Rhaglen Achubwr Bywyd

Mae'r rhaglen Achubwyr Bywyd Oedran Iau yn rhoi'r sgiliau sydd eu hangen ar eich plentyn i fod yn hyderus yn y pwll neu yn y môr - gan roi tawelwch meddwl i chi.

Gall y cwrs Achubwyr Bywyd Oedran Iau redeg ochr yn ochr â gwersi nofio eich plentyn, felly wrth i'w sgiliau nofio wella, bydd ei wybodaeth am ddiogelwch yn y dŵr hefyd yn gwella. 

Mae'r rhaglen yn dechrau gyda Cham 1 y Wobr Efydd ac yn symud ymlaen i Gam 3 y Wobr Aur. Mae'n dysgu plant 8+ oed sut i nofio a mwynhau yn ddiogel yn y dŵr, boed hynny mewn dŵr bas neu ddwfn. Mae'r cwrs hefyd yn cynnwys technegau achub bywyd a dadebru.

Mae'n rhaid bod yn nofiwr cymwys ac yn gallu nofio 800m neu fwy.

Y lefel mynediad yw Ton 7 ac uwch.

 

Ble a phryd y cynhelir sesiynau?

Canolfan Hamdden Caerfyrddin:

Efydd ac Arian - Dydd Mawrth am 6:00yh; Aur - Dydd Mawrth am 6:30yh

I archebu, ebostiwch swimminglessonscarmarthen@carmarthenshire.gov.uk 

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman:

Efydd: Dydd Llun am 4:00yp; Arian: Dydd Llun am 4:45yp

I archebu, ebostiwch swimminglessonsammanford@carmarthenshire.gov.uk

 

Y gost

Mae ein rhaglenni Achubwyr Bywyd Rookies yn costio £30.50 y mis (fesul plentyn) trwy Ddebyd Uniongyrchol. Os byddwch chi'n ymuno'n rhannol drwy'r mis, byddwn yn cymryd taliad pro rata yn seiliedig ar nifer y dyddiau sy'n weddill o'r mis hwnnw. Cymerir y taliad Debyd Uniongyrchol ar y 1af bob mis.

Dim ond yn ein canolfannau hamdden y gellir talu am y sesiynau Achub Bywyd Rookie