Rhaglen Llysgenhadon Ifanc

Mae Llysgennad Ifanc yn wirfoddolwr sy'n helpu i annog pobl i fwynhau cymryd rhan mewn gweithgareddau corfforol, drwy greu sesiynau hwyliog i ddysgu sgiliau newydd. Nid yn unig y bydd dod yn Llysgennad Ifanc yn helpu pobl eraill i fod yn iachach, bydd hefyd yn meithrin hyder a gwybodaeth i wneud yr hyn yr ydych yn dwlu arno - gan ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o bobl ifanc i fod yn fwy egnïol yn amlach.

Llysgenhadon Ifanc Efydd

Pwy all fod yn Llysgennad Efydd?
Gall disgyblion ysgolion cynradd ym mlynyddoedd 5 a 6 fod yn Llysgennad.
Sut maen nhw'n dod yn Llysgennad Efydd?
Gallent gael eu dewis gan eu hathro/hathrawes neu eu henwebu gan eu cyfoedion am fod yn esiampl i eraill ym myd y campau.
Beth mae Llysgennad Efydd yn ei wneud?
• Cynllunio a darparu clybiau allgyrsiol ar gyfer y Cyfnod Sylfaen hyd at flwyddyn 6
• Diweddaru hysbysfwrdd a gwefan chwaraeon yr ysgol
• Hybu clybiau chwaraeon sy'n bod eisoes yn yr ysgol a rhai newydd
• Annerch gwasanaeth yr ysgol a'r llywodraethwyr ynghylch manteision gweithgarwch corfforol
Pa hyfforddiant a chymorth y maent yn ei gael?
• Diwrnod Hyfforddiant Llysgenhadon Ifanc Efydd
• Mentora a chymorth parhaus

Llysgenhadon Arian

Pwy sy'n gallu bod yn Llysgennad Ifanc Arian?

Disgyblion blwyddyn 9 i 13.

Sut y maent yn dod yn Llysgenhadon Ifanc Arian?

  • Ar ôl hanner tymor mis Chwefror, bydd y Swyddog Cyfranogi yn siarad mewn gwasanaeth Blwyddyn 9 a CA4 am y cynllun Llysgenhadon Ifanc, gan esbonio'r cyswllt rhwng hyn a Bagloriaeth Cymru, Gwobr Dug Caeredin ac ati..
  • Cynhelir cyfarfod byr ac agored ar gyfer unrhyw un sydd â diddordeb yn y rôl, gan wahodd yn benodol y rheiny sydd wedi cael eu hargymell gan yr ysgol lle bydd tasg fer yn cael ei gosod iddynt.

Beth mae Llysgenhadon Ifanc Arian yn ei wneud?

  • Nhw yw llais y disgyblion. Mabwysiadu ymagwedd ysgol gyfan tuag at gael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn amlach.
  • Bydd rolau'n cael eu penderfynu yn ystod mis Mawrth a mis Ebrill yn dilyn trafodaeth gyda'r adran addysg gorfforol ac yn cael eu neilltuo yn ôl cryfderau'r disgyblion: Gallent gynnwys darparu sesiynau allgyrsiol, cefnogi gwersi addysg gorfforol, mentora Llysgenhadon Ifanc Efydd+, gan helpu i gwblhau a gweithredu Cynllun Gweithredu Arolwg Chwaraeon yr Ysgol, helpu disgyblion i gwblhau Arolwg Chwaraeon yr Ysgol, cymryd cofrestri, trefnu offer, eistedd ar y cyngor chwaraeon neu'r cyfryngau cymdeithasol a marchnata. Beth bynnag yw eu rôl, bydd ganddynt dasgau clir gyda dyddiadau cwblhau a thargedau.
  • Cyfarfodydd bob pythefnos gyda'r Swyddog Cyfranogi i'w cefnogi a'u mentora
  • Bydd Llysgenhadon Ifanc Arian yn llenwi ffurflen gofrestru, a fydd yn cynnwys caniatâd rhieni.

Pa hyfforddiant a chymorth y byddant yn eu cael?

  • Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Pasg. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth, cyflwyniad i hyfforddi personol ac eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau ynghyd â chyfle i gynllunio gweithredu yn unol â Chynllun Gweithredu Arolwg Chwaraeon yr Ysgol.
  • Byddant yn cael 2 sesiwn mentora bob tymor ac yn ymgysylltu'n rheolaidd â'r Swyddog drwy gydol y flwyddyn academaidd.

Llysgenhadon Aur

Pwy all fod yn Llysgenhadon Ifanc Aur?

Llysgenhadon Ifanc Aur: Blwyddyn 10 -13

Sut maen nhw'n dod yn Llysgenhadon Ifanc Aur?

Ym mis Mawrth bob blwyddyn bydd proses recriwtio ffurfiol lle bydd ceisiadau'n cael eu gwahodd lle bydd ymgeiswyr sy'n cyrraedd y rhestr fer yn cael eu cyfweld. Ein nod yw cael Llysgennad Ifanc Aur ym mhob ysgol uwchradd.

Beth mae Llysgenhadon Ifanc Aur yn ei wneud?

  • Maent yn hyrwyddo ac yn ysbrydoli, gan arwain y rhaglen LlI ar draws Sir Gaerfyrddin.
  • Byddant yn arwain tîm Llysgennad Ifanc yn eu hysgol, yn creu ac yn darparu hyfforddiant i Llysgenhadon Ifanc lefel is, mynychu digwyddiadau a siarad cyhoeddus, a chreu a darparu prosiectau ledled y sir sy'n cael mwy o bobl, yn fwy egnïol, yn amlach.
  • Cyfarfodydd misol gyda'r Swyddog Cyfranogi a chyda thîm YA Aur.
  • Bydd Llysgenhadon Ifanc Aur yn llenwi ffurflen gofrestru, gyda chaniatâd rhieni.

Pa Hyfforddiant a chefnogaeth maen nhw'n ei gael?

  • Bydd hyfforddiant yn cael ei gynnal yn ystod gwyliau'r Pasg. Bydd yr hyfforddiant yn cynnwys hyfforddiant arweinyddiaeth, cyflwyniad i hyfforddi ac eglurder ynghylch rolau a chyfrifoldebau, ynghyd â rhywfaint o hyfforddiant ychwanegol trwy'r flwyddyn.
  • Fe'u gwahoddir i fynychu cynhadledd Genedlaethol ym mis Hydref
  • Bydd y Swyddogion Cyfranogol yn mentora'r LLGA trwy gydol eu hamser yn y swydd.

Llysgenhadon Platinwm

Trefnwyd y recriwtio o Lysgenhadon Platinwm yn genedlaethol dan arweiniad yr Ymddiriedolaeth Chwaraeon Ieuenctid. Os bydd yn llwyddiannus, bydd yr Llysgennad Platinwm yn rhan o grŵp llywio cenedlaethol ac yn gweithio gyda'r Awdurdod Lleol ar lefel strategol i sicrhau bod disgyblion yn cael eu clywed a'u gweithredu. Mae'r rhaglen yn cynnig ystod o gyfleoedd cyffrous i wneud gwahaniaeth i chwaraeon yng Nghymru