Dewch i gyfarfod a'n Llysgennad Cymunedol

Enw

Llinos Angharad Gilmore-Jones

Pam ydych chi wedi dewis bod yn Llysgennad Cymunedol a beth all pobl ddisgwyl o'ch gweithgaredd neu sesiynau?

Rwy'n 37 mlwydd oed ac yn mynd i Steps yn Llanelli. Rwyf hefyd yn aelod o dîm Olympaidd Arbennig Sir Gaerfyrddin ac wedi cynrychioli Cymru a Phrydain Fawr mewn amryw o chwaraeon ledled y byd ac yn y sir hon, Sgïo yn Alaska, Bowlio Deg yng Ngwlad Pwyl ac athletau yn Rwsia.

Trwy Steps ymunais â ‘We Can Run’ ar ddydd Mawrth a dydd Iau, rwyf wedi gwneud llawer o ffrindiau gydol oes sydd wedi fy helpu, fy nghefnogi ac fy annog.

Rwyf wedi cyflawni pellteroedd y tu hwnt i'm breuddwydion gan redeg 5k, 10K, Hanner marathon a hyd yn oed wedi cwblhau Marathon Rhithwir Llundain ym mis Hydref.

Trwy wneud y gweithgareddau hyn rwy'n teimlo'n fwy hyderus a phositif amdanaf fy hun.

O gofio’r holl gymorth ac arweiniad a gefais, hoffwn helpu eraill i gyflawni eu nodau a'u targedau.

Y gweithgaredd ydych chi yn ei arwain neu ei gydlynu?

Soffa i 5K, Grŵp loncian, Grŵp cerdded

Ble mae man cyfarfod eich gweithgaredd?

I’w Gadarnhau

Amser eich gweithgaredd?

I’w Gadarnhau

Diwrnod eich gweithgaredd?

Mawrth, Iau, Sul

A oes lle i barcio car?

Oes

Lluniaeth ar gael?

Oes

Toiledau ar gael?

Oes

Amgylchedd

Awyr agored

Dillad ac esgidiau sy'n ofynnol?

Dillad sy'n addas ar gyfer y tywydd ar y pryd a trainers/esgidiau rhedeg/esgidiau cerdded addas.

A oes cost?

Nac oes

A oes isafswm oed i'ch weithgaredd?

Oes - 18

A yw eich gweithgaredd yn addas i unigolion ag anabledd?

Ydy

Os yw'n briodol, a yw eich sesiynau yn croesawu anifeiliaid anwes?

Ydynt

Os yw'n briodol, a yw eich sesiynau yn addas i rai gyda chadeiriau gwthio plant?

Ydynt

A ydych yn caniatau i gyfranogwyr gysylltu a chi yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau ynghylch eich gweithgaredd?

Ydw - Ffôn (Galwad llais), Ffôn (Neges Destun)

Llinos