Actif Logo
  • Catref
  • Aelodaeth
  • Lleoliadau
    • Dyffryn Aman
    • Canolfan Pentre Awel
    • Caerfyrddin
    • Llanymddyfri
    • Castell Newydd Emlyn
    • Sanclêr
  • Amserlenni
  • Gweithgareddau
    • Yn ein Canolfannau Hamdden
    • Gweithgareddau Cymunedol
  • Clwb Chwaraeon
  • Blog
  • Man Cael Cymorth
  • Ymuno
  • Archebu
  • Actif Unrhyw Le
  • English

Cwestiynau Cyffredin Lleoedd Actif

  • Yn ein Canolfannau Hamdden
  • Actif yng Nghanolfannau a Neuaddau Cymunedol
  • Cwestiynau Cyffredin Lleoedd Actif

Ddim yn gallu dod o hyd i'r hyn rydych chi'n chwilio amdano yn y cwestiynau cyffredin? Gweler isod am ffyrdd eraill o sut i gysylltu â ni.

Cwestiynau Cyffredin Lleoedd Actif

Beth yw Lleoedd Actif?

P'un a ydych chi'n chwilio am ddosbarth Ymestyn ac Ymlacio ysgafn, sesiwn Cylchedau egnïol i gael eich calon i guro'n gyflymach, cyfle i gwrdd â phobl newydd wrth gadw'n egnïol neu ffordd hwyliog o symud mwy yn eich wythnos... mae yna rywbeth i bawb - pob oedran, pob lefel ffitrwydd, pob gallu.

Pryd mae'r sesiynau yn rhedeg?

Cynhelir y sesiynau yn Neuadd Goffa Hendy-gwyn ar Daf, Canolfan Gymunedol Hen Ysgol Llanybydder, Neuadd Henoed Porth Tywyn, Canolfan John Burns Cydweli, Neuadd Goffa Pontiets, Neuadd Llandybie, Y Neuadd Cefneithin.

Pa fath o sesiynau sy'n cael eu cynnal?

Yn Actif rydym yn gwerthfawrogi cynwysoldeb, dyna pam y gallwch ddod o hyd i ystod o wahanol sesiynau yn y gymuned. O sesiynau plant i Cylchedau i rai 60+, mae gennym rywbeth i bawb. Rydym yn gwerthfawrogi eich adborth, os hoffech weld rhywbeth yn eich ardal leol rhowch wybod i ni drwy gysylltu a gcpearson@carmarthenshire.gov.uk / SionJames@carmarthenshire.gov.uk

Faint mae sesiynau yn ei gostio?

Mae ein sesiynau cymunedol yn fargen, am ddim ond £2.80 y plentyn a £4.50/oedolyn. Mae aelodaethau ar gael hefyd, mae ein haelodaeth gymunedol yn dechrau o £15.90 i oedolyn. Os ydych chi'n 60+ oed gallwch gael mynediad at yr aelodaeth hon am £7.95 am y 4 mis cyntaf.

Ble gallaf ddod o hyd i ragor o wybodaeth?

Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth trwy glicio ar y botwm islaw. Lawrlwythwch Ap Actif > dewiswch ganolfan > sesiynau cymunedol > archebwch dyddiad ac amser ar gyfer y sesiwn. Am unrhyw gymorth, ffoniwch 01267 224700.

A allaf ymuno os oes gennyf gyflwr iechyd neu symudedd cyfyngedig?

Yn hollol. Mae Lleoedd Actif yn croesawu pobl o bob gallu. Mae llawer o sesiynau’n addasadwy, a gall hyfforddwyr helpu i addasu symudiadau i weddu i anghenion unigol.

A yw’r sesiynau’n gymdeithasol yn ogystal ag yn egnïol?

Ydy! Mae llawer o bobl yn mwynhau Lleoedd Actif fel ffordd wych o gwrdd â phobl newydd, cadw’n frwdfrydig, a mwynhau ymarfer corff mewn amgylchedd cyfeillgar a chefnogol.

A yw sesiynau Lleoedd Actif yn addas ar gyfer pob oedran?

Ydy! Mae’r sesiynau wedi’u cynllunio ar gyfer pob oedran, o oedolion iau i gyfranogwyr hŷn, gyda ymarferion sy’n addas i oedran ac yn hyblyg i’w haddasu.

A oes angen i mi fod yn ffit i gymryd rhan?

Dim o gwbl. Mae sesiynau Lleoedd Actif yn addas ar gyfer pob lefel ffitrwydd, o ddechreuwyr i gyfranogwyr profiadol. Mae hyfforddwyr yn darparu opsiynau fel y gallwch weithio ar gyflymder sy’n teimlo’n iawn i chi.

Sesiynau Lleoedd yn y gymuned

Cadwch y wybodaeth ddiweddaraf am ein app

Lawrlwythwch ein app AM DDIM. Ffordd wych o archebu eich campfa, sesiwn nofio neu ddosbarth pryd bynnag a ble bynnag. Mae ar gael ar ddyfeisiau iOS ac Android ac ni allai lawrlwytho'r ap fod yn symlach.

Download our App on the Google Playstore Download our App on the Apple App Store
Go to Home Page

Cysylltwch â ni drwy'r post

Actif Chwaraeon a Hamdden
Tre Ioan
Caerfyrddin
SA31 3NQ

Cysylltwch â ni

  • Cysylltu
  • Actif Sport and Leisure
  • @SportCarms
  • actifsportandleisure
  • Sport Carms
  • Ap Ffon (Apple Store)
  • Ap Ffon (Google Play)

Dolenni Defnyddiol

  • Gweithio i Ni
  • Telerau ac Amodau
  • Hysbysiad Preifatrwydd
Gwefan gan Tinint Logo

Carmarthenshire County Council © 2022. This web site is produced by the Leisure Division of Carmarthenshire County Council. The extraction of any photographic or written material from these pages without permission is expressly forbidden. The Authority does not accept responsibility or liability for any errors or omissions contained in these pages, nor is any warranty given to any of the internet sites, publications, venues or establishments listed.