Unigolion anabl sy'n defnyddio cyfleusterau Actif

Mae Actif yn cynnig gwasanaethau a gweithgareddau i bob oed a gallu, anabl a phobl nad ydynt yn anabl. Dysgwch fwy am unigolion anabl sy'n defnyddio ein cyfleusterau, gweithgareddau a dosbarthiadau ar draws y sir.

Lola Johanna Ferenczi, Matyas Ferenczi a Annabel Ferenczi

Darganfyddwch mwy am Lola, Matyas a Annabel

Gweithgaredd: Rhaglen Dysgu Nofio (Canolfan Hamdden Llanelli)

Ym mhle maen nhw'n mynychu dosbarthiadau dysgu nofio?

Canolfan Hamdden Llanelli

Ers pryd y mae'r plant wedi bod ar y Rhaglen Dysgu Nofio?

Ers mis Mawrth 2020

A ydyn nhw'n mynd i'r Ganolfan Hamdden i wneud gweithgareddau eraill?

Ydyn, roedd Matty yn arfer mynd i'r dosbarth beiciau balans ac roedd Lola yn mwynhau'r dosbarthiadau dawnsio

Beth yw'r manteision o fod yn rhan o'r Rhaglen Dysgu Nofio?

Magu hyder yn y dŵr. Mae'n bwysig iawn iddyn nhw gan eu bod nhw'n gallu ofni'r dŵr yn fwy na'r plant eraill sydd â chlyw arferol.

A hoffech ddweud unrhyw beth arall am brofiadau’r plant ar y Rhaglen Dysgu Nofio? Ydyn nhw mewn gwersi prif ffrwd? A yw'r staff yn barod i helpu?

Mae'r staff yn barod iawn i helpu, fodd bynnag mae'n anodd iawn i'r plant ddeall eu cyfarwyddiadau. Mae fy mhlant yn copïo ac yn gwylio'r plant eraill wrth eu hymyl.

Ni allan nhw wisgo cymhorthion clyw yn y dŵr gan nad ydynt yn dal dŵr, ac mae'r staff ymhell oddi wrthynt (y tu allan i'r pwll).

Enghraifft: Ni allai Lola, fy mhlentyn hynaf, gyrraedd y lefel nesaf mewn 6 mis ond mae hi'n gwneud ei gorau. Mae’r cynnydd yn arafach, ond maen nhw i gyd yn mwynhau’r sesiynau a dyna sydd bwysicaf.