‘Mae Eich Iechyd yn Bwysig’ yn rhaglen newid ymddygiad 16 wythnos sydd wedi’i thargedu at bobl sy’n profi problemau sy’n gysylltiedig â diabetes, rhoi’r gorau i ysmygu, BMI uchel ac sydd eisiau gwella iechyd a lles cyffredinol.
Rhaglen Mae Eich Iechyd yn bwysig
Yn ystod y rhaglen strwythuredig byddwch yn derbyn cyfathrebu a chefnogaeth reolaidd gan ein harbenigwyr cyfeillgar yn helpu gyda syniadau ryseitiau, nodau gweithgaredd wythnosol, newidiadau ffordd o fyw a nodau meddylfryd.
Mae ‘Mae Eich Iechyd yn Bwysig’ yn cynnwys elfennau y gellir eu cwblhau yn bersonol, ar-lein ac yng nghysur eich cartref eich hun ochr yn ochr â llyfr gwaith.
Byddwch yn cael eich cefnogi, a bydd eich cynnydd yn cael ei fonitro drwy gydol y rhaglen i sicrhau bod eich nodau personol yn cael eu cyflawni. Pan fyddwch yn agosáu at ddiwedd y rhaglen byddwn yn trafod amrywiaeth o gyfleoedd ‘llwybr ymadael’, gan sicrhau eich bod yn parhau i symud ymlaen ar eich llwybr iechyd a lles a newid ymddygiad parhaus.
Dyddiadau cofrestru Mae Eich Iechyd yn bwysig
Bydd y derbyniad nesaf yn dechrau wythnos yn dechrau 11eg Rhagfyr am 16 wythnos.
Mae'r rhaglen am ddim!
Beth i ddisgwyl ar y rhaglen
- Sesiynau grŵp misol wyneb yn wyneb a fydd yn seiliedig ar themâu gwahanol e.e. gweithgaredd corfforol, bwyta'n iach, pwysigrwydd hydradu ac ati.
- Bydd gennych eich llyfr gwaith eich hun i helpu gyda gosod nodau gweithgaredd wythnosol, newidiadau ffordd o fyw a nodau meddylfryd
- Syniadau ymarferol am ryseitiau
- Mynediad am ddim i Actif Unrhyw Le - Ein platfform ar-lein sy'n darparu dosbarthiadau a gweithgareddau llif byw ac ar-alw - unrhyw bryd, unrhyw le.
Byddwch yn rhan ohono
Os ydych yn barod i gofrestru, cliciwch isod:
Os ydych yn hunangyfeirio - cliciwch yma
Os ydych yn weithiwr iechyd proffesiynol neu'n cyfeirio rhywun arall - cliciwch yma