Sgiliau ar gyfer Chwaraeon

Mae ‘Sgiliau ar gyfer Chwaraeon’ yn gyfle hyfforddi i wirfoddolwyr sy’n ymwneud â chanolbwyntio ar sgiliau corfforol fel rhedeg, neidio, taflu a dal. Mae'r rhain yn sgiliau trosglwyddadwy sydd eu hangen ar gyfer bywyd bob dydd.

Trwy roi llawer o gyfleoedd i blant o oedran ifanc i ymarfer sgiliau, byddan nhw'n magu hyder ac yn fwy brwdfrydig am gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol neu chwaraeon.

Pan fydd plentyn yn dysgu sgiliau corfforol mae'n dysgu yn gyntaf oll sgiliau syml megis rhedeg, cadw cydbwysedd, cicio a thaflu. Yna mae'n rhoi'r sgiliau hyn at ei gilydd i greu symudiad ac i wneud gweithgareddau megis beicio, nofio neu chwarae pêl-droed neu bêl-rwyd.

Beth yw e?

Yn rhan o weledigaeth Chwaraeon Cymru i gael 'pob plentyn i wirioni ar chwaraeon am oes', a'n gweledigaeth i gael 'rhagor o bobl yn fwy egnïol yn amlach', mae Sgiliau ar gyfer Chwaraeon yn seiliedig ar y syniadau hyn a'r nod yw gwella llythrennedd corfforol plant a datblygu eu sgiliau

  • Gweithdy Hyfforddiant (ar-lein neu wyneb yn wyneb)
  • Adnoddau
  • Cymorth a mentora
  • Cymorth a chyngor parhaus

Pam y mae hyn yn bwysig?

  • Mae'n rhoi cyfle i blant fagu hyder ac i'w hysgogi o oedran ifanc i gymryd rhan mewn gweithgarwch corfforol   
  • Hefyd mae'n gyfle i blant ddysgu a meistroli'r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen arnynt i gymryd rhan mewn chwaraeon   
  • Yn ogystal gall hyn ddatblygu, ymhlith pethau eraill, sgiliau cymdeithasol, sgiliau datrys problemau, sgiliau iaith, llythrennedd a rhifedd, ynghyd â'r gallu i fod yn rhan o dîm 

Ar gyfer pwy y mae hwn?

Mae'r rhaglen 'Sgiliau ar gyfer Chwaraeon' yn cael ei chyflwyno yn y gymuned. Mae wedi'i hanelu at grwpiau neu glybiau cymunedol neu chwaraeon sy'n darparu gweithgarwch corfforol i blant ifanc, a hefyd at arweinwyr a hyfforddwyr presennol neu newydd, a hoffem i'ch clwb/sefydliad fod yn rhan ohoni!

Sut y bydd yn gweithio yn achos eich grŵp?

Ymgorfforir 'Sgiliau ar gyfer Chwaraeon' yn rhan o sesiynau presennol eich clwb, er enghraifft yn rhan o'r broses ymgynhesu a'r elfen sy'n seiliedig ar sgiliau, neu gellir hefyd ystyried cyflwyno grŵp oedran iau i'ch clwb. Byddwn yn gweithio gyda'ch clwb i weld sut y gellir rhoi'r rhaglen Sgiliau ar gyfer Chwaraeon ar waith yn eich clwb er mwyn darparu ar gyfer eich anghenion chi.

Ble a phryd?

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

Dydd Llun, 4 Ebrill 2022,

5:30pm-8:30pm

Canolfan Carwyn, Drefach

Canolfan Carwyn, Drefach

Dydd Mawrth, 22 Chwefror 2022,

5:30pm-7:30pm

Cyfleusterau Chwaraeon Tregib

Cyfleusterau Chwaraeon Tregib

Dydd Llun, 11 Ebrill 2022,

5:30pm-7:30pm

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

Dydd Llun, 20 Mehefin 2022,

5:30pm-8:30pm

Canolfan Hamdden Llanelli

Canolfan Hamdden Llanelli

Dydd Llun, 8 Awst 2022,

5:30pm-8:30pm

Faint?

Am ddim i bob gwirfoddolwr clwb/hyfforddwr cofrestredig.

Sut y gallaf archebu lle?

Cofrestrwch fod gan eich clwb ddiddordeb yn hyn drwy gwblhau'r ffurflen isod.

Y ddolen gofrestru

 

 

Rhagor o Wybodaeth?

I drafod hyn ymhellach â swyddog, mae croeso ichi gysylltu â ni drwy anfon neges e-bost at Actifcommunities@sirgar.gov.uk.