Telerau ac Amodau

Telerau ac Amodau Cyffredinol - Chwaraeon a Hamdden Actif

Yn ogystal, gweler rhestr o'n Telerau ac Amodau sy'n ymwneud â phob un o'n haelodaethau. Yn amodol ar newid.

 

Telerau ac Amodau Aelodaeth

Croeso i'r aelodaeth yn eich Canolfan Hamdden leol. Ein nod yw darparu cyfleusterau a gwasanaethau, sy'n bodloni ac yn rhagori ar eich disgwyliadau. Os ydych yn teimlo ar unrhyw adeg ein bod wedi methu â chyrraedd y safonau hyn, mae croeso i chi gysylltu ag aelod o'n tîm.

Byddwn yn gweithio'n galed i sicrhau bod eich ymweliad â'r ganolfan yn un dymunol ac yn helpu i gyflawni eich nodau Iechyd a Ffitrwydd.

Telerau ac Amodau Cyffredinol

A. Cynigir pecyn aelodaeth Blynyddol neu Sefydlog am o leiaf 12 mis lle rydych yn ymrwymo i dymor o 12 mis ac nid ydych yn gallu canslo o fewn y cyfnod hwn. Cynigir pob cytundeb aelodaeth arall ar opsiwn aelodaeth debyd uniongyrchol Hyblyg gyda chyfnod canslo mis calendr llawn.

B. Gall aelodau dalu naill ai drwy danysgrifiad blynyddol ymlaen llaw, neu'n fisol drwy Ddebyd Uniongyrchol. I gael rhagor o fanylion, gweler Telerau ac Amodau Mandad Debyd Uniongyrchol. Er mwyn osgoi amheuaeth, nid yw'r cytundeb hwn yn Gytundeb Credyd Defnyddwyr.

C. Nid oes gan Aelodau sy'n ymuno'n bersonol yn y ganolfan hawl i gyfnod ail-feddwl o 14 diwrnod.

D. Bydd eich aelodaeth yn dechrau ar y Dyddiad Dechrau (fel y'i diffinnir ar adeg ymuno), ac ar ôl hynny rydych yn cytuno i gael eich rhwymo gan y telerau a'r amodau a nodir yn y contract hwn ynghyd â'r Telerau ac Amodau Craidd ac unrhyw delerau ac amodau perthnasol eraill.

E. Mae'r tymor aelodaeth, os yw'n 12 mis sefydlog, yn 12 mis o leiaf a bydd eich taliadau Debyd Uniongyrchol yn parhau y tu hwnt i 12 mis hyd nes y byddwch yn rhoi gwybod yn ysgrifenedig wrthym am eich bwriad i ganslo.

F. Gall yr aelod ganslo ei aelodaeth drwy gysylltu ag Actif@sirgar.gov.uk unrhyw bryd ond mae angen 7 diwrnod o rybudd ar Actif cyn y taliad debyd uniongyrchol nesaf, os na chaiff y cyfnod rhybudd hwn ei fodloni bydd y taliad nesaf yn ddyledus.

G. Os hoffech ganslo un aelodaeth yn unig ar eich cyfrif, mae'n rhaid i chi wneud hynny naill ai drwy'r adran cysylltu â ni ar ein gwefan, www.acitif.wales neu drwy anfon e-bost at actif@sirgar.gov.uk neu'n ysgrifenedig i gyfeiriad post y Brif Swyddfa, Canolfan Hamdden Caerfyrddin, Heol Llansteffan, Tre Ioan, Caerfyrddin, SA31 3NQ. Ar ôl ei brosesu byddwch yn derbyn cadarnhad o'r canslo. Os na ddilynir y telerau canslo, gellir cymryd achosion cyfreithiol a bydd taliadau gweinyddol yn berthnasol.

H. Pan fo Debyd Uniongyrchol wedi methu neu os yw aelod wedi honni ei fod wedi canslo ei Ddebyd Uniongyrchol heb gytundeb ymlaen llaw, bydd yr aelodaeth yn cael ei hatal hyd nes y derbynnir y taliad. Bydd unrhyw aelod sydd ar ei hôl hi â thaliadau am fwy nag 1 mis calendr yn fforffedu ei (h)aelodaeth. Ar ôl methu â thalu, bydd y broses o adfer yr aelodaeth neu unrhyw aelodaeth yn y dyfodol yn amodol ar dalu'r ffioedd aelodaeth sy'n weddill yn llawn. Os na ddilynir telerau'r contract, gellir cymryd achosion cyfreithiol a gall taliadau gweinyddol fod yn berthnasol.

I. Efallai y caniateir i chi rewi eich aelodaeth am gyfnod y cytunwyd arno (hyd at uchafswm o 6 mis) am ddim. Rhaid gwneud y cais hwn drwy'r ffurflen yn adran y ganolfan gymorth ar ein gwefan, gan nodi'r rheswm dros rhewi. Unwaith y bydd wedi'i brosesu byddwch yn derbyn cadarnhad a yw'r cyfnod rhewi wedi'i dderbyn ai peidio - rhaid cadw hyn fel prawf. Mae angen o leiaf 7 diwrnod o rybudd arnom cyn bod y debyd uniongyrchol nesaf yn ddyledus er mwyn oedi o 1af y mis nesaf.

J. Gallwch uwchraddio/israddio i aelodaeth o'ch dewis o'r 1af o'r mis canlynol. Bydd tâl gweinyddol sylfaenol o £15 am y trosglwyddiad yn cael ei wneud i'r aelod neu'r aelodaeth newydd. Llenwch y ffurflen ar yr adran gymorth er mwyn anfon y cais hwn.

