Dewch i gyfarfod a'n Llysgennad Cymunedol
Enw
Graham Renshaw
Pam ydych chi wedi dewis bod yn Llysgennad Cymunedol a beth all pobl ddisgwyl o'ch gweithgaredd neu sesiynau?
Rwy'n gyn-bennaeth ysgol gynradd wedi ymddeol. Rwy'n ceisio cadw'n heini ac yn egnïol. Bedair neu bum mlynedd yn ôl, dechreuais ymddiddori mewn Pêl-droed Cerdded yng Nghaerdydd. Fe symudon ni i Lanelli ac rydw i wrth fy modd fy mod i'n gallu dal ati i chwarae yma. Mae Pêl-droed Cerdded yn ymarfer corff da i chwaraewyr, waeth beth fo'u hoedran, rhyw neu allu. Mae ein sesiynau yn hwyliog ac yn gymdeithasol - yn dda i iechyd corfforol a meddyliol.
Rydyn ni'n chwarae gemau bach, 5-bob-ochr gydag elfen gystadleuol gyfeillgar. Os oes gennych ddiddordeb, mae cyfle i gymryd rhan mewn cystadlaethau. Mae'r prif ffocws ar fwynhad.
Y gweithgaredd ydych chi yn ei arwain neu ei gydlynu?
Pêl-droed Cerdded
Ble mae man cyfarfod eich gweithgaredd?
Cae 3G Penrhos
Amser eich gweithgaredd?
18:00 - 19:00
Diwrnod eich gweithgaredd?
Dydd Mercher
A oes lle i barcio car?
Oes
Lluniaeth ar gael?
Nac Oes
Toiledau ar gael?
Oes
Amgylchedd
Awyr agored
Dillad ac esgidiau sy'n ofynnol?
Dillad pêl-droed, esgidiau pel-droed
A oes cost?
Oes - £2
A oes isafswm oed i'ch gweithgaredd?
Oes, 18
A yw eich gweithgaredd yn addas i unigolion ag anabledd?
Ydy
Os yw'n briodol, a yw eich sesiynau yn croesawu anifeiliaid anwes?
Nac ydynt
Os yw'n briodol, a yw eich sesiynau yn addas i rai gyda chadeiriau gwthio plant?
Nac ydynt
A ydych yn caniatau i gyfranogwyr gysylltu a chi yn uniongyrchol gydag unrhyw ymholiadau ynghylch eich gweithgaredd?
07984 476448 (Neges Destun)