Plant Oed Ysgol Gynradd

Rydym yn gweithio gydag ysgolion a sefydliadau cymunedol i gael plant i fod yn fwy egnïol. Mae ein rhaglenni yn canolbwyntio ar ddatblygu sgiliau corfforol sylfaenol bydd yn datblygu hyder a chymhelliant o oedran ifanc i barhau i fod yn egnïol am oes

Mae ein rhaglenni ar gyfer ysgolion cynradd yn cynnwys -

Chwarae i Ddysgu

Mae ein swyddogion Archwilio a Dysgu yn gweithio gydag athrawon y cyfnod sylfaen i wella eu sgiliau, eu mentora a'u cefnogi i ddarparu sesiynau Chwarae i Ddysgu yn ystod amser y cwricwlwm ac amser allgyrsiol.

Mae'r adnodd yn cynnwys llyfrau stori llawn dychymyg, cardiau sgiliau a chardiau gweithgareddau.

Nod yr adnodd yw rhoi amrywiaeth o syniadau i arweinwyr i helpu i annog plant i ddatblygu eu sgiliau corfforol sylfaenol megis rhedeg, neidio, taflu, dal a chicio.

Aml-sgiliau'r Ddraig

Mae ein swyddogion yn gweithio gydag athrawon y Cyfnod Sylfaen a Chyfnod Allweddol 2 i wella eu sgiliau, eu mentora a'u cefnogi i ddatblygu aml-sgiliau yn yr ysgol.

Mae'r adnodd aml-sgiliau yn cynnwys cardiau sgiliau corfforol a chardiau gweithgareddau i helpu i ddatblygu ystwythder, cydbwysedd a chydsymudiad.

Rydym yn darparu hyfforddiant, yr adnodd a chymorth parhaus o fewn ysgolion i'w hannog i gyflwyno rhaglen aml-sgiliau ar draws eu rhaglenni cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Chwaraeon Penodol

O fewn CA2, mae ein swyddogion yn cynnig cymorth mentora ac adnoddau i ysgolion i'w helpu i ddarparu cyfleoedd allgyrsiol i blant yn seiliedig ar y chwaraeon canlynol Chwaraeon ffocws:

* Gweithgareddau Dŵr * Beicio * Athletau * Triathlon Chwaraeon blaenoriaeth: *Hoci * Pêl-droed * Pêl-rwyd * Criced * Golff * Tenis

Rydym yn gwneud hyn yn y ffyrdd canlynol;

• Partneriaeth, gweithio'n agos gyda Chyrff Llywodraethu Cenedlaethol Chwaraeon i ddatblygu cyfleoedd cyfranogi yn Sir Gaerfyrddin.

• Buddsoddi mewn adnoddau a seilwaith yn seiliedig ar ein 10 chwaraeon ffocws a blaenoriaeth, gan sicrhau llwybrau gadael o brosiectau a rhaglenni ysgol i'r gymuned.

• Cydweithio ag ysgolion i gefnogi'r gwaith o ddarparu ein 10 chwaraeon ffocws a blaenoriaeth mewn gweithgareddau cwricwlaidd ac allgyrsiol.

Mae ein rhaglenni ar gyfer y gymuned yn cynnwys -

Sgiliau ar gyfer Chwaraeon

Mae ein swyddogion Archwilio a Dysgu yn gweithio gyda grwpiau cymunedol sy'n darparu gweithgareddau i blant ifanc, i ddatblygu rhaglen aml-sgiliau. Darperir hyfforddiant, cymorth a chyngor parhaus er mwyn sicrhau bod cyfleoedd cynaliadwy o ansawdd ar gael.

Gellir cynnwys y rhaglen yn hawdd mewn sesiynau presennol y clwb megis wrth gynhesu ac fel rhan o'r elfen sy'n seiliedig ar sgiliau neu yn ogystal, edrych ar gyflwyno grŵp oedran iau i'ch clwb.

Ewch i ddarganfod a oes gan eich cymuned leol y rhaglen hon (dolen i'r cyfeiriadur) neu os ydych yn rhan o glwb cymunedol ac mae gennych ddiddordeb, cysylltwch â ni.

Clybiau chwaraeon

Rydym yn cydnabod ac yn gwerthfawrogi'r ymrwymiad a'r cyfleoedd a gynigir gan glybiau chwaraeon a sefydliadau cymunedol, i sicrhau bod mwy o bobl yn Sir Gaerfyrddin yn fwy egnïol yn amlach! Drwy ein rhaglen newydd sbon, Clybiau Ffyniannus, gall ein Swyddogion Cyfranogi Actif helpu adrannau iau eich clybiau a sefydliadau cymunedol i gryfhau, tyfu a bod yn addas ar gyfer y dyfodol. Rydym yma i helpu!