Amdano Fan Actif

Fan Actif ar gael i'w harchebu ledled y sir...

Fan Actif!

Mae'r Fan Actif i'w gweld mewn cymunedol ledled Sir Gaerfyrddin ar ei chenhadaeth i gael 10,000 o blant yn actif!

Wedi’i brynu drwy grant gan Lywodraeth Cymru, ei brif nod yw cynyddu’r cyfleoedd i blant a phobl ifanc fod yn egnïol, gan ganolbwyntio’n benodol ar y rhai sy’n byw mewn arwahanrwydd gwledig a/neu ardaloedd o amddifadedd.

Yn ogystal â mentrau sy’n cael eu harwain gan Actif, gellir defnyddio’r Fan Actif i gefnogi amrywiaeth o weithgareddau cymunedol ac rydym yn croesawu ceisiadau i logi’r fan ar gyfer chwaraeon, gweithgaredd corfforol neu ddigwyddiadau cymunedol.

Beth sydd wedi'i gynnwys ar y fan?

  • System Annerch Cyhoeddus
  • Llwyfannau
  • Goleuadau Disgo
  • Ategrwymau
  • Arddangosiad Teledu
  • Meicroffon
  • Cynhyrchydd

Ar gyfer pa fathau o ddigwyddiadau y gellir llogi'r Fan Actif?

  • Digwyddiad Clwb Chwaraeon e.e. Gwyliau, twrnameintiau wedi'u trefnu, diwrnodau agored, cyflwyniadau
  • Digwyddiadau sefydliadau elusennol
  • Sefydliadau corfforaethol e.e twrnamaint chwaraeon
  • Digwyddiadau Corff Llywodraethol Cenedlaethol
  • Digwyddiadau sefydliadau Tref a Chymuned

Nid fydd y Fan Actif yn cael ei llogi i'w defnyddio yma:

  • Raves / Gwyliau cerdd
  • Defnydd personol
  • Gwyliau cysylltiedig ag alcohol
  • Fel unig ddefnydd o gludo eitemau mawr (yn bennaf oherwydd nad yw cynllun mewnol y fan yn addas ar gyfer hyn)

 

Am mwy o wybodaeth, cysylltwch a:

Tim Cymunedau Actif: ActifCommunities@sirgar.gov.uk

Cwestiynnau Cyfredin

Beth yw manylebau'r fan?

  • Ford Transit 350 L4 2.0HD
  • Yn cynnwys lifft cynffon gyda bariau diogelwch, rheiliau rac llwyth mewnol ac adlen ffin HD
  • Llwyth uchaf 3.5 tunnell
  • Tanwydd: Diesel

Pwy all gyrru'r fan?

At ddibenion yswiriant, dim ond staff a gyflogir gan Gyngor Sir Gaerfyrddin all yrru'r fan. Ar gyfer sefydliadau sy'n dymuno ei logi, mae danfon y cerbyd i'r lleoliad y gofynnwyd amdano wedi'i gynnwys fel rhan o'r ffi llogi.

Rhaid i staff CSG feddu ar drwydded yrru lawn y DU ac wedi cwblhau Asesiad Gyrrwr CSG.

Am ba mor hir y gellir llogi'r fan?

Gellir llogi Fan Actif am gyn lleied ag awr, a hyd at yr acheb nesaf!

Faint mae'n ei gostio i logi'r fan?

Rydym yn cynnig amrywiaeth o becynnau llogi ar gyfer y fan i weddu i bob angen, cwblhewch y ffurflen.

Sut ydw i'n archebu'r fan?

Dewiswch un o'r opsiynau canlynol i archebu'r fan:

Adran fewnol Cyngor Sir Gaerfyrddin

Sefydliad Allanol e.e. Clwb Chwaraeon, Cyngor Cymuned

Sut byddaf yn talu am logi'r fan?

Ar ol cwblhau'r archeb a chytundeb y T's a C's bydd anfondeb yn cael ei hanfon at eich sefydliad y gellir ei thalu trwy siec neu drosglwyddiad banc.

Llogwch y Fan Actif ar gyfer eich digwyddiad

Cliciwch yma i lenwi ffurflen Adran fewnol Cyngor Sir Gaerfyrddin

Cliciwch yma i lenwi’r ffurflen Sefydliad Allanol e.e. Clwb Chwaraeon, Cyngor Cymuned

*nid yw cyflwyno ffurflen ymholiad yn gwarantu archebu lle. Rhoddir cadarnhad o archeb unwaith y bydd staff Actif wedi’i brosesu.

 

Ariennir fan Actif drwy grant gan Lywodraeth Cymru a weinyddir drwy'r Asesiad o Ddigonolrwydd Cyfleoedd Chwarae ar ran Cyngor Sir Gaerfyrddin.

Chwaraeon a Hamdden Actif sy'n gyfrifol am y fan ac mae'r holl ddefynydd yn cael ei reoli gan Actif.

Cyngor Sir Gaerfyrddin sy'n berchen ar y fan a'i chynnwys.

Rhoddir blaenoriaeth i gyfleoedd o fewn ardaloedd difreintiedig.