K. Byddwn yn rhoi gwybod i chi o leiaf 2 wythnos cyn unrhyw gynnydd ym mhris eich aelodaeth, drwy e-bost yn y lle cyntaf neu drwy lythyr. Cyfrifoldeb yr aelodau yw rhoi gwybod i ni am unrhyw newidiadau i'ch manylion personol a'ch manylion cyswllt gan gynnwys cyfeiriad, rhif ffôn a chyfeiriad e-bost fel y gellir cyfathrebu â chi. Gallwch hefyd wneud y newidiadau hyn yn uniongyrchol yn ardal aelodaeth eich cyfrif archebu ar-lein neu drwy ddefnyddio'r adran gymorth ar ein gwefan o dan aelodaethau presennol.

L. Rydym yn cadw'r hawl i ddiweddaru a/neu ddiwygio'r telerau ac amodau yn ôl yr angen heb rybudd ymlaen llaw. Gofynnir i'r Aelodau gadw at y Telerau ac Amodau Aelodaeth bob amser.

M. Rydym yn cadw'r hawl i ganslo unrhyw aelodaeth yn ôl ein disgresiwn llwyr a heb dalu iawndal.

N. Mae'n rhaid i bob un sy'n defnyddio'r gampfa gwblhau sesiwn gyflwyno cyn defnyddio'r gampfa.

1.1 Codau a Chynigion Hyrwyddo
a. Drwy ddefnyddio côd hyrwyddo neu gymryd rhan mewn cynnig aelodaeth ar aelodaeth hyblyg, rydych yn cytuno i dalu o leiaf un mis(oedd) o ddebyd uniongyrchol yn achos canslo. Os byddwch yn canslo cyn y cyfnod hwn, efallai y byddwn yn cymryd y rhyddid i ganslo eich aelodaeth yn syth o fewn y cyfnod hyrwyddo hwn, neu fel arall yn codi tâl o un mis i dalu am y cyfnod hyrwyddo.

Telerau ac Amodau Craidd

Beth mae'r telerau hyn yn eu cynnwys.

Dyma'r telerau ac amodau sy'n amlinellu telerau contract craidd eich aelodaeth. I gael rhagor o fanylion am eich aelodaeth, gweler Telerau ac Amodau eich Aelodaeth.

1. Ein contract gyda chi

1.1 Sut y byddwn yn derbyn eich cais am aelodaeth. Bydd eich aelodaeth yn cael ei derbyn pan fyddwn yn cadarnhau hyn drwy e-bost neu'n ysgrifenedig atoch ac yna bydd y Telerau ac Amodau hyn yn berthnasol.
1.2 Eich rhif aelodaeth. Byddwn yn neilltuo rhif aelodaeth i chi pan fyddwn yn derbyn eich cais am aelodaeth.

2. Darparu'r gwasanaethau aelodaeth

2.1 Pan fyddwn yn darparu'r gwasanaethau aelodaeth. Byddwn yn parhau i ddarparu gwasanaethau aelodaeth i chi ar yr amod nad ydych yn torri unrhyw un o'r Telerau ac Amodau (fel y'u diffinnir isod).
2.2 Os na chaiff eich debyd uniongyrchol ei gasglu ar y dyddiad talu bydd eich aelodaeth yn cael ei hatal, bydd gennych 12 diwrnod o'r diwrnod casglu i wneud y taliad er mwyn sicrhau bod eich cyfrif yn aros yn weithredol. Ar ôl y 12fed diwrnod bydd eich cyfrif yn cael ei ganslo, a bydd ffi ymuno lawn yn berthnasol.

3. Ein hawliau i ddod a'r aelodaeth i ben

3.1 Efallai y byddwn yn dod â'r aelodaeth i ben os byddwch yn torri'r telerau ac amodau. Efallai y byddwn yn dod â'ch aelodaeth i ben ar unrhyw adeg drwy ysgrifennu atoch os:
3.1.1 nad ydych yn gwneud unrhyw daliad i ni pan fydd yn ddyledus ac nad ydych yn gwneud taliad o fewn 7 diwrnod i ni eich atgoffa bod y taliad yn ddyledus;
3.1.2 nad ydych, o fewn amser rhesymol i ni ofyn amdano, yn rhoi gwybodaeth i ni sy'n angenrheidiol i ni ddarparu'r gwasanaethau aelodaeth;
3.1.3 ydych yn torri unrhyw un o'r telerau ac amodau sy'n berthnasol i'ch aelodaeth. Rydym hefyd yn cadw'r hawl i'ch tynnu o'r cyfleusterau os tybiwn fod hyn yn weithred briodol.

4. Os oes problem gyda'r gwasanaethau

4.1 Crynodeb o'ch hawliau cyfreithiol. Mae gennym ddyletswydd gyfreithiol i gyflenwi gwasanaethau sy'n cydymffurfio â'r Telerau a'r Amodau hyn. Gweler isod am grynodeb o'ch hawliau cyfreithiol allweddol mewn perthynas â'r gwasanaethau aelodaeth. Ni fydd unrhyw beth yn y telerau hyn yn effeithio ar eich hawliau cyfreithiol. Dyma grynodeb o'ch hawliau cyfreithiol allweddol. Mae'r rhain yn destun rhai eithriadau. I gael gwybodaeth fanwl, ewch i wefan Cyngor ar Bopeth www.adviceguide.org.uk neu ffoniwch 03454 04 05 06.
Os yw eich cynnyrch yn wasanaethau, mae Deddf Hawliau Defnyddwyr 2015 yn dweud: gallwch ofyn i ni ailadrodd neu drwsio gwasanaeth os nad yw'n cael ei wneud gyda gofal a sgiliau rhesymol, neu gael rhywfaint o arian yn ôl os na allwn ei drwsio. Os nad ydych wedi cytuno ar bris ymlaen llaw, mae'n rhaid i'r hyn y gofynnir i chi ei dalu fod yn rhesymol.
Os nad ydych wedi cytuno ar amser ymlaen llaw, mae'n rhaid ei wneud o fewn amser rhesymol.

5. Pris a thaliadau

5.1 Ble i ddod o hyd i'r pris am y gwasanaethau. Pris eich aelodaeth fydd y pris a nodir yn ein rhestr brisiau sydd mewn grym ar ddyddiad eich aelodaeth fel y nodir ymhellach yn Nhelerau ac Amodau'r Aelodaeth.

