Partion Penblwydd

AMSER I DDATHLU! Mae gennym amrywiaeth o bartion pen-blwydd i sicrhau bod gan eich plentyn lawer o hwyl wrth ddathlu eu diwrnod arbennig gyda ffrindiau. 

Dathlwch ben-blwydd eich plentyn mewn steil gydag un o'n pecynnau pen-blwydd hwyliog.

PARTION PWLL NOFIO

(Rhaid archebu lle i o leiaf 15 o blant)

Ar gael ym Mhwll Nofio Dyffryn Aman, Caerfyrddin, Llanelli a Llanymddyfri.

Mae pob canolfan yn cynnig gwahanol opsiynau megis fflôt, ynys, sleidiau a byrddau deifio.

Cynhelir partïon pwll ar ddiwrnodau ac amserau ymroeddedig. Ewch i un on pyllau nofio agosaf am fanylion.

Children on an inflatable in the pool

Partion yn y Neuadd Chwaraeon

(Rhaid archebu lle i o leiaf 12 o blant)

Mwynhewch un o'n partïon chwaraeon yn y neuadd chwaraeon dan arweiniad un o’n hyfforddwyr profiadol.

Mae'r chwaraeon yn cynnwys pêl-droed, pêl-rwyd, beicio, hoci neu racedi. Dewiswch un gamp ar gyfer y parti cyfan neu rannwch y neuadd i gael cymysgedd o gampau.

Children playing hockey in a sports hall

Canolfan Chwarae

  • (Rhaid archebu lle i o leiaf 12 o blant)

    Dim ond yng Nghanolfan Hamdden Caerfyrddin. Mae'r ganolfan chwarae'n cynnwys rig antur tair haen lle gall plant archwilio nodweddion hwyliog gan gynnwys twneli, cerrig camu, pontydd rhaff, sleidiau a llawer mwy!

    Wrth archebu parti yn y ganolfan chwarae ni fydd gennych ddefnydd unigryw.

play area and seating area

Beth mae'r partion yn cynnwys?

  • 1 awr o weithgaredd o'ch dewis
  • Trefnydd penodol ar gyfer eich parti ac ar y diwrnod
  • Dewis o fwyd parti*
  • Hufan Ia*
  • Sgwash diderfyn*
  • Ardal benodol ar gyfer bwyd*

* ddim ar gael yng nghanolfannau hamdden Dyffryn Aman, Llanymddyfri, Sancler a Castell Newydd Emlyn

 

Prisiau Partion Penlwydd:

Canolfan Hamdden Caerfyrddin a Llanelli (y plentyn am 90 munud, bwyd dwym/oer wedi'i gynnwys) - £12.40

Carmarthen and Llanelli leisure centre (y plentyn am 120 munud, bwyd dwym/oer wedi'i gynnwys) - £14.70

Canolfan Hamdden Dyffryn Aman, Llanymddyfri, Castell Newydd Emlyn a Sancler (y plentyn am 90 munud, heb bwyd) - £7.80

Amman Valley, Llandovery, Newcastle Emlyn and St Clears leisure centre (y plentyn am 120 munud, heb bwyd) - £10.10

I ARCHEBU PARTI

Cwblhewch y ffurflen ymholiad isod a bydd aelod o'r tîm yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth ac argaeledd.

Please enter a landline or mobile number

(Please include as much information as possible in your message to help us deal with your enquiry as efficiently as possible about your booking request)