Coronafeirws

Mae pob un o'n canolfannau hamdden wedi cau ers 19 Mawrth 2020 tan rhybudd pellachi.

Ein prif flaenoriaeth yw iechyd a llesiant ein cwsmeriaid a'n staff. Gallwn eich sicrhau na fydd unrhyw gwsmeriaid ar eu colled yn ariannol e.e. bydd pob aelodaeth yn cael ei rhewi'n awtomatig, bydd archebion/huriadau yn cael eu credydu neu eu diwygio ac ati. Byddwn yn cysylltu â phob cwsmer yn uniongyrchol ac rydym yn annog cwsmeriaid i beidio â chysylltu'n uniongyrchol (gweler manylion isod).

Ymddiheurwn am yr anghyfleustra a achosir gan hyn a diolch yn fawr i chi am fod yn amyneddgar yn ystod y cyfnod anodd a digyffelyb hwn. 

I gael y wybodaeth ddiweddaraf, ewch i'n gwefan (www.actif.cymru), ein tudalennau Facebook (Actif Sport and Leisure) a Twitter (@SportCarms) a'r ap newydd (Chwiliwch am 'Actif Sport and Leisure' ar eich App Store).  Byddwn yn defnyddio'r ap i gyhoeddi negeseuon allweddol sy'n effeithio ar ein gwasanaethau yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhewch eich bod yn clicio ar 'Allow Notifications' er mwyn i chi gael yr holl ddiweddariadau.

Y diweddaraf gan Cyngor Sir Gaerfyrddin

Wrth i'r sefyllfa o ran Coronafeirws ddatblygu, mae Cyngor Sir Gaerfyrddin yn cyhoeddi diweddariadau, penderfyniadau a chyngor newydd yn ddyddiol, yn ogystal â gwybodaeth am ffynonellau cymorth a chefnogaeth. 

Cliciwch yma i cael y diweddariadau o Cyngor Sir Gaerfyrddin

 

CADW EIN CWSMERIAID A'N CYDWEITHWYR YN DDIOGEL

Eich aelodaeth

O 19 Mawrth 2020 bydd pob un o'n canolfannau hamdden yn cau tan ddiwedd mis Mai, byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am hyn yn gyson.

Ym mhob gohebiaeth yr ydym wedi'i gwneud gyda chi hyd yn hyn, rydym wedi dweud wrthych y bydd yr holl gyfrifon yn cael eu rhewi tan 31 Mai.   Fodd bynnag, er mwyn ei gwneud yn haws i ni i reoli'r broses, rydym wedi ymestyn y cyfnod rhewi hyd nes y rhoddir gwybod fel arall.  Mae hyn yn golygu na fydd angen i chi boeni am gysylltu â ni cyn 31 Mai i ofyn beth sy'n digwydd gyda'ch cyfrif. 

Byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac unrhyw gyngor ac arweiniad a gawn gan Gyngor Sir Caerfyrddin a'r Llywodraeth ynglŷn â phryd i ailagor, byddwn yn sicrhau eich bod yn cael gwybod popeth gennym.  Am y tro, gallwch fod yn dawel eich meddwl nad oes angen i chi gysylltu â ni ynglŷn â'ch cyfrif gan na fydd taliadau debyd uniongyrchol yn dod allan o'ch cyfrif banc.

Diolch i chi i gyd am eich amynedd a'ch dealltwriaeth yn ystod y cyfnod dyrys hwn.

 

Gwersi Nofio - Beth sy'n digwydd nawr?


Rydym wedi atal pob debyd uniongyrchol misol yn awtomatig ar gyfer ein gwersi nofio 'Dysgu Nofio' felly ni fydd y rhain yn cael eu casglu ar 1 Ebrill a 1 Mai.

Byddwn yn prosesu ad-daliadau ar gyfer 19 Mawrth - 31 Mawrth maes o law, byddwn yn eich hysbysu am y cynnydd ar hyn.

Bydd lle eich plentyn ar gyfer gwersi yn aros yr un fath.

GWYBODAETH LOGWYR / PARTI PEN-BLWYDD

Lle nad yw llogwyr wedi cynnal sesiynau oherwydd y coronafeirws byddwn yn gallu cynnig y canlynol:


- Os ydych chi (y llogwr) wedi talu'r anfoneb gallwn gredydu eich cyfrif am y sesiynau a ganslwyd a gallwch ddefnyddio hyn ar gyfer archebion yn y dyfodol.
- Os nad ydych chi (y llogwr) wedi talu'r anfoneb, gallwch naill ai talu a chael eich credydu i ddefnyddio hyn yn y dyfodol neu ganslo’n rhannol.

