DEWCH I GYFARFOD Â'N LLYSGENNAD CYMUNEDOL

ENW

Llinos Angharad Gilmore-Jones

PAM YDYCH CHI WEDI DEWIS BOD YN LLYSGENNAD CYMUNEDOL A BETH ALL POBL DDISGWYL O'CH GWEITHGAREDD NEU SESIYNAU?

Rwy'n 37 mlwydd oed ac yn mynd i Steps yn Llanelli. Rwyf hefyd yn aelod o dîm Olympaidd Arbennig Sir Gaerfyrddin ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn amryw o chwaraeon ledled y byd ac yn y sir hon, Sgïo yn Alaska, Bowlio Deg yng Ngwlad Pwyl ac athletau yn Rwsia.

Trwy Steps ymunais â ‘We Can Run’ ar ddydd Mawrth a dydd Iau, rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau gydol oes sydd wedi fy helpu, fy nghefnogi ac fy annog.

Rwyf wedi cyflawni pellteroedd y tu hwnt i'm breuddwydion gan redeg 5k, 10K, Hanner marathon a hyd yn oed wedi cwblhau Marathon Rhithwir Llundain ym mis Hydref. 

Trwy wneud y gweithgareddau hyn rwy'n teimlo'n fwy hyderus a phositif amdanaf fy hun.   

O gofio’r holl gymorth ac arweiniad a gefais, hoffwn helpu eraill i gyflawni eu nodau a'u targedau.

Y GWEITHGAREDD YDYCH CHI YN EI ARWAIN NEU EI GYDLYNU?

Soffa i 5K, Grŵp loncian, Grŵp cerdded

BLE MAE MAN CYFARFOD EICH GWEITHGAREDD?

I’w Gadarnhau

AMSER EICH GWEITHGAREDD?

I’w Gadarnhau

DIWRNOD EICH GWEITHGAREDD?

Mawrth, Iau, Sul

A OES LLE I BARCIO CAR?

Oes

LLUNIAETH AR GAEL?

Oes

TOILEDAU AR GAEL?

Oes

AMGYLCHEDD

Awyr agored

DILLAD AC ESGIDIAU SY’N OFYNNOL?

Dillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ar y pryd a trainers/esgidiau rhedeg/esgidiau cerdded addas.

A OES COST?

Nac oes

A OES ISAFSWM OED I’CH GWEITHGAREDD?

Oes - 18

A YW EICH GWEITHGAREDD YN ADDAS I UNIGOLION AG ANABLEDD?

Ydy

OS YW'N BRIODOL, A YW EICH SESIYNAU YN CROESAWU ANIFEILIAID ANWES?

Ydynt

OS YW'N BRIODOL, A YW EICH SESIYNAU YN ADDAS I RAI GYDA CHADEIRIAU GWTHIO PLANT?

Ydynt

A YDYCH YN CANIATÁU I GYFRANOGWYR GYSYLLTU Â CHI YN UNIONGYRCHOL GYDAG UNRHYW YMHOLIADAU YNGHYLCH EICH GWEITHGAREDD?

Ydw - Ffôn (Galwad llais), Ffôn (Neges Destun)

Llinos