Helpu Clybiau Chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin i ffynnu!

Mae ein rhaglen Clybiau Ffyniannus yn cynnig cymorth ac arweiniad i glybiau chwaraeon i helpu clybiau i gryfhau, tyfu a bod yn barod ar gyfer y dyfodol.

Gall Swyddogion Cymunedau Actif ddarparu cymorth i gryfhau agweddau presennol a datblygu agweddau newydd ar glwb yn ôl anghenion y clwb mewn perthynas â'r canlynol;

• Grantiau a Chyllid
• Marchnata a Hyrwyddo
• Rheoli eich clwb
• Recriwtio aelodau newydd (Dull cynhwysol)
• Cefnogi Gwirfoddolwyr
• Rhannu Arferion Da

Gyda'n rhaglen Clybiau Ffyniannus, byddwn yn mynd trwy'r 5 cam canlynol:

Gwybodaeth am y Clwb

Er mwyn i ni gael gwybod ychydig mwy am eich clwb byddwn yn gofyn i chi roi gwybodaeth am yr aelodau, hyfforddwyr a'r gwirfoddolwyr presennol.

Asesiad o'r Clwb

Byddwn yn eich annog i gwblhau asesiad o'r clwb a fydd yn nodi cryfderau a meysydd i'w gwella yn eich clwb. Bydd hyn yn ein helpu i gefnogi eich clwb.

Ymweld â'r Clwb yn ystod y nos

Hoffem ddod i ymweld â sesiwn hyfforddi lle gallwn siarad â'r hyfforddwyr, rhieni ac aelodau i gael gwell dealltwriaeth o'r clwb.

Tyfu'r Clwb

Gyda'n gilydd, gallwn edrych ar unrhyw feysydd gwella a dechrau eich helpu i osod nodau cyraeddadwy.

Cefnogaeth Barhaus i'r Clwb

Rydym am i'ch clwb ffynnu, felly byddwn yn darparu cefnogaeth barhaus yn ôl yr angen.

helpu clybiau

Caiff y broses uchod ei rheoli drwy ein Porth Clybiau Ffyniannus pwrpasol sy'n galluogi eich clwb i lwytho gwybodaeth ac yn rhoi trosolwg i'n tîm o gynnydd y clwb drwy glicio botwm yn unig.

Os ydych eisiau i'ch clwb ffynnu, cysylltwch â ni!