Neuadd Goffa Llandybie

Dosbarthiadau ymarfer corff newydd sbon i oedolion dros 60 oed. Mae ein holl ddosbarthiadau yn canolbwyntio ar ymarfer corff ysgafn i'ch helpu i adennill ffitrwydd ar eich cyflymder eich hun.

Sesiynau 60+ yn Neuadd Goffa Llandybie

Ymunwch â ni yn Neuadd Goffa Llandybïe ar gyfer dosbarthiadau ymarfer corff newydd sbon i oedolion dros 60 oed. Mae’r gweithgareddau hyn yn berffaith ar gyfer oedolion hŷn ac os nad ydych wedi ymarfer ers tro, peidiwch â phoeni. Mae ein holl ddosbarthiadau yn canolbwyntio ar ymarfer corff ysgafn i'ch helpu i adennill ffitrwydd ar eich cyflymder eich hun. Os ydych chi wedi arfer â gweithgaredd corfforol rheolaidd, yna gellir teilwra'r holl ymarferion i'w gwneud yn fwy heriol i chi. 

Ein nod yw dod â’r gymuned gyda’i gilydd a thrwy wneud hynny, gobeithiwn tra mynychu’r sesiynau hyn byddant yn 

  • Rhoi hwb i'ch hwyliau a'ch lefelau egni
  • Cryfhau eich cyhyrau gan leihau'r risg o unrhyw gwympiadau
  • Cyfarfod â ffrindiau newydd, ond yn bwysicach fyth, eich bod yn cael HWYL!

Mae'r dosbarthiadau yn £4.20 y sesiwn.

Mae angen archebu dosbarthiadau ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom, i wneud hyn gallwch archebu trwy Ap Actif neu fel arall gallwch gysylltu â Chanolfan Hamdden Dyffryn Aman (01269 594517). Os ydych yn dal i gael problemau archebu, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk

Sesiwn Aml Chwaraeon 

Cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon cynhwysol, hwyliog a chymdeithasol, fel cyrlio, boccia a llawer mwy

Bob dydd Mawrth

9:30yb - 10:30yb

Neuadd Goffa Llandybie

Archebwch trwy Ap Actif (dewiswch Actif Community o’r rhestr ‘Fy Nghlybiau’) neu cysylltwch â Chanolfan Hamdden Dyffryn Aman (01269 594517). Os ydych yn dal i gael problemau archebu, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Neuadd Goffa Llandybïe cliciwch ar deilsen Ardal Rhydaman a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.