6. Ein cyfrifoldeb am golled neu ddifrod a ddioddefwyd gennych chi

6.1 Efallai y byddwn yn gyfrifol i chi am golled a difrod rhagweladwy a achosir gennym yn fwriadol. Os byddwn yn methu â chydymffurfio â'r telerau hyn, efallai y byddwn yn gyfrifol am golled neu ddifrod a ddioddefwch sy'n ganlyniad rhagweladwy i ni'n torri'r contract hwn, ar yr amod nad ydych wedi cyflawni gweithred sy'n torri unrhyw un o'r Telerau ac Amodau neu sy'n ein gorfodi i fethu â chydymffurfio â'r telerau hyn oherwydd gweithred o'r fath.

6.2 Nid ydym yn eithrio nac yn cyfyngu mewn unrhyw ffordd ar ein hatebolrwydd i chi lle byddai'n anghyfreithlon gwneud hynny. Mae hyn yn cynnwys atebolrwydd am farwolaeth neu anaf personol a achosir gan ein hesgeulustod neu esgeulustod ein gweithwyr, asiantiaid neu is-gontractwyr; am dwyll neu gamliwio twyllodrus; am dorri eich hawliau cyfreithiol mewn perthynas â'r gwasanaethau aelodaeth gan gynnwys yr hawl i dderbyn gwasanaethau aelodaeth sydd fel y'u disgrifir ac a gyflenwir gyda sgiliau a gofal rhesymol.

6.3 Nid ydym yn atebol am gostau sy'n deillio o gamau adennill dyledion. Byddwch yn ein hindemnio ni yn erbyn yr holl rwymedigaethau, costau, treuliau, iawndal a cholledion (gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i unrhyw achos uniongyrchol o golli elw, colli enw da a'r holl logau, cosbau a chostau cyfreithiol (a gyfrifir ar sail indemniad llawn) a'r holl gostau a threuliau proffesiynol rhesymol eraill) a ddioddefwyd neu a ysgwyddwyd gennym sy'n deillio o, neu mewn cysylltiad ag, unrhyw hawliad neu weithred a wnaed yn eich erbyn mewn cysylltiad ag adennill unrhyw gostau mewn perthynas â'r holl hawliadau sy'n ymwneud â chamau adennill dyledion a ddygwyd gennym sy'n deillio o'r contract hwn.

7. Sut y gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol

7.1 Sut y gallwn ddefnyddio'ch gwybodaeth bersonol. Byddwn ond yn defnyddio'ch gwybodaeth bersonol fel y nodir yn ein Polisi Preifatrwydd. Gallwch ddod o hyd i'n Polisi Preifatrwydd ar ein gwefan, o dan yr adran Polisïau.

8. Telerau pwysig eraill

8.1 Arlwyo. Darperir yr holl fwyd a lluniaeth gan ein harlwywyr enwebedig ym mhob adeilad.
8.2 Os nad yw cyfleuster yn darparu arlwyaeth, gellir trefnu dod â bwyd wedi'i becynnu eich hun i'r cyfleuster ar yr amod bod gwybodaeth am alergenau bwyd yn cael ei darparu gan y rhiant ac y ceir caniatâd ysgrifenedig gan Reolwr y Cyfleuster.
8.3 Nid ydym yn derbyn unrhyw gyfrifoldeb am fwyd a ddygir i'r safle gan y rhiant a/neu'r plant.
8.4 Arlwyo ar gyfer Digwyddiadau. Gall unrhyw wasanaeth arlwyo a ddygir i mewn i'r cyfleuster fod yn destun gordal glanhau ar gyfer eich digwyddiad.
8.5 Pa gyfreithiau sy'n berthnasol i'r contract hwn a ble y gallwch ddwyn achos cyfreithiol. Mae'r telerau hyn yn cael eu llywodraethu gan gyfraith Cymru a Lloegr a gallwch ddwyn achos cyfreithiol mewn perthynas â'r cynhyrchion yn llysoedd Cymru a Lloegr.

Mae'r Telerau ac Amodau Craidd uchod yn cynnwys y canlynol: (a) Telerau ac Amodau'r Aelodaeth; (b) Yr Amodau Defnyddio; (c) Telerau ac Amodau'r Mandad Debyd Uniongyrchol (os yw'n berthnasol); (ch) Unrhyw hysbysiadau perthnasol a arddangosir yn ein cyfleusterau neu yn ein cyfleusterau; ac (e) Unrhyw ganllawiau penodol a roddir gan aelodau'r staff yn y cyfleusterau o bryd i'w gilydd.

Os oes unrhyw wrthdaro neu amwysedd rhwng telerau'r dogfennau a restrir ym mharagraff 1 uchod, bydd term a gynhwysir mewn dogfen sy'n uwch yn y rhestr flaenoriaeth yn cael blaenoriaeth dros un a gynhwysir mewn dogfen sy'n is yn y rhestr, ac eithrio y bydd unrhyw gyfarwyddiadau uniongyrchol a / neu ddi-oed a roddir gan unrhyw aelod o staff yn y cyfleusterau i unrhyw Aelod (neu drydydd parti sy'n gysylltiedig â'r Aelod hwnnw) yn disodli pob term arall.

Amodau defnyddio

Mae eich Canolfan Hamdden gymunedol yn agor y drws i chi wneud y cam hwnnw tuag at ffordd iach ac egnïol o fyw. Ein nod yw darparu ystod fforddiadwy ac amrywiol o gyfleusterau a gweithgareddau hamdden o safon er mwyn eich mwynhad. Rydym yn ymdrechu i wneud pob ymweliad yn un cofiadwy a phleserus, felly mwynhewch a byddwch yn ddiogel. I wneud y gorau o'ch ymweliad, dilynwch ein Hamodau Defnyddio syml isod.

