Hyrwyddo Gofalwyr

Ydych chi'n 18+ ac yn ofalwr di-dâl? Wedi cofrestru fel gofalwr di-dâl? A oes gennych eich cerdyn adnabod gofalwr?

Hyrwyddo Gofalwyr

Fel gofalwr di-dâl gallech fod yn gymwys am aelodaeth 3 mis AM DDIM. Byddai hyn yn rhoi'r hawl i chi ddefnyddio holl gyfleusterau Chwaraeon a Hamdden Actif.

Mae’r aelodaeth yn cynnwys defnydd unigol o:

- Campfa

- Dosbarthiadau Ffitrwydd

- Nofio (yn ystod nofio cyhoeddus neu lonydd)

- Ystafell Iechyd

- Ymarferiad Gwiriadau Iechyd

- Rhaglenni ymarfer corff

 

I fod yn gymwys ar gyfer aelodaeth 3 mis am ddim, mae angen i chi:

- 'cerdyn adnabod gofalwr'. E-bostiwch ffotograff o'ch cerdyn i actif@sirgar.gov.uk

- Dim cerdyn adnabod gofalwr? Gallwch gofrestru am gerdyn gan y tîm Lles Data drwy gysylltu â 0300 333 2222 neu e-bostio info@deltawellbeing.org.uk