Aelodaeth Cerdyn Aur Actif

Ar gyfer unigolion sy’n cynrychioli Cymru yn y gamp o’i ddewis. Mae’r aelodaeth yn cynnwys defnydd am ddim o 2 weithgaredd yn un o’n canolfannau hamdden.

Aelodaeth Cerdyn Aur Actif

Beth ydy Aelodaeth cerdyn aur Actif?

Ar gyfer unigolion sy’n cynrychioli Cymru yn y gamp o’i ddewis.

Mae'r aelodaeth yn cynnwys defnydd am ddim o 2 weithgaredd yn un o'n canolfannau hamdden.

Yn ategu rhaglen hyfforddi gyfredol athletwr.

I fod yn gymwys, rhaid i chi roi tystiolaeth eich bod yn cynrychioli Cymru gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ym maes eich camp.

Cymhwysedd

Mae'n rhaid bod ymgeiswyr ar hyn o bryd (o fewn y 6 mis diwethaf) yn cynrychioli Cymru a/neu Brydain Fawr fel unigolyn amatur (heb dâl) yn un o'r canlynol-

a) Tîm neu Garfan Genedlaethol mewn chwaraeon sy'n cael eu cydnabod gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol* y gamp honno.

b) Tîm Cymdeithas Coleg neu Ysgolion Cymru sy'n cael ei gydnabod gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol* y gamp honno.

c) Dyfarnwr wedi'i ddewis gan y Corff Llywodraethu Cenedlaethol sy'n gyfyngedig i'r sawl sydd angen lefel uchel o ffitrwydd er mwyn cyflawni'r rôl.

*Mae'n rhaid i'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol gael ei gydnabod gan Chwaraeon Cymru.

Meini Prawf

Mae'n rhaid i'r ymgeiswyr bodloni o leiaf un o'r canlynol -

a) byw yn Sir Gaerfyrddin.

b) mynychu ysgol yn Sir Gaerfyrddin, ar yr amod nad oes cymorth ar gael gan y sir y lle mae'r ymgeisydd yn byw.

c) aelod o Glwb Chwaraeon yn Sir Gaerfyrddin, ar yr amod nad oes cymorth gan y sir lle mae’r ymgeisydd yn byw.

Ymgeisiwch nawr ar gyfer Aelodaeth Cerdyn Aur Actif

Bydd angen y canlynol arnoch -

- copi o lythyr/ebost ategol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol

- prawf o’ch cyfeiriad

Canllawiau

1. *Dim ond campau a'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol sy'n cael eu cydnabod gan Chwaraeon Cymru fydd yn gymwys. Gweler y daflen Chwaraeon Cymeradwy.
2. Mae'n rhaid amgáu llythyr dethol neu e-bost gan Gorff Llywodraethu Cenedlaethol cydnabyddedig y campau hynny gyda phob cais.
3. Mae'n rhaid i'r llythyr/e-bost ddangos yn glir fod yr athletwr ar hyn o bryd yn cynrychioli / wedi cael ei ddewis i gynrychioli Cymru/Prydain Fawr yn y chwe mis diwethaf a;
i)Bod ar bapur pennawd swyddogol y Corff Llywodraethu Cenedlaethol ac wedi'i arwyddo gan y swyddog perthnasol o'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. (NI chaiff llythyron ar bapur sydd heb fod yn bapur pennawd y Corff Llywodraethu Cenedlaethol eu derbyn) NEU
ii)Bod o gyfrif e-bost Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol swyddogol ac wedi'i arwyddo gan y swyddog perthnasol o'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol. (e.e. gmail, ni dderbynnir cyfrifon hotmail - os nad yw un yn bodoli, cysylltir â'r Cyrff Llywodraethu Cenedlaethol i gadarnhau)
4. Mae mynediad i'r cyfleusterau y gwneir cais amdanynt yn amodol ar fod yn berthnasol i'ch anghenion hyfforddi felly nid oes sicrwydd y bydd y 2 weithgaredd yn cael eu cymeradwyo. Gweler y tabl isod am restr o'r gweithgareddau sydd ar gael ym mhob canolfan.
5. Nid yw mynediad i ddosbarthiadau ffitrwydd, rhaglen iau na gweithgareddau eraill gyda hyfforddwr yn bresennol yn gymwys drwy'r cynllun.
6. Mae'r Awdurdod Lleol yn cadw'r hawl i gysylltu â'r Corff Llywodraethu Cenedlaethol mewn perthynas â'r cais er mwyn cael eglurhad pellach, asesu cynnydd yr ymgeisydd a statws cystadleuol cyfredol.

Canolfannau Hamdden a Cyfleusterau sydd ar gael

Cliciwch ar y canolfannau isod i ddarganfod pa weithgareddau sydd ar gael gydag Aelodaeth Cerdyn Aur

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman

    • Ystafell Ffitrwydd *
    • Pwll Nofio **
    • Cwrt Badminton ***

    *bydd angen cwblhau cwrs sefydlu os nad ydych eisoes wedi bod ar gwrs o'r fath (dylid gofyn am hyn ar eich ymweliad cyntaf)

    *os ydych rhwng 11 ac 13 oed bydd angen i chi fod yng nghwmni oedolyn cyfrifol sydd dros 18 oed bob amser. Bydd yn ofynnol i'r oedolyn cyfrifol (boed yn aelod presennol neu'n aelod newydd) fod yn bresennol yn ymsefydlu'r plentyn hefyd. (Bydd rhagor o wybodaeth yn cael ei darparu os caiff y cais ei gymeradwyo)

    **amserau cyhoeddus yn unig (nid yw ar gael i’w ddefnyddio yn ystod archebion gan glybiau, cystadlaethau a digwyddiadau – cyhoeddir diweddariadau ar y cyfryngau cymdeithasol)

    ***oriau tawel yn unig (yn ôl disgresiwn rheolwr a staff y cyfleuster) ac uchafswm o 2 sesiwn sy’n gallu cael eu harchebu bob wythnos, ni ellir ei ddefnyddio fel rhan o archeb bresennol gan glwb neu gynghrair.

    NODYN: Nid yw pob slot achlysurol / cyhoeddus ar gael trwy'r cerdyn aur (dim ond slotiau sydd ar gael bydd ar y system archebu wrth archebu ar-lein / trwy'r ap)

Canolfan Hamdden Caerfyrddin

    • Ystafell Ffitrwydd *
    • Pwll Nofio **
    • Trac Athletau **
    • Cwrt Tenis ***
    • Tenis Bwrdd ***
    • Cwrt Sboncen ***

Llanelli Leisure Centre

Canolfan Hamdden Castell Newydd Emlyn

Canolfan Hamdden Sancler

Canolfan Hamdden Llanymddyfri

Canolfan Chwaraeon Coedcae

Ffurflen Cofrestru

Unwaith y byddwch wedi cwblhau eich ffurflen bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi.

(*parent or guardian's number if applicant under 16)

Please select the Leisure Centre and corresponding activity of your choice (up to two Leisure Centres, max of two activities in total (e.g. you may select either two activities at a single Leisure Centre, or select two Leisure Centres and a single activity at each)

(consider including – personal goals, events you are training for, the difference it will make to you, any barriers it would help you overcome, etc.)