Prawf Adnabod

A. Mae'n ofynnol i bob cwsmer ac aelod ddangos eu cerdyn aelodaeth, botwm RFID neu fand arddwrn, derbynneb neu gôd bar yr Ap yn y dderbynfa/sweipio drwy'r pwynt mynediad llwybr carlam wrth gyrraedd y ganolfan. Gellir gwrthod mynediad am ddim i Aelodau i weithgareddau iechyd a ffitrwydd heb ddull mynediad dilys.

B. Bydd angen ffotograff wrth ymuno at ddibenion adnabod, bydd gofyn hefyd i'r rhai sy'n ymuno ar-lein gael tynnu llun ar eu hymweliad cyntaf. I gael manylion am sut y byddwn yn storio ac yn defnyddio'r wybodaeth bersonol hon, cyfeiriwch at ein Polisi Preifatrwydd.

C. Ni ellir trosglwyddo dulliau pwyntiau mynediad dilys a chodau bar yr Ap a dim ond deiliad cofrestredig y garden sy'n cael eu defnyddio. Dim ond deiliad y garden all wneud archebion.

D. Efallai y codir tâl bychan am gardiau aelodaeth mewn safleoedd lle mae'r Ap ar gael neu i gymryd lle cardiau aelodaeth sydd wedi'u colli neu eu dwyn.

Polisi archebu, canslo ac ad-dalu

Rydym am i chi fwynhau defnyddio ein cyfleusterau gwych. I wneud y gorau o'ch amser gyda ni, darllenwch ein polisi archebu, canslo ac ad-dalu.

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn rhoi'r cyfle i archebu ar-lein, gan mai dyma'r ffordd o archebu a thalu a ffefrir bellach gan y rhan fwyaf o'n cwsmeriaid. Rydym yn cydnabod nad yw pob cwsmer yn gallu neu eisiau talu neu archebu ar-lein. Er mwyn cefnogi anghenion ein holl gwsmeriaid, gellir archebu a gwneud taliadau o hyd wyneb yn wyneb neu dros y ffôn ym mhob canolfan hamdden.

A. Mae gwasanaeth Chwaraeon a Hamdden Actif yn cadw'r hawl i addasu oriau agor a chau unrhyw un o'i ganolfannau hamdden neu i gau mannau cyhoeddus at ddiben glanhau, addurno, gwaith adnewyddu, ac atgyweiriadau neu ar gyfer derbyniadau a gwyliau penodol.

B. Bydd cwsmeriaid yn cael gwybod am y newidiadau hyn ymlaen llaw lle bo modd, drwy hysbysiadau yn y ganolfan ac ar wefan Actif. Ni fydd unrhyw ad-daliadau'n cael eu hystyried pan fydd cyfleusterau'n cael eu cau am lai na mis (mae hyn yn berthnasol i gwsmeriaid sy'n talu trwy danysgrifiad misol).

C. Argymhellir yn gryf eich bod yn archebu pob gweithgaredd perthnasol ymlaen llaw (megis sesiynau ffitrwydd, dosbarthiadau ymarfer corff, chwaraeon â raced, Maes Chwarae Amlddefnydd). Mae pob sesiwn yn dibynnu ar yr hyn sydd ar gael ac ni ellir eu sicrhau.

D. Gall aelodau sy'n talu drwy ddebyd uniongyrchol bob mis archebu hyd at 14 diwrnod ymlaen llaw. Gall aelodau sy'n talu fesul sesiwn archebu hyd at 5 diwrnod ymlaen llaw, (y gallu i archebu ymlaen llaw yw un o fanteision cael aelodaeth debyd uniongyrchol)

E. Mae angen o leiaf tair awr o rybudd ar gyfer canslo unrhyw weithgaredd a archebir ymlaen llaw ar-lein, heblaw ar gyfer sesiynau yn y Neuadd Chwaraeon, lle mae angen o leiaf 24 awr o rybudd ar gyfer canslo. Os methir â gwneud hynny bydd yn rhaid i ddeiliad y cerdyn dalu ffi canslo o £3.00. Mae'n rhaid talu ôl-ddyled cyn y gellir gwneud archebion pellach. Nid yw hyn yn berthnasol i gyrsiau.

F. Ni ellir canslo ar-lein oni bai eich bod yn aelod debyd uniongyrchol, ac mae'r gweithgaredd wedi'i gynnwys yn eich aelodaeth. Gall pob cwsmer arall gysylltu â Phrif Swyddfa Actif yn uniongyrchol drwy anfon e-bost at actif@carmarthenshire.gov.uk, neu ganslo yn un o'n canolfannau a fydd yn cyfeirio eich cais at y tîm aelodaeth.

G. Ni ellir rhoi ad-daliadau ar gyfer archebion talu fesul sesiwn. Gellir symud archebion talu fesul sesiwn ar yr amod bod digon o rybudd wedi'i roi (o leiaf 3 awr)

H. Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn cadw'r hawl i ganslo cyrsiau. Mae lefelau gofynnol o ran presenoldeb yn cael eu gosod ar gyfer cyrsiau ac felly maent yn ddibynnol ar y galw. Bydd Chwaraeon a Hamdden Actif yn rhoi ad-daliad i gwsmeriaid lle mae Actif wedi canslo cwrs neu sesiwn. Os mai dim ond rhan o'r cwrs sy'n cael ei ganslo, bydd yr ad-daliad yn cael ei roi pro-rata.

J. Mae'n rhaid i'r cwsmer roi rhybudd o 1 diwrnod calendr cyn i'r cwrs ddechrau, ni roddir ad-daliad am unrhyw sesiynau y mae wedi methu â'u mynychu.

K. Os archebir gweithgaredd ymlaen llaw, mae'n rhaid talu ar adeg archebu i sicrhau'r archeb.

L. Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn cadw'r hawl i ddiwygio'r polisi hwn ar unrhyw adeg heb rybudd a bydd yn cyhoeddi unrhyw welliannau yn unol â hynny.

