Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf

Mae Actif Chwaraeon a Hamdden yn falch o sefydlu partneriaeth gyda Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf. Wedi'i gefnogi gan gyllid LEADER.

Sesiynau 60+ yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf

Ymunwch â ni yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf ar gyfer dosbarthiadau ymarfer corff newydd sbon i oedolion dros 50 oed. Mae’r gweithgareddau hyn yn berffaith ar gyfer oedolion hŷn ac os nad ydych wedi ymarfer ers tro, peidiwch â phoeni. Mae ein holl ddosbarthiadau yn canolbwyntio ar ymarfer corff ysgafn i'ch helpu i adennill ffitrwydd ar eich cyflymder eich hun. Os ydych chi wedi arfer â gweithgaredd corfforol rheolaidd, yna gellir teilwra'r holl ymarferion i'w gwneud yn fwy heriol i chi.

Ein nod yw dod â’r gymuned gyda’i gilydd a thrwy wneud hynny, gobeithiwn tra mynychu’r sesiynau hyn byddant yn

  • Rhoi hwb i'ch hwyliau a'ch lefelau egni
  • Cryfhau eich cyhyrau gan leihau'r risg o unrhyw gwympiadau
  • Cyfarfod â ffrindiau newydd, ond yn bwysicach fyth, eich bod yn cael HWYL!

Mae'r dosbarthiadau yn £4.20 y sesiwn.

Mae angen archebu dosbarthiadau ymlaen llaw i osgoi unrhyw siom, i wneud hyn gallwch archebu trwy Ap Actif neu fel arall gallwch gysylltu â Canolfan Hamdden Caerfyrddin (01267 224700). Os ydych yn dal i gael problemau archebu, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk

Beth sydd ymlaen

Dydd Llun - Ymarfer Corff i Gerddoriaeth

Mae Ymarfer Corff i Gerddoriaeth ar gyfer pob gallu. Gellir teilwra sesiynau ar gyfer anghenion pawb, felly dewch draw i ymuno yn yr hwyl. 

Bob dydd Llun

9:30yb - 10:30yb

Neuadd Goffa Hendy-gwyn

Archebwch trwy Ap Actif (dewiswch Cymunedau Actif o’r rhestr ‘Fy Nghlybiau’) neu cysylltwch â Canolfan Hamdden Caerfyrddin (01267 224700). Os ydych yn dal i gael problemau archebu, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk

Dydd Llun - Sesiwn Aml Chwaraeon

Cyfle i gymryd rhan mewn amrywiaeth o chwaraeon cynhwysol, hwyliog a chymdeithasol, fel cyrlio, boccia a llawer mwy

Dydd Llun

10:30yb - 11:30yb

Neuadd Goffa Hendy-gwyn

Archebwch trwy Ap Actif (dewiswch Cymunedau Actif o’r rhestr ‘Fy Nghlybiau’) neu cysylltwch â Canolfan Hamdden Caerfyrddin (01267 224700). Os ydych yn dal i gael problemau archebu, e-bostiwch actif@sirgar.gov.uk

Sut i archebu trwy'r ap

Yn gyntaf lawrlwythwch ein ap Actif trwy fynd i siop ap ar eich ffôn. Chwiliwch am ‘Actif Sport and Leisure’. Ar ôl ei lawrlwytho, agorwch yr ap a chliciwch ar y botwm dewislen ≡ (ar y top i’r chwith) yna dewiswch Fy Nghlybiau bydd rhestr yn ymddangos wedyn dewiswch Cymunedau Actif.

Ar gyfer sesiynau Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf cliciwch ar deilsen Ardal Caerfyrddin a dewiswch y sesiwn yr hoffech ei harchebu.

Ymunwch a ni yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf am:

  • Gweithgareddau plant a theulu
  • Dosbarthiadau Ffitrwydd
  • Cynllun Atgyfeirio Cleifion i wneud Ymarfer Corff
  • Sesiynau 60+
  • Chwaraeon Cerdded
  • Dosbarthiadau Atal Cwympiadau
  • A llawer mwy

Bydd y cydweithio yn agor llawer o gyfleoedd gwirfoddoli, am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: actif@sirgar.gov.uk

Am Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf

Yn ddelfrydol ar gyfer amrywiaeth o ddigwyddiadau e.e codi arian, cyfarfodydd cyhoeddus, gweithgareddau a sioeau ymhlith digwyddiadau eraill ac mae ar gael 7 diwrnod yr wythnos.

Bydd y cydweithio yn agor llawer o gyfleoedd gwirfoddoli, am fwy o wybodaeth cysylltwch â ni ar: actif@sirgar.gov.uk

WCroeso i Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf

Facebook