DEWCH NOL I GAEL IONAWR AM DDIM

Cynnig ar gael am gyfnod byr
Ymunwch heddiw i gael Ionawr AM DDIM

Yma yn Actif rydym yn cydnabod y gallech fod wedi canslo neu rewi eich aelodaeth oherwydd newidiadau gweithredol a wnaethom yn ystod camau cynharach y pandemig na fyddai efallai wedi rhoi gwerth am arian ichi ar y pryd. Rydym yn falch o ddweud ein bod wedi bod yn gweithredu yn unol â rheoliadau a chanllawiau cenedlaethol a lleol, ac os nawr yw'r amser rydych chi'n ystyried dychwelyd atom, byddem wrth ein bodd yn eich croesawu yn ôl. Os byddwch chi'n ailgychwyn eich aelodaeth ar neu cyn 18fed Rhagfyr, byddwch chi'n cael mis Ionawr yn hollol rhad ac am ddim.

Sylwch: mae'r cynnig yma ar gyfer aelodau sydd wedi canslo neu rewi eu haelodaeth o fewn amserlen benodol yn unig, fel chi'ch hun, felly peidiwch rhannu gydag eraill. Bydd y rhai sy'n gymwys hefyd yn derbyn y cyfathrebiad hwn.

Ymunwch ag unrhyw aelodaeth Debyd Uniongyrchol cyn neu ar 18 Rhagfyr 2021 i gael Ionawr 2022 am DDIM

Pan fyddwch yn ymuno, bydd angen i chi dalu am weddill mis Rhagfyr ymlaen llaw. Yn y neges cadarnhau, bydd yn dweud y bydd Debyd Uniongyrchol yn cael ei gasglu gennych ar 1 Ionawr ac eto ar 1 Chwefror, ond byddwch yn dawel eich meddwl na fydd hyn wedi digwydd. Bydd y system yn sicrhau'n awtomatig nad fyddwch yn talu dim ym mis Ionawr 2022. Bydd casgliad DD mis Chwefror yn cael ei gymryd oni bai eich bod yn canslo ymlaen llaw.

Aelodaethau sydd ar gael ar y cynnig hwn yn cynnwys;

Aelodaeth Aelwyd

Ar gyfer hyd at 2 oedolyn a 4 plentyn, yn arbed £46. Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £46.00 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Blatinwm

Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £36.00 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Blatinwm Gorfforaethol

Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £31.00 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Myfyriwr

Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £27.70 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Efydd (aelodaeth nofio yn unig)

Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £25.60 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Efydd Gorfforaethol (aelodaeth nofio yn unig)

Dim i'w dalu ym mis Ionawr 2022 a thalu £22.60 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

Aelodaeth Cymunedol (mynediad diderfyn i weithgareddau mewn lleoliadau cymunedol yn unig)

Dim i'w dalu ym mis Rhagfyr 2021 a Ionawr 2022 a thalu £14.80 o 1 Chwefror 2022 ymlaen

 

Sut i ymuno

Yn gyntaf, rydym yn awgrymu eich bod yn ailosod eich cyfrinair gan y bydd angen cyfrinair arnoch yn y camau sy'n dilyn. I wneud hyn, cliciwch yma. Gofynnir i chi roi eich cyfeiriad e-bost. Defnyddiwch hwn i ofyn am gyfrinair a dilynwch y cyfarwyddiadau yn eich negeseuon e-bost i ailosod eich cyfrinair. Bydd angen i chi sicrhau bod y cyfrinair rydych chi'n ei greu yn 8 nod o hyd ac mae angen iddo gynnwys o leiaf un briflythyren, un llythyren fach, rhif a nod arbennig (%,&?#). Ar ôl i chi gael eich cyfrinair newydd, cadwch ef yn ddiogel.

Nesaf,

  1. Cliciwch YMUNO
  2. Dewiswch eich canolfan agosaf
  3. Dewiswch 'Dechrau/Ailddechrau Aelodaeth’
  4. Nesaf, dewiswch 'Aelodaethau Misol'
  5. Dewiswch yr aelodaeth a ddymunir o'r rhestr
  6. Dewiswch pryd yr hoffech i'ch aelodaeth ddechrau; yn ddiofyn bydd yn dewis dyddiad heddiw (sylwch mai'r dyddiad y byddwch yn ei ddewis yw'r dyddiad y gallwch archebu lle mewn sesiynau. Os byddwch yn ceisio gwneud archeb cyn y dyddiad dechrau yr oeddech wedi'i ddewis, codir tâl arnoch, hyd yn oed os yw dyddiad y sesiwn ar ôl y dyddiad dechrau a ddewiswyd gennych. Y rheswm am hyn yw bod 'archebu ymlaen llaw' yn un o nodweddion eich aelodaeth, ond ni fydd eich aelodaeth wedi dechrau.)
  7. Nesaf, fel aelod blaenorol, nid oes angen i chi nodi eich manylion sylfaenol; yn hytrach, ewch yn syth i'r adran sy'n dweud, 'A oes gennych gyfeiriad e-bost a chyfrinair?' Dewiswch OES a rhowch y cyfeiriad e-bost uchod a'ch cyfrinair newydd
  8. Sicrhewch fod eich holl fanylion yn gywir; os nad ydynt, diweddarwch y manylion ac yna cliciwch nesaf
    Dilynwch y cyfarwyddiadau ar gyfer talu
  9. Ar ôl cwblhau hyn, byddwch yn derbyn e-bost cadarnhau gennym, rydych bellach yn barod i wneud archebion (yn unol â phwynt 7 uchod).

 

Lawrlwythwch ein app

Sut ydw i'n gweld beth sydd ar gael ac yn archebu

Y ffordd hawsaf o wneud hyn yw trwy ein ap. Gallwch weld yr holl sesiynau a'r hyn sydd ar gael yn fyw, felly bydd bob amser yn gyfredol. Yna cliciwch i archebu!

Mae'n syml i'w lawrlwytho ac ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw chwilio am 'Actif Sport and Leisure' yn eich siop apiau. Er mwyn eich helpu i ddefnyddio'r ap, rydym wedi ychwanegu botwm 'APP HELP ' defnyddiol ar yr ap. Fel arall, gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn rydym yn ei gynnig yn ein canolfannau ac yn y gymuned, a gwneud archebion, drwy fynd i'n tudalennau cymorth.

 

Cymorth a Chefnogaeth

Mae gennym adran gymorth gynhwysfawr ar ein gwefan a all helpu i ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych gan gynnwys cwestiynau am aelodaeth a chwestiynau sy'n ymwneud â nofio. Mae'r rhain i gyd ar gael yma