 

Diogelu Data 

Mae Chwaraeon a Hamdden Actif yn Rheolwr Data at ddibenion deddfwriaeth diogelu data. Caiff yr holl wybodaeth bersonol ei chadw a'i phrosesu yn unol â hyn. Gweler ein Hysbysiadau Preifatrwydd i gael rhagor o fanylion.

Cyfleusterau

A. Rydym yn cadw'r hawl i dynnu'r cyfan neu unrhyw ran o'n cyfleusterau yn ôl am gyfnodau byr i wneud gwaith cynnal a chadw rheolaidd ac ar gyfer arddangosfeydd/digwyddiadau. Byddwn bob amser yn ymdrechu i roi rhybudd ymlaen llaw i Aelodau o'r amseroedd hyn (lle bo'n bosibl) ac ni fydd unrhyw ad-daliadau'n berthnasol o dan yr amgylchiadau hyn ar yr amod nad ydynt yn digwydd mwy na 10 gwaith mewn unrhyw gyfnod o 12 mis.

B. Os yw eich Canolfan Hamdden ar gau am fwy na 7 diwrnod yn olynol ac nad ydym yn darparu cyfleuster arall (gall hyn fod yn gyfleuster gyda llai o wasanaethau neu gyfleuster dros dro) yn eich Canolfan Hamdden neu rywle hyd at 10 milltir o'ch Canolfan Hamdden, byddwn yn ad-dalu canran o'ch ffioedd aelodaeth sy'n ymwneud â'r cyfnod y mae eich Canolfan Hamdden ar gau, ond heb gynnwys y 7 diwrnod cyntaf.

C. Nid yw hyn yn berthnasol os byddwn yn cau cyfleuster cyfan yn barhaol (er enghraifft, y pwll, y gampfa, y stiwdio neu'r cyfleusterau allanol), neu os oes rhaid i ni gau'r cyfleuster oherwydd rhesymau y tu hwnt i'n rheolaeth.

Parch at Eraill

A. Ni fydd y ganolfan yn derbyn unrhyw ymddygiad ymosodol, bygythiol a threisgar tuag at ein staff. Byddwn yn erlyn unrhyw un sy'n ymosod neu'n dychryn aelod o'n tîm.

Iechyd a Diogelwch

A. Os oes gennych gyflwr meddygol a allai effeithio ar eich diogelwch, neu ddiogelwch pobl eraill, mae'n rhaid i chi roi gwybod i'r derbynnydd ar unwaith wrth gyrraedd.

B. Mae defnyddwyr cyfleusterau yn gyfrifol am eu hiechyd a'u diogelwch eu hunain a dylent gynnal eu gweithgareddau mewn modd diogel bob amser er mwyn peidio ag effeithio ar iechyd a diogelwch eu hunain neu eraill pan fyddant ar y safle.

C. Mae'n ofynnol i chi wisgo esgidiau addas sy'n cael eu gwirio'n rheolaidd ar gyfer y gweithgaredd sy'n cael ei wneud.

D. Gellir gwrthod mynediad i unrhyw berson yr ystyrir ei fod yn berygl iddynt eu hunain neu i eraill.

E. Os bydd damwain neu ddigwyddiad, mae'n rhaid i chi roi gwybod i aelod o'n tîm ar unwaith.

F. Er mwyn diogelwch a diogeledd, peidiwch â defnyddio unrhyw loceri ar ôl i'r ganolfan gau.

G. Os ydych chi neu aelod o'ch cartref yn dangos symptomau COVID-19, mae'n rhaid iddynt ddilyn canllawiau diweddaraf y llywodraeth o ran ynysu a rhoi gwybod a pheidio â dod i'r ganolfan hamdden nes ei bod yn ddiogel gwneud hynny.

H. Ar bob adeg, mae'n rhaid i chi gydymffurfio â'r cyfarwyddiadau a ddangosir ac unrhyw gyfarwyddiadau a roddir gan staff ynghylch cadw pellter cymdeithasol, defnyddio a glanhau offer, defnyddio'r pwll nofio ac ardaloedd eraill y tu mewn neu'r tu allan yn y cyfleusterau.

Pwll Nofio

A. Dilynwch yr holl gyfarwyddiadau a ddarperir gan ein tîm o achubwyr bywyd i wneud yn siŵr eich bod yn mwynhau'ch ymweliad cymaint â phosibl. Mae hyn yn cynnwys dilyn yr arwyddion cyfeirio ar ddiwedd pob lôn. Gall pob lôn ddal 6 - 8 o nofwyr.

B. Ni chaniateir gwisgo esgidiau awyr agored yn Neuadd y Pwll ar unrhyw adeg.

C. Mae'n rhaid i gwsmeriaid ddilyn cymarebau nofio dynodedig y ganolfan o ran oedolion i blant. Gofynnwch yn y dderbynfa am ragor o fanylion.

D
. Ni fydd bandiau braich, cymhorthion arnofio a fflotiau yn cael eu darparu i gwsmeriaid i'w llogi. Mae offer priodol ar gael i'w brynu o'r dderbynfa.

E. Dim ond mewn ardaloedd dynodedig y caniateir deifio. Peidiwch â deifio i ddŵr bas.

F. Er mwyn helpu i gynnal ansawdd y dŵr, gofynnir ichi gael cawod cyn defnyddio'r pwll nofio.

G. Os bydd argyfwng, mae'n rhaid i chi glirio'r pwll nofio a dilyn y cyfarwyddiadau a ddarperir gan yr achubwyr bywyd.

H. Rydym yn argymell bod babanod a phlant bach yn defnyddio cewynnau sy'n addas ar gyfer y dŵr, sydd ar gael i'w prynu o'r dderbynfa.

I. Peidiwch â nofio am o leiaf 48 awr ar ôl dioddef o chwydu neu ddolur rhydd neu nofio am 14 diwrnod ar ôl i symptomau dolur rhydd ddod i ben os dywedwyd wrthych fod gennych griptosporidiwm.

Ystafell Ffitrwydd a Stiwdios

A. Cyn defnyddio unrhyw offer ffitrwydd mae'n ofynnol i chi ymgymryd â sesiwn gyflwyno dan oruchwyliaeth gydag aelod o'r tîm Iechyd a Ffitrwydd. Dylid archebu sesiynau cyflwyno ymlaen llaw; bydd hyn yn sicrhau argaeledd ac yn lleihau'r siom o wrthod mynediad ichi.

B. Mae'n rhaid defnyddio cyfarpar a chyfleusterau mewn modd diogel ac yn unol â hyfforddiant neu arweiniad a roddir gan aelod cymwys o staff neu arwyddion perthnasol; ni ddylid defnyddio unrhyw offer na chyfleusterau os na dderbyniwyd canllawiau na hyfforddiant. Os na fyddwch yn dilyn y canllawiau hyn, nid yw Actif yn gyfrifol am unrhyw anafiadau neu ddamwain a achosir.

C. Ni chaniateir unrhyw blant o dan 14 oed naill ai yn yr ystafell ffitrwydd neu'r stiwdio ddawns, oni bai eu bod yn mynychu sesiwn dan oruchwyliaeth neu sesiwn ddynodedig neu yng nghwmni oedolyn cyfrifol.

D. Mae'n rhaid i bob pwysau rhydd gael eu rhoi'n ôl ar ôl eu defnyddio.

Ystafelloedd Newid

A. Gall plant o dan 8 oed newid yn ystafell newid y rhiant/oedolyn sydd gyda nhw'n gwmni, boed yn wryw neu fenyw.

B. Bydd unrhyw eitemau sy'n cael eu darganfod gennym, gan gynnwys eitemau sydd wedi'u gadael mewn loceri ar ddiwedd y dydd yn cael eu symud a'u cadw mewn storfa.

C. Mae'n ofynnol i ni gadw'r rhan fwyaf o eitemau o ddillad/offer ac ati sy'n cael eu darganfod am hyd at bedair wythnos. Ar ôl yr amser hwn, rydym yn cadw'r hawl i waredu'r eitemau hyn fel y gwelwn yn dda. Am resymau hylendid, nid ydym yn cadw eitemau o ddillad isaf, brwsys gwallt a chribau ac ati.

D. Mae'n rhaid i bob ysgol oruchwylio eu disgyblion yn ddigonol bob amser ac ni fyddwn yn gyfrifol am unrhyw ddisgyblion na'u gweithredoedd na'u hymddygiad.

Llogi Cyfleuster (Cyffredinol) - mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein Hamodau Llogi

A. Bydd y llogwr yn llenwi ffurflen gais llogwr ac yn cadw at amod y cytundeb llogi, byddant hefyd yn gyfrifol am dalu ac unrhyw daliadau eraill sy'n ymwneud â'r llogi.

B. Bydd y llogwr yn rhoi enw'r person cyfrifol am sicrhau bod rheoliadau a chanllawiau Covid 19 yn cael eu dilyn bob amser yn ystod y cyfnod llogi.

C. Ni ddylai'r llogwr neilltuo nac is-osod yr hawl i ddefnyddio'r cyfleusterau ac mae'n rhaid iddo ddefnyddio'r cyfleuster at y diben y cytunwyd arno yn unig.

D. Mae angen taliad na ellir ei ad-dalu i sicrhau archeb am ddigwyddiad o leiaf 30 diwrnod cyn eich digwyddiad. Gall methu â gwneud hynny arwain at ganslo yn ôl disgresiwn y rheolwr.

E. Ar gyfer gweithgareddau a phartïon, rhaid gwneud taliad llawn ar adeg archebu. Bydd gan bob parti pen-blwydd nifer penodol o blant wedi'u cynnwys yn ffi'r parti. Codir ffi bellach ar gyfer unrhyw blant ychwanegol.

F. Bydd angen talu'r holl archebion rheolaidd yn llawn o fewn 10 diwrnod i ddyddiad archebu cyntaf yr archeb gychwynnol.

G. Rydym yn ceisio cynnal safonau uchel ym mhob rhan o'r cyfleusterau ac yn disgwyl i bob defnyddiwr a llogwr gyfrannu at hyn. Bydd pob llogwr yn gyfrifol am unrhyw ddifrod a achosir gan fynychwyr a chyfranogwyr digwyddiadau/gweithgareddau. Mae'n rhaid i'r llogwr sicrhau bod yr holl fynychwyr a'r cyfranogwyr yn cadw at y 'telerau ac amodau craidd' a'r 'amodau defnyddio'.

H. Mae'n rhaid i'r llogwr sicrhau bod yr holl fynychwyr a'r cyfranogwyr digwyddiadau/gweithgareddau ddangos ystyriaeth tuag at drigolion lleol sy'n byw ger y ganolfan - yn enwedig gyda'r nos - yn ogystal ag aelodau. Bydd lefelau sŵn yn cael eu cadw ar lefel sy'n dderbyniol a bydd lefelau sŵn yn cael eu gostwng ar unwaith os bydd aelod o staff yn rhoi cyfarwyddyd i wneud hynny.

I. Bydd pob ardal yn cael ei gadael yn lân, yn daclus a heb ei difrodi. Codir tâl ar y llogwr am unrhyw waith glanhau, gwaredu gwastraff, trwsio neu waith cyfnewid eitemau angenrheidiol ychwanegol a wneir gennym o ganlyniad i'r digwyddiad/llogi/gweithgaredd sy'n daladwy o fewn 30 diwrnod.

J. Mae'n rhaid gwisgo dillad priodol ar gyfer pob gweithgaredd.

K. Bydd y llogwr yn atebol am unrhyw dreuliau ychwanegol a ysgwyddir gennym os yw'r digwyddiad/gweithgaredd yn rhedeg dros amser.

L. Ni fydd y llogwr yn rhoi hawliau sain, darlledu teledu na ffilmio heb ganiatâd amodol ymlaen llaw gan reolwr y cyfleuster.

M. Mae'n rhaid rhoi gwybod i'r Rheolwr Dyletswydd ar unwaith am unrhyw ddamwain, anaf neu ddifrod.

N. Mae'n rhaid ichi ond parcio yn y mannau parcio dynodedig a dim ond ceir sy'n arddangos bathodynnau anabl all barcio yn y mannau parcio i'r anabl.

O. Mae'n RHAID rhoi gwybod am unrhyw ffotograffiaeth neu recordio fideo i'r Dderbynfa lle gofynnir i chi lenwi ffurflen a bydd trwydded yn cael ei chyflwyno gan y Rheolwr Dyletswydd ar y safle.

P. Mae'n bosibl y bydd y ganolfan a thrydydd partïon yn gwneud gwaith ffilmio cyffredinol a recordio sain. Mae mynediad i'r ganolfan yn dynodi eich caniatâd iddynt gael eu defnyddio am byth ac ym mhob cyfrwng heb unrhyw hawliau i daliadau.

Q. Rydych yn cydnabod y gall cyfyngiadau a thelerau ychwanegol fod yn berthnasol i ddigwyddiadau, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i addurniadau a phyrotechnegau. Mae'n rhaid i chi holi'r rheolwr digwyddiadau am fanylion unrhyw delerau neu gyfyngiadau ychwanegol cyn archebu.

R. Gall y llogwr dim ond gynnig gweithgaredd tebyg neu'r un peth â'r hyn a ddarperir gennym gyda chaniatâd ysgrifenedig y rheolwr contract.

S. Bydd offer yn cael ei osod a'i dynnu lawr yn ystod eich amser llogi.

T. Ni ellir storio unrhyw offer ar y safle heb ganiatâd ysgrifenedig rheolwr.

U. Os yw'r rheolwyr yn y ganolfan o'r farn nad yw'r llogwr yn gwneud defnydd addas o'r cyfleusterau, mae'r rheolwyr yn cadw'r hawl i ail-ddyrannu unrhyw rannau sydd heb eu defnyddio. Byddwn yn darparu achubwyr bywyd ar gyfer pob archeb pwll a chodir tâl am hyn yn unol â hynny. Yn achos archebion nofio tanddwr a chanŵio, bydd angen dangos cymwysterau addas ar adeg archebu.

V. Mae'n rhaid i bob defnyddiwr/llogwr gydymffurfio â'r amodau defnyddio hyn, rhoi sylw i ddiogelwch, ac ymddwyn yn ystyriol tuag at ddefnyddwyr eraill, cydweithwyr, yr adeilad a'r offer. Mae'n bosibl y gofynnir i unrhyw ddefnyddiwr/llogwr nad yw'n gwneud hynny adael y ganolfan a rhaid iddo adael ar unwaith os gofynnir iddo wneud hynny. Chi sy'n gyfrifol am ymddygiad unrhyw blant rydych chi'n dod â nhw i'r ganolfan ac mae'n rhaid i chi esbonio unrhyw reolau ac amodau perthnasol iddyn nhw. Mae'n rhaid i chi gydymffurfio â hysbysiadau ac arwyddion sy'n cael eu harddangos yn y ganolfan.

W. Byddwn yn codi ffi ychwanegol am unrhyw ddifrod a achosir (damweiniol neu fwriadol) gan fynychwyr digwyddiadau/gweithgareddau a/neu gyfranogwyr er mwyn trwsio neu gyfnewid eitemau. Codir tâl am unrhyw waith atgyweirio ychwanegol neu waith cyfnewid eitemau angenrheidiol a wneir gennym o ganlyniad i'r digwyddiad ac mae'n rhaid ei dalu o fewn 15 diwrnod. Os defnyddir asiant casglu dyledion i adennill arian sy'n ddyledus i ni, yna codir tâl ar y cleient am ffioedd yr asiant.

X. Ni chaniateir i unrhyw logwr:
I. Rhoi anifeiliaid byw i ffwrdd fel gwobrau;
II. Rhoi arddangosfeydd, arddangosiadau neu berfformiadau o hypnotiaeth ar ein safle;
III. Defnyddio ein safle ar gyfer hapchwarae neu fetio ac eithrio hapchwarae cyfreithlon a wneir yn unol â Deddf Hapchwarae 2005; neu
IV. Casglu arian ar y safle gan gyfranogwyr heblaw drwy ganiatâd ysgrifenedig y rheolwr.

Y. Ni ddylid dod â'r canlynol i mewn i'r safle heb ganiatâd ysgrifenedig y rheolwr:
I. Llestri a gwydr;
II. Anifeiliaid anwes (ac eithrio cŵn tywys);
III. Eitemau bwyd, diod neu fanwerthu;
IV. Offer trydanol; neu
V. Sylweddau peryglus

Llogi Untro ac Archebion Bloc gan Glybiau

A. Dim ond pan fyddwch yn derbyn cadarnhad ysgrifenedig o'r ganolfan y caiff eich cais ei gadarnhau.

B. Nid yw derbyn eich archeb yn gwarantu archebion pellach.

C. Mae'n rhaid i chi ddarparu, cyn eich sesiwn gyntaf, gopi o:
I. Manylion yr holl hyfforddwyr, gan gynnwys cymorth cyntaf, cymwysterau hyfforddi a gwiriadau DBS;
II. Manylion ymlyniad sydd gan y clwb gyda'r corff llywodraethu;
III. Yswiriant ar gyfer atebolrwydd cyhoeddus sy'n cwmpasu £5,000,000;
IV. Dylai'r llogwr sicrhau y bydd personau â chymwysterau addas sy'n briodol i'r gweithgaredd yn bresennol bob amser. Dylid trosglwyddo copïau o'r cymwysterau i'r rheolwyr wrth archebu.

Llogi ar gyfer Digwyddiadau

A. Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod gan y rheolwr digwyddiadau yr holl wybodaeth berthnasol ar amser ar gyfer eich archeb. Gall unrhyw wybodaeth na roddir i'r rheolwr digwyddiadau cyn eich archeb arwain at ganslo yn ôl disgresiwn y rheolwr.

B. Os ydym yn darparu arlwyo yn eich digwyddiad, mae angen niferoedd arnom o leiaf 1 wythnos ymlaen llaw. Nid yw arlwyo wedi'i warantu os na ddarperir y wybodaeth hon yn brydlon.

Gweithgareddau Ar-lein

A. Bydd ymarfer corff gartref drwy Actif Unrhyw le yn dod yn gysylltiedig â risg ond nid yw Actif yn gyfrifol am ddamweiniau, anafiadau neu ddifrod a achosir oherwydd darpariaeth ddigidol.

Diogelu

A. Mae'n rhaid i glybiau neu sefydliadau sy'n llogi cyfleusterau i ddarparu gweithgareddau sy'n cael eu rheoleiddio drwy ddarparu sesiynau addysgu, hyfforddiant, cyfarwyddyd, gofalu am blant neu oedolion sydd mewn perygl, neu eu goruchwylio, ddarparu manylion i Reolwr y Ganolfan am:
I. Polisi diogelu clybiau neu sefydliadau;
II. Enw'r clwb neu swyddog diogelu'r sefydliad; a
III. Tystiolaeth o wiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd wedi'u cwblhau ar gyfer pob hyfforddwr.

Atebolrwydd

A. Nid ydym yn derbyn unrhyw atebolrwydd am nwyddau sy'n cael eu colli neu eu dwyn tra byddant ar ein safle oni bai o ganlyniad uniongyrchol i'n hesgeulustod. Mae eiddo sy'n cael ei storio mewn loceri ar eich menter eich hun. Eich cyfrifoldeb chi yw ceir sydd wedi'u parcio yn y maes parcio a'r holl gynnwys ynddynt ac ni fyddwn yn derbyn atebolrwydd am golled neu ddifrod.

Cyfraith ac Awdurdodaeth

A. Bydd yr Amodau Defnyddio hyn yn cael eu llywodraethu a'u dehongli yn unol â chyfreithiau Cymru a Lloegr. Bydd anghydfodau sy'n codi yma yn ddarostyngedig i awdurdodaeth llysoedd Cymru a Lloegr yn unig. Mae'n rhaid cychwyn unrhyw achos o weithredu sydd gennych mewn perthynas â'ch defnydd o'r safle hwn o fewn blwyddyn ar ôl i'r hawliad neu'r achos o weithredu godi.

Datganiad

Rwyf wedi darllen a deall yr Amodau Defnyddio uchod ac rwy'n cytuno i gael fy rhwymo ganddynt hwy ac unrhyw ddiwygiadau dilynol eraill. Deallaf ymhellach bod yr Amodau Defnyddio hyn yn ffurfio rhan o'm haelodaeth yn unig ac y bydd telerau ac amodau eraill yn berthnasol.

CAEL HWYL, BOD YN DDIOGEL AC YSTYRIED ERAILL
- GWNEWCH yn siŵr eich bod yn iach i wneud ymarfer corff.
- GWNEWCH yn siŵr eich bod wedi gwisgo'n addas ar gyfer y gweithgareddau rydych yn cymryd rhan ynddynt.
- GWNEWCH yn siŵr bod eich holl eiddo personol yn ddiogel yn y loceri a ddarperir.
- GOFYNNWCH am gymorth ar unrhyw adeg gan aelod o'n tîm.
- COFIWCH drin yr holl offer gyda pharch.
- COFIWCH roi gwybod i staff os ydych chi'n cymryd meddyginiaeth, neu os oes gennych unrhyw gyflyrau meddygol penodol cyn defnyddio unrhyw gyfleusterau.
- PEIDIWCH â gollwng sbwriel o amgylch y ganolfan.
- PEIDIWCH ag ysmygu, ni chaniateir ysmygu yn y ganolfan na'i thiroedd.
- PEIDIWCH â thynnu lluniau tra byddwch yn y ganolfan.
- PEIDIWCH â defnyddio offer delweddau llonydd neu symudol heb awdurdodiad ffurfiol.
- PEIDIWCH ag anghofio dod â'ch aelodaeth, eich carden achlysurol neu'ch derbynneb ddilys i gael mynediad i'r ganolfan.
- PEIDIWCH â
 bwyta wrth ymarfer corff.
Gobeithiwn y byddwch yn mwynhau eich ymweliad ac rydym yn croesawu awgrymiadau a allai wella eich ymweliadau yn y dyfodol.

1. Mae'r Telerau ac Amodau Craidd uchod yn cynnwys y canlynol:
(a) Telerau ac Amodau'r Aelodaeth;
(b) Yr Amodau Defnyddio;
(c) Telerau ac Amodau'r Mandad Debyd Uniongyrchol (os yw'n berthnasol);
(d) Unrhyw hysbysiadau perthnasol a arddangosir yn ein cyfleusterau neu yn ein cyfleusterau; ac
(e) Unrhyw ganllawiau penodol a roddir gan aelodau staff yn y cyfleusterau o bryd i'w gilydd.

2. Os oes unrhyw wrthdaro neu amwysedd rhwng telerau'r dogfennau a restrir ym mharagraff 1 uchod, bydd term a gynhwysir mewn dogfen sy'n uwch yn y rhestr flaenoriaeth yn cael blaenoriaeth dros un a gynhwysir mewn dogfen sy'n is yn y rhestr, ac eithrio y bydd unrhyw gyfarwyddiadau uniongyrchol a / neu ddi-oed a roddir gan unrhyw aelod o staff yn y cyfleusterau i unrhyw Aelod (neu drydydd parti sy'n gysylltiedig â'r Aelod hwnnw) yn disodli pob term arall.