Insport i glybiau

Mae rhaglen insport – Clwb - yn rhan o brosiect insport ehangach, a’i nod yw cefnogi’r sectorau gweithgarwch corfforol, chwaraeon a hamdden sy’n cyflwyno’n gynhwysol i bobl anabl.

Mae brosiect insport yn cael ei arwain gan Chwaraeon Anabl Cymru ond mae ein Swyddog Datblygu Chwaraeon Anabl yn Sir Gar yn cynorthwyo clybiau lleol trwyddo.

Pwrpas insport Clwb yw i gefnogi clybiau i ddatblygu eu darpariaeth fel ei bod yn cynnwys pobl anabl mewn strwythurau clwb sy’n darparu’r cyfleoedd gorau i’r gymuned, yn cynyddu cyfranogiad ac aelodaeth, yn galluogi i rannau ehangach o’r gymuned gymryd rhan mewn rôl lywodraethu wirfoddol, ac yn parhau i ddarparu chwaraeon gwych ledled Cymru.

Mae Chwaraeon Anabl Cymru wedi datblygu Pecyn Adnoddau i gefnogi datblygiad meddwl, cynllunio, datblygu a chyflwyno cynhwysol gan y clwb fel eu bod yn gallu cyflwyno ar draws y sbectrwm yn y pen draw i bobl anabl a heb anabledd, gan ddefnyddio sawl fformat gwahanol o bosib. Mae’r pecyn adnoddau hwn yn ymwneud ag arfer da yn gyffredinol a bydd gwneud hyn yn golygu y bydd y cyfleoedd ar gyfer ymwneud â’r gamp (campau) y mae’r clybiau’n eu cynnig yn cynyddu.

Os oes gan eich clwb ddiddordeb mewn cael eich achredu gan insport, cysylltwch â ni cymunedauactif@sirgar.gov.uk