Yn achos partïon pen-blwydd a archebwyd, gallwn gynnig eich credydu fel y gallwch ail-archebu parti yn ddiweddarach neu gael ad-daliad.
Bydd aelod o staff o'n canolfannau yn cysylltu â'r rhai y mae hyn yn effeithio arnynt i drafod yr opsiynau.

Beth mae Actif yn ei wneud?

  • Hoffem sicrhau ein haelodau na fydd unrhyw ddebyd uniongyrchol misol yn cael ei gasglu tan rhybudd pellach. Byddwn yn parhau i adolygu'r sefyllfa hon ac yn ymestyn y cyfnod rhewi os bydd angen.
  • Bydd cwsmeriaid sydd wedi talu am aelodaeth neu wasanaeth gyda ni tan ddiwedd mis Mawrth yn cael ad-daliad - byddwn yn cysylltu â chi'n uniongyrchol i brosesu hyn.
  • Os bydd huriwr yn peidio â chynnal sesiwn oherwydd coronafeirws, byddwn yn cefnogi'r camau gweithredu canlynol: os yw'r huriwr wedi talu anfoneb, byddem yn credydu ei gyfrif am y sesiwn a ganslwyd er mwyn iddo ddefnyddio'r swm hwnnw ar gyfer archebion yn y dyfodol; os nad yw'r huriwr wedi talu eto, gallai dalu a chael credyd i'w ddefnyddio yn y dyfodol neu i gael gostyngiad. Bydd aelod o staff yn cysylltu â hurwyr y mae hyn yn effeithio arnynt i drafod yr opsiynau hyn.
  • Byddwn yn parhau i ddilyn cyngor ac arweiniad Iechyd Cyhoeddus Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin ac yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'n cwsmeriaid a'n staff o ran pryd y bydd y canolfannau'n ailagor.

 

Rhoi'r diweddaraf i chi

Bydd ein canolfannau hamdden ar gau o ddydd Iau 19 Mawrth tan ddiwedd mis Mai 2020, a byddwn yn parhau i fonitro'r sefyllfa ac yn dilyn cyngor ac arweiniad gan Lywodraeth Cymru ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Byddwn yn cyhoeddi diweddariadau ar ein gwefan (www.actif.cymru), ein tudalennau Facebook (Actif Sport and Leisure) a Twitter (@SportCarms) ac ar yr ap newydd (Chwiliwch am 'Actif Sport and Leisure' yn eich App Store).  Byddwn yn defnyddio'r ap i gyhoeddi negeseuon allweddol yn ystod y cyfnod hwn. Sicrhewch eich bod yn clicio ar 'Allow Notifications' er mwyn i chi gael yr holl ddiweddariadau.

Beth all aelodau ei wneud i helpu? (canllawiau gan Iechyd Cyhoeddus Cymru)

Gweler y gwefannau hyn sy'n cael eu diweddaru'n rheolaidd,

 

Cyngor Sir Caerfyrddin 
http://newyddion.sirgar.llyw.cymru/2020/02/canllawiau-coronafeirws-covid-19/

 

Iechyd Cyhoeddus Cymru  - yn cael ei diweddaru bob dydd am 11am
https://icc.gig.cymru/newyddion1/datganiad-iechyd-cyhoeddus-cymru-ar-achos-coronafeirws-newydd-yn-tsiena/

Oes gennych chi gwestiwn?

Er mwyn lleihau lefel y galwadau y mae ein canolfannau a'n prif swyddfa yn eu derbyn ar hyn o bryd rydym wedi sefydlu ffurflen gyswllt ar-lein.

Gadewch inni wybod a oes gennych gwestiwn neu ymholiad a byddwn yn gwneud ein gorau i ddod yn ôl atoch cyn gynted â phosibl.

Cliciwch yma i gysylltu â ni drwy e-ffurflen


Byddwn yn postio y diweddaraf ar ein gwefan (www.actif.cymru), Facebook (Actif Sport and Leisure) a thudalennau Twitter (@SportCarms) a'n ap newydd (Chwilio 'Actif Sport and Leisure' yn eich App Store a Google Play) .

Byddwn yn defnyddio ein ap i wthio negeseuon allweddol allan yn ystod yr amser hwn. Gwnewch yn siŵr eich bod yn ‘Caniatáu Hysbysiadau’ fel nad ydych yn colli allan ar unrhyw ddiweddariadau hanfodol gennym ni.