynychu gwersi nofio. Oes gennych chi le ar hyn o bryd?

Ar hyn o bryd nid oes gwersi ar gael, cadwch lygad ar ein gwefan a'n cylchlythyrau am ragor o fanylion wrth i raglenni newid yn ystod y misoedd nesaf.

Gweithgareddau i blant

A fydd y ganolfan chwarae yn agor yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin?

Mae'r ganolfan chwarae yn parhau ar gau gan fod y cyfleuster yn ysbyty maes.

Pryd fydd y rhaglenni Iau i blant yn ailgychwyn?

Nid oes unrhyw gynlluniau i ailgychwyn rhaglenni plant mewn cyfleusterau yn y tymor byr.

A fydd Clybiau Gwyliau Plant Actif yn cael eu trefnu dros wyliau’r haf a mis Hydref?

Ddim ar hyn o bryd.

Ydy hi'n bosib i archebu parti pen-blwydd yn un o'ch canolfannau nawr ar gyfer dyddiad yn y dyfodol?

Ddim ar hyn